Mae Mis Hanes LHDT+ yn ddigwyddiad blynyddol mis o hyd sy’n dathlu hanes lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws ac anneuaidd, gan gynnwys hanes hawliau LHDT+ a mudiadau hawliau sifil cysylltiedig.

Yn y DU fe'i dethlir ym mis Chwefror bob blwyddyn, i gyd-fynd â diddymu Cymal 28 yn 2003. 

Cychwynnwyd Mis Hanes LHDT+ yn y DU gan Schools Out UK ym mis Chwefror 2005. Bwriad y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth am, a gwelededd, bywydau, hanesion a phrofiadau pobl LHDT+  a mynd i'r afael â rhagfarn.


Digwyddiadau

Beth mae Mis Hanes LHDT+ yn ei olygu i fi

Dave Sinclair.jpg

David Sinclair, Cynorthwy-ydd Parth Cyngor

Mae Mis Hanes LHDT+ yn ddigwyddiad calendr pwysig gan ei fod yn gyfle i ganolbwyntio ar y  cyfraniad pwysig rydyn ni wedi'i wneud drwy gydol hanes.

Mae hefyd yn gyfle i roi'r ymgyrch barhaus dros gydraddoldeb yn ei chyd-destun. Roedd ffigurau hanesyddol fel Marsha P Johnson yn arloeswyr croestoriadedd – sef cydnabod y cysylltiad rhwng gwahanol feysydd o anghydraddoldeb megis hil, cyfeiriadedd rhywiol a dosbarth. Rydyn ni’n dal i ddysgu'r gwersi hynny ac mae llawer i'w wneud o hyd.

Emma Adamson.JPG

Emma Adamson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgu

Wrth ddathlu Mis Hanes LHDT+, fel menyw hoyw, rwy'n cydnabod bod y rhyddid rwy'n elwa ohono, boed yn gyfreithiol, yn ddiwylliannol, yn bersonol neu’n broffesiynol, gen i diolch i'r rhai sydd ...

...wedi dod o fy mlaen i ac i'r bobl LHDT+ a chynghreiriaid sydd wedi gwneud bywydau LHDT+ yn well, yn fwy diogel ac yn decach.

Yn gweithio mewn Addysg Uwch, rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r pŵer sydd gan hanes i’n helpu i wneud synnwyr o'n byd, a'n lle ynddo. I fi, fel llawer o bobl, roedd drama anhygoel Channel 4 Russell T. Davies am yr argyfwng AIDS, 'It's a Sin’, yn enghraifft bwerus o sut mae ffuglen ac adrodd straeon yn ein helpu i ddeall y gwleidyddol.

I'r rhai ohonom a wyliodd (La!), roedd y ddrama’n drasig, yn dorcalonnus, ond yn llon ac yn llawn bywyd hefyd. Cyflwynodd ein hanes gyda phŵer ac angerdd, ein hanes gwleidyddol a hanes ein balchder a’n chyfeillgarwch hefyd. Roeddwn i’n ddisgybl ysgol pan ddarlledwyd hysbysebion ‘cerrig bedd’ AIDS, ac er fy mod yn cofio'r ofn a'r hysteria’n dda, a’r homoffobia o gylch AIDS, roeddwn i’n rhy ifanc iddo effeithio’n uniongyrchol arna i bryd hynny. Ond fe barhaodd yr ofn a’r pryder am fywydau LHDT+ yn waddol.

Drwy rannu hanesion, tynnu sylw at fywydau a naratifau LHDT+, gallwn i gyd ddeall yn well y cynnydd sydd wedi'i wneud, a'r gwaith sy'n dal i'w wneud.

Felly, mae'r mis Hanes LHDT+ hwn yn gyfle gwych i ddod i wybod am y bywydau LHDT+ hynny, ac i ddathlu profiadau byw, gyda Balchder. 

