Syniad myfyrwyr nyrsio PDC i wella cymeriant hylif cleifion ysbyty
11-05-2018
Mae grŵp o fyfyrwyr nyrsio oedolion ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi llunio syniad syml a allai helpu staff ysbytai i fonitro cymeriant hylif claf.
Maen nhw'n cynnig y gallai ysbytai edrych ar gyflwyno jygiau gyda chaeadau melyn, yn hytrach na'r caeadau glas traddodiadol, ar gyfer cleifion sydd naill ai'n cael eu hylifau wedi'u cyfyngu neu eu monitro.
Dywedodd Donna Walker, un o'r nyrsys dan hyfforddiant, sy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn a fydd yn graddio fis Mawrth nesaf: “Mae ychydig o'n grŵp wedi gweithio fel gweithwyr cymorth gofal iechyd ac er bod staff nyrsio yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod cleifion yn cael yr hylifau cywir, roeddem i gyd yn cytuno y gall fod yn eithaf anodd gwybod pa gleifion ar ward y mae angen monitro eu hylifau.
“Efallai y bydd rhai cleifion, er enghraifft, ar gyfyngiadau hylif yn dilyn cymhlethdodau fel methiant y galon, tra bod eraill yn cael eu hannog i yfed mwy oherwydd eu bod yn dadhydradedig.
“Ein syniad oedd cyflwyno ciw gweledol hawdd, a all ddangos i nyrs neu weithiwr cymorth gofal iechyd ar ward brysur, pa gleifion y dylent fod yn monitro eu hylifau.
“Fe wnaethon ni ddewis melyn gan ei fod yn cael ei ystyried yn lliw positif i bobl sy'n byw gyda dementia yn ogystal â phobl â nam ar eu golwg.
“Gallai'r caeadau, sy'n gallu costio cyn lleied â 70c yr un, hefyd fod yn llawer rhatach na'r gost o drin heintiau'r llwybr wrinol neu gathetereiddio, ac amcangyfrifir ei fod yn costio £500m y flwyddyn i'r GIG.
“Cyn i ni siarad ag unrhyw un am ein syniad, gwnaethom gynnal arolwg Twitter gyda nyrsys dan hyfforddiant, nyrsys presennol ac ymarferwyr gofal iechyd i ofyn faint o bobl oedd yn gwybod yn hawdd pa gleifion oedd angen i’w hylifau gael eu monitro ar eu wardiau. Dywedodd 76% nad oedden nhw, oni bai ei fod wedi'i ysgrifennu yn y taflenni trosglwyddo.”
Ar ôl rhannu eu syniadau drwy'r cyfryngau cymdeithasol, cysylltodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf â'r chwe myfyriwr trydedd flwyddyn - Donna Walker, Charlotte Phillips, Cerys Davies, Rachel Lloyd-Jones, Cellan Howells a Tamara Konten - a'u gwahodd i siarad am eu syniad yn fanylach.
O ganlyniad, maent bellach yn treialu'r defnydd o gaeadau melyn ar jygiau dŵr, ar ward lawfeddygol yn ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, De Cymru.
Dywedodd Clare Barker, Dirprwy Reolwr Ward yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg: “Mae hwn yn syniad arloesol - bydd y defnydd o gaeadau melyn yn glir i bawb, gan gynnwys cleifion, perthnasau a staff.”
Ychwanegodd Charlotte Phillips, sy'n fyfyrwraig nyrsio: “Rydym yn falch iawn bod y caeadau'n cael eu treialu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rydym yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o'r caeadau gyda theulu ac ymwelwyr y cleifion yn ogystal â'r staff, felly pan fyddant yn ymweld fe'u hanogir i gynnig diod i'w perthynas neu ddeall bod eu hylifau'n cael eu cyfyngu.
“Allwn ni ddim credu'r ymateb rydyn ni wedi'i gael i'n syniad hyd yn hyn. Rydym wedi cael nyrsys, ymarferwyr gofal iechyd a meddygol yn cysylltu â ni o bob rhan o'r DU, a hyd yn oed Awstralia i ddweud eu bod wrth eu boddau gyda’r syniad syml hwn. Ac rydym wedi cael neges gan ward yn Ysbyty Tameside a Glossop yn Lloegr i ddweud eu bod wedi archebu caeadau melyn eisoes i gymryd rhan yn y syniad hwn.”
Mae neges am y syniad ar dudalen Facebook y grŵp wedi cael ei rannu dros 2000 o weithiau ac mae bron i 150,000 o bobl wedi ei weld.
Gallwch ddilyn diweddariadau gan y grŵp ar Twitter @NhsHydr8 neu #CheckYourJugs #PutALidOnIt, neu ar Facebook yn NHSHydr8.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Syniad