Gallai ymenyddau gofodwyr ddechrau ‘diferu’ wrth deithio rhwng planedau

Professor Damian Bailey

Athro Damian Bailey


Gallai ymenyddau gofodwyr ddechrau ‘diferu’ os byddant yn cymryd rhan mewn teithiau gofod tymor hir ac yn profi newidiadau mewn grymoedd disgyrchedd, yn ôl canfyddiadau arbenigwr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Gwnaeth yr Athro Damian Bailey y canfyddiadau yn ystod ail rownd o arbrofion a gynhaliodd mewn amgylchedd dibwysau wrth hedfan ar yr hyn a elwir yn garedig yn ‘vomit comet’. 

Mae’r awyren arbenigol, sydd wedi’i lleoli yn Bordeaux yn Ffrainc, yn hedfan ar lwybr parabolig – sef, yn y bôn, dilyn cyfres o gromliniau i fyny ac i lawr sy’n arwain at hyperddisgyrchiant, sydd bron ddwywaith yn fwy na phwysau corff arferol rhywun, yn ystod yr amser y mae’r awyren yn esgyn, gan brofi amodau di-ddisgyrchiant yn ystod y rhan ‘blymio’ 20 eiliad o hyd.

Yn ystod hydref 2018, treuliodd yr Athro Bailey wythnos yn Ffrainc yn cynnal arbrofion tebyg er mwyn astudio sut gall hedfan gofodol effeithio ar y ffordd y mae gwaed yn teithio trwy’r ymennydd. Cafodd yr arbrofion eu hariannu gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, y mae’r Athro Bailey’n darparu gwasanaethau ymgynghori iddynt hefyd er mwyn adolygu grantiau ar gyfer arbrofion dynol a gynhelir ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol.

Mae ei arbrofion diweddaraf, a ariennir gan Asiantaeth Ofod Ffrainc (CNES), wedi mynd â’r ymchwil i’r cam nesaf, ac maen nhw wedi bod yn ystyried pa effaith y gallai cysylltiad hirdymor ag amgylchedd dibwysau ei chael ar yr ymennydd dynol.


“Mae NASA wedi amlygu mai’r pwysedd sy’n cronni yn ymennydd y gofodwr yw’r prif risg iechyd ar gyfer hediadau hirdymor yn y gofod, gan gynnwys taith â chriw i blaned Mawrth,” dywedodd yr Athro Bailey.

“Ceir pryder ynghylch syndrom niwro-lygeidiol sy’n gysylltiedig â hediadau gofodol – fel golwg niwlog a chur pen – a beth sy’n ei achosi.”

Yn ystod yr arbrofion diweddaraf, mesurodd yr Athro Bailey lif y gwaed i wahanol rannau’r ymennydd dynol a chymerodd samplau gwaed cyn, yn ystod ac ar ôl y cyfnodau di-ddisgyrchiant yn ystod yr hediadau. Dyma’r tro cyntaf i’r arbrofion hyn gael eu cynnal, a dyma yw’r efelychiad gorau o hediadau gofod dynol ar y tir sy’n bodoli ar hyn o bryd.    

“Ar ôl cynnal cyfanswm o dros 90 parabola, dangosodd yr arbrofion bod mwy o lif gwaed i gefn yr ymennydd pan fydd yr ymennydd yn troi’n ddibwysau,” dywedodd yr Athro Bailey.

“Roedd hyn yn gysylltiedig â chronni radicalau rhydd yn raddol, yn enwedig ocsid nitrig, sef moleciwl anweledig sy’n galluogi’r pibelli gwaed sy’n cyflenwi gwaed i’r ymennydd i ymlacio ac agor. Yn sgil hynny, roedd y rhwystr rhwng y gwaed a’r ymennydd sy’n helpu i amddiffyn yr ymennydd yn ‘diferu’ mwy yn raddol, a allai arwain at chwyddo a phwysedd cynyddol o fewn yr ymennydd.”

Mae’r ymchwil wedi amlygu mater pwysig i sefydliadau sy’n cynllunio hediadau gofod tymor hir â chriw.

“Y canfyddiadau hyn yw’r cyntaf i awgrymu bod gwahaniaeth sylweddol mewn pwysedd disgyrchedd yn yr ymennydd dynol - er enghraifft wrth esgyn a mynd i’r gofod neu ddychwelyd i’r Ddaear neu lanio ar blaned arall - yn gallu cynyddu hydreiddedd y rhwystr rhwng y gwaed a'r ymennydd,” dywedodd.

“Byddai atal hyn rhag digwydd yn gallu helpu atal syndrom niwro-lygeidiol sy’n gysylltiedig â theithiau gofod a gallai wella iechyd ymennydd gofodwyr.”

#research