Ray Vincent

Ray Vincent, Aelod o Dîm Caplaniaeth PDC a Chadeirydd SPECTRUM

Mae Mis Hanes LHDT+ yn fy nghyffwrdd i’n bersonol mewn o leiaf tair ffordd. Yn gyntaf, a minnau yn fy 80au, rwy'n ei ystyried yn gyfle i ddathlu'r cynnydd anhygoel sydd wedi'i wneud yn ystod fy oes, ...

 ... ac i dalu teyrnged i'r bobl ddewr sydd wedi helpu i wireddu’r cynnydd hwnnw – sylfaenwyr sefydliadau fel yr Ymgyrch dros Gydraddoldeb Cyfunrywiol, y Mudiad Cristnogol Lesbiaidd a Hoyw, Stonewall ac eraill, a phobl fel Peter Tatchell sydd wedi ymgyrchu dros gymunedau ymylol am 50 mlynedd ar gost bersonol fawr.

Yn ail, fel gweinidog Cristnogol, rwy’n ymwybodol iawn bod crefydd yn cael ei defnyddio gan lawer i gyfiawnhau’r gwahaniaethu y mae pobl LHDT+ yn ei ddioddef. Mae'r mis hwn yn gyfle i leisio fy nghred mai gan Dduw y daw pob gwir fynegiant o gariad.

Yn drydydd, rwyf wedi dod yn ffrindiau'n ddiweddar gyda phobl yn Affrica y mae eu bywydau yn llythrennol o dan fygythiad oherwydd eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhywedd. Mae pethau'n dal yn anodd i lawer o bobl yma yn y DU, ond yn  y gymuned brifysgol amlwladol hon mae gennym gyfle i fod yn gefn i bobl sy'n dod o rannau o'r byd lle mae pethau'n llawer gwaeth, neu eu herio pan fo angen.

Roedd yr holl themâu hyn wedi'u hymgorffori yn yr Archesgob Desmond Tutu, fu farw ychydig wythnosau'n ôl. Roedd yn arwr yn y frwydr yn erbyn apartheid ac yn bensaer y 'genedl enfys' newydd, wrth gwrs, ond roedd yn angerddol wrth amddiffyn rhyddid a gwerth pobl LHDT+ hefyd, a hynny ar adeg pan nad oedd llawer yn gwneud hynny yn Affrica. I fi, bydd y mis hwn yn ddathliad ohono fe, a bydd hefyd yn fy herio i i barhau â'r frwydr, yn fy ffordd fach fy hun.

Will Simpson

Will Simpson – Myfyriwr, Technoleg Gwybodaeth a  Chyfathrebu

Yn ystod Mis Hanes LHDT+, roddwn am rannu fy mhrofiad fy hun. Dydw i erioed wedi siarad am hyn mewn gwirionedd tan nawr… Roedd yn ddydd Mawrth ym mis Tachwedd 2018, ...

... ac fe newidiodd y dydd Mawrth hwnnw fy mywyd am byth! Des i i fod y fersiwn orau ohonof fy hun – dywedais i wrth bobl fy mod i’n wahanol – do, des i allan i fy ffrindiau a fy nheulu a dweud wrthyn nhw fy mod i’n wahanol, achos mae bod yn wahanol yn wych. Roeddwn i yn y coleg pan newidiodd fy mywyd am byth – newidiodd mewn eiliadau. Fe anfonais i neges destun syml at fy ffrindiau a fy nheulu a dweud fy mod i’n wahanol, ac fy mod i’n hoffi dynion. A beth sydd o’i le ar hynny? Ydw, rwy’n hoyw a dod allan oedd y peth gorau rydw i erioed wedi ei nweud. Roeddwn i wastad yn gwybod fy mod i’n wahanol. Roedd pobl yn gwneud sbort am y ffordd roeddwn i’n siarad ac am fy llais yn yr ysgol. Bod yn chi eich hun yw’r peth pwysicaf y gallwch fyth ei wneud.

Am gyfnod hir iawn, roedd ofn arna i, roeddwn i’n poeni a phryderu, ac yn teimlo ar fy mhen fy hun. Roeddwn i mewn lle tywyll iawn am gyfnod hir iawn – roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n bryd peidio â byw celwydd bellach. Roeddwn i’n pryderu am ddweud wrth bobol, ond pan wnes i, roedd fel anadl iachaol newydd. Roedd yn teimlo fel fy mod i wedi fy ail-greu’n berson gwell. Rwy’n berson niwroamrywiol, ac roeddwn i’n poeni am hynny hefyd. Ond dod allan fel person LHDTC+ yw’r peth gorau wnes i erioed, ac roedd fel troi’n Ddoctor Who newydd.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach rwyf bellach yn byw yn ne Cymru ac yn astudio yn PDC, sef penderfyniad gwych arall a wnes i – cofleidio fy ngwir hunaniaeth a chofleidio fy ngradd. Rwyf wastad wedi defnyddio geiriau’r Trydydd Doctor ar Ddeg, Jodie Whittaker: “Mae gan bawb ohonon ni’r gallu i newid yn ddirfawr. Gallwn esblygu tra’n aros yn driw i ni’n hunain. Gallwn anrhydeddu pwy fuon ni a dewis pwy ydyn ni am fod nesaf.”

Martha Rogers_small.jpg

Martha Rogers, Swyddog Marchnata Gweithredol

Fel milenial cwîar, mae llawer o adegau diffiniol o hanes LHDTC+ nad oes gen i brofiad byw ohonyn nhw. Dydw i ddim yn cofio dechrau’r mudiad hawliau hoyw, ...

... y mae llawer yn ystyried iddo ddechrau gyda Gwrthgodiad Stonewall.

Wnes i ddim profi trawma colli ffrindiau drwy’r argyfwng AIDS. Doeddwn i ddim yma i gymryd rhan ym mharêd swyddogol cyntaf Pride ar ddechrau’r 70au.

Fel cymuned, mae gennym orffennol lliwgar a phoenus. Mae Mis Hanes LHDTC+ yn bwysig i fi oherwydd er bod llawer o adegau yn ein hanes nad ydw i wedi byw drwyddyn nhw, maen nhw wedi diffinio ble'r ydyn ni heddiw. Yn ystod fy oes, rydyn ni wedi symud o gyfnod lle roedd bod yn hoyw yn rhywbeth oedd wedi ei wahardd rhag cael ei drafod mewn ysgolion ac oedd yn gallu cael ei ystyried fel salwch meddwl, i gyfnod pan fo gennym hawliau priodi a mabwysiadu cyfartal a lle cawn  ein dathlu mewn gorymdeithiau Pride ledled y byd.

Mae arloeswyr LHDTC+ wedi fy ngalluogi i fyw bywyd llawer mwy breintiedig nag yr oedden nhw’n gallu ei wneud, ond dyw’r frwydr ddim ar ben eto. Wrth i ni ymgyrchu i wahardd therapi trosi yn y DU, i roi terfyn ar droseddau casineb sydd wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac ymladd dros hawliau'r bobl fwyaf ymylol yn ein cymuned, dylem gydnabod bod y sylfeini wedi'u gosod gan y rhai a ddaeth o’n blaen.  

Bu cynifer o ddigwyddiadau pwysig yn llinell amser hanes LHDTC+ fu’n dyngedfennol ar gyfer mwy o gydraddoldeb a rhyddid. Rwy'n dathlu Mis Hanes LHDTC+ oherwydd fy mod i wir yn credu y bydd dysgu o'r digwyddiadau hyn o’r gorffennol yn ein helpu i greu byd mwy cynhwysol a goddefgar ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Jamie Evans, Wellbeing Support Officer (students)

Jamie Evans, Swyddog Cymorth Lles (myfyrwyr)

Rhywbeth i’n hatgoffa yw Mis Hanes LHDT+. Mae'n ddathliad o'n holl gyflawniadau, er gwaethaf pob adfyd. Mae'n gyfle i gofio nad ydyn ni i gyd, ledled y byd, yn rhannu'r un rhyddid.

Mae'n gyfle i werthfawrogi'r rhai a ddaeth o’n blaen a pharatoi'r ffordd i gael ein derbyn gyda geiriau a gweithredoedd. Ac yn olaf, mae'n foment i ddangos parch, yn wylaidd, at yr eneidiau di-rif a gollwyd ar hyd y ffordd.

Drwy ddathlu Mis Hanes LHDT+, a thrwy fyw’n ddilys fel ni ein hunain, rydyn ni hefyd yn goleuo'r ffordd i'r rhai a ddaw ar ein hôl. Efallai y bydd pobl yn meddwl bod y gwaith wedi ei gyflawni eisoes, ein bod yn mwynhau'r un hawliau a rhyddid â phawb arall. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn wir, pan fo pobl yn cael eu harestio, eu cam-drin, a gwaeth, yn fyd-eang am y drosedd syml o fod yn nhw eu hunain.

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi pwy ydyn ni bob mis Chwefror i'n hatgoffa o hyn, ac i ddangos nad ydyn ni’n mynd i ddiflannu. A hyd yn oed pan fydd y gwaith i gyd wedi’i wneud, pryd bynnag y bydd hynny, bydd rhywun bob amser angen gwybod ei bod yn iawn bod yn nhw. Bydd angen dybryd am oleuni bob amser i'w harwain ar eu llwybr.  

Vaughan Rees_small.jpg

Vaughan Rees, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caplaniaeth

Rwy'n cyfaddef fy mod i weithiau’n teimlo ychydig yn drist ac yn rhwystredig pan fo pobl yn amau agwedd y Gaplaniaeth tuag at faterion LHDT.

O ystyried rhai o'r pethau sy'n cael eu dweud gan rai Cristnogion dyw hi ddim yn syndod, mewn ffordd, ac felly mae'n debyg bod angen i fi dderbyn hyn a gwrthweithio’r argraff negyddol drwy fy ymddygiad i fel person a'r math o wasanaeth a gynigiwn fel Caplaniaeth.

Nid rhywbeth a ddysgais drwy ddiwinyddiaeth neu fel damcaniaeth wleidyddol yw bod yn agored i bobl eraill a derbyn eu hunaniaeth. Bu'n rhan erioed o fy mherthynas â Duw, a fy ffyddlondeb iddo, ers fy mhlentyndod yn Ninas Noddfa, capel Bedyddwyr fy nghartref yn Abertawe. Rwy’n agored ac yn derbyn pobl oherwydd fy ffydd ac nid er ei gwaethaf. Dywedodd Desmond Tutu, 'Byddwn yn gwrthod mynd i nefoedd homoffobig'. Yn fy marn i, nid nefoedd mohoni os yw'n homoffobig.

Mae gennyf weledigaeth y byddwn un diwrnod yn byw mewn byd lle bydd gwahanol fynegiannau o rywioldeb dynol cariadus yn cael ei ddathlu, a fy ngobaith hyderus yw y bydd yr Eglwys gyfan yn dal i fyny ac yn ymuno yn y dathlu.

Ryan Mather_small.jpg

Ryan Mather, Myfyriwr - Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol

Mae mis hanes LHDT+ yn golygu llawer i fi oherwydd, gan fy mod i’n agored hoyw fy hun, mae'n gymuned yr wyf yn dod ohoni ac mae edrych yn ôl ar ...

hanes a dathlu'r pethau anhygoel y mae pobl wedi'u gwneud i helpu i wthio dros newid yn ysbrydoledig iawn. O edrych yn ôl, mae’n amlwg mor bell rydyn ni wedi dod, ond mae angen gwneud cymaint mwy. Mae hefyd yn ein gwneud cymaint yn fwy gweladwy ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o sut beth yw bod yn LHDT a'r materion allweddol sy'n ein hwynebu. Er mwyn parhau i bwyso am newid mae'n rhaid i ni addysgu eraill a chodi ymwybyddiaeth am y pwnc hwn. Rwy'n ddyn hoyw balch iawn a fydd yn parhau i ymgyrchu a gwthio am newid yn y gymdeithas. 

Caitlin Phillips_small.jpg

Caitlin Phillips, Alumna - Seicoleg gyda Chwnsela

Mae Mis Hanes LHDT+ yn bwysig i mi oherwydd mae'n tynnu sylw at y brwydrau a'r aberthau dewr y mae pobl queer wedi'u gwneud dros y ...

...  blynyddoedd i gael y derbyniad cymdeithasol sydd gennym heddiw.

Mae’n bwysig i mi oherwydd fy mod i a’m cyfoedion bellach yn cael y rhyddid i fynegi ein personoliaethau a rhywioldebau mewn amrywiol ffyrdd heb fawr o farn.

Adam Williams_small.jpg

Adam Williams – Cyn-fyfyriwr, Seicoleg gyda Throseddeg

Mae Mis Hanes LGBTQ+ yn bwysig i mi am nifer o resymau. Mae'n rhoi cyfle i bobl LGBTQ+ weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn hanes.

Darparu straeon i uniaethu â nhw sy'n adlewyrchu eu profiadau, gan ddilysu ein bodolaeth. Mae pob blwyddyn yn gyfle i ni ddarganfod rhywbeth newydd, clywed straeon na chlywsant erioed a dangos i'r byd ein bod ni wedi bod yma erioed. Fel cymuned, mae’n ein hatgoffa pa mor bell yr ydym wedi dod i ennill cydnabyddiaeth, derbynioldeb, a hawliau cyfreithiol. Yn anffodus, mae hefyd yn amser i bawb gofio’r rhai heb hawliau. Hyd yn oed mewn gwledydd sy'n cael eu hystyried yn ddiogel, mae pobl LGBTQ+ yn dal i fyw mewn ofn. Rydyn ni ym mhobman eto heb unrhyw le lle rydyn ni'n bodoli heb erledigaeth. Ond mae Mis Hanes LGBTQ+ yn rhoi gobaith i ni newid y byd er gwell. Mae cyfraniadau pobl LGBTQ+ yn bwysig i’w hamlygu i ddangos ein cyfraniad i’r byd. Rydym bob amser wedi bod yma hyd yn oed pan yn cael ein herlid. Mae cymdeithas wedi'i hadeiladu'n gyfartal ar ein cyflawniadau, ac mae'n hanfodol bod hyn yn cael ei amlygu. Ein cyflawniadau yn y gorffennol, y cyflawniadau a wnawn yn awr a phopeth a wnawn yn y dyfodol.

Tom Dix_small.jpg

Tom Dix ​​– Cyn-fyfyriwr, Cynhyrchu Cyfryngau

Rwy’n meddwl bod Mis Hanes LGBTQ+ yn rhywbeth y dylid ei ddathlu a siarad amdano ymhell ac agos trwy gydol mis Chwefror a thu hwnt, ...

oherwydd mae’n bwysig dysgu am ein hanes ein hunain a deall yr hyn y mae pobl wedi bod drwyddo oherwydd heb eu dathlu a chydnabod cyflawniadau yna rydym yn ni fyddai byth yn gallu symud ymlaen ymhellach.

Emma Kwaya-James Blank

Emma Kwaya-James - Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae mis LHDTC+ yn bwysig i fi’n bersonol fel adeg i ddathlu ac i gofio. Dathlu amrywiaeth croestoriadol ... 


... gwych ein cymuned LHDTC+, cofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau, a thynnu sylw at y frwydr, yr erledigaeth a’r gormes parhaus a wynebir gan aelodau o'n cymuned LDHTC+ yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol, a'n colled ein hunain fel teulu. Rydyn ni’n cofio am farwolaeth anhymig Gustave Nana Ngongang a adwaenid yn aml fel Joel Nana, marwolaeth sy’n dal heb ei hesbonio. Bu farw Joel yn 2015 wrth ymweld â man yr oedd yn ei ystyried yn gartref iddo, Cameroon, yng Ngorllewin Affrica. Roedd Joel yn ddyn hoyw agored balch oedd yn eiriolwr hawliau dynol LHDTC+ blaenllaw yn Affrica ac yn actifydd HIV/AIDS, ond roedd hefyd, yn bwysicaf oll i ni, yn frawd, ewythr, partner, cyfaill a thad.

Fel prifysgol, mae gweithgarwch LHDTC+ wedi bod wrth wraidd  ein hagenda cydraddoldeb,  amrywiaeth a chynhwysiant, gyda  PDC yn safle rhif 24 ym Mynegai Stonewall 2020 a'r Cyflogwr Traws gorau. Yn anffodus, oherwydd y pandemig, ni wnaeth PDC  gyflwyniad i'r mynegai yn 2021. Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn gweithio i ddatblygu ei Chanllawiau Traws ymhellach i gydweithwyr a Pholisi Newid Enwau i fyfyrwyr. Ochr yn ochr â hyn, y gobaith yw buddsoddi mewn sesiynau codi ymwybyddiaeth Traws parhaus ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr. Yn rhan o'n hymrwymiad i ddatblygu Cynllun Lles y Brifysgol gyfan, byddwn yn datblygu ac yn treialu system i adrodd yn gyfrinachol am wahaniaethu, yn rhan o'n polisi o beidio â goddef bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Darren Hodge_small.jpg

Darren Hodge, Swyddog Cymorth y Gyfadran (Cynllunio)

Gan fy mod i’n fy ystyried fy hun yn gynghreiriad yn bennaf, ac heb ddeall fy hunaniaeth fy hun yn llawn eto, doeddwn i ddim yn gwbl sicr i ddechrau a ddylwn i gyfrannu at yr ymgyrch bwysig hon, ...

... gan fy mod i am sicrhau bod y lleisiau iawn wir yn cael eu clywed. Ond eto, os gall fy stori am ansicrwydd a fy rôl fel cynghreiriad fod o unrhyw gymorth i unrhyw un, rwy'n hapus iawn ei rhannu.

O oedran ifanc, roedd rhai syniadau'n llywio fy magwraeth gyfan a bu’n rhaid i rai aelodau o'r teulu hyd yn oed guddio eu gwir rywioldeb yn enw rhianta heteronormalaidd. Roedd hunaniaethau a hanesion LHDT+ yn cael eu cuddio a'u demoneiddio. Fodd bynnag, ar ôl i fi fynd i’r brifysgol a dianc o'r amgylchedd hwnnw, des i i wybod am waith awduron fel James Baldwin a Tennessee Williams, a daeth ymdeimlad o berthyn a chymuned i fi. Cyflwynodd yr awduron hyn wahanol fodelau o wrywdod i fi a dangos nad oeddwn i ar fy mhen fy hun yn fy ansicrwydd ac wrth gwestiynu normau rhyw. Mae adleisio amrywiaeth bywyd yn golygu bod Mis Hanes LHDT+ mor bwysig; mae angen i unigolion allu cael mynediad at gynifer â phosibl o syniadau a bywydau gwahanol i ddod o hyd i'w  cymuned a sylweddoli bod unigolion eraill yn rhannu eu teimladau.

Gall y mis hwn gael ei ystyried fel cyfle i adennill yr hanes hwnnw sy'n aml yn cael ei atal neu ei guddio, ac mae sicrhau bod y gorffennol hwn ar gael yn rhwydd yn helpu i sicrhau bod ’na ddyfodol lle gall pawb fyw mewn man lle maen nhw’n perthyn. Felly, er nad oes gen i’r atebion i gyd eto, rwy’n gwybod bod adnoddau a chymunedau ar gael i fy helpu i ddod o hyd i fy llwybr.

Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n gydweithiwr yn PDC, ac yn dymuno rhannu’r hyn mae Mis Hanes LHDT+ yn ei olygu i chi, e-bostiwch eich cyfraniadau i [email protected]  

DIGWYDDIADAU

Darllen a rhestrau chwarae amrywiol pellach

Mae gan Wasanaeth Llyfrgell Prifysgol De Cymru nifer o restrau darllen a chwarae LHDTC+ amrywiol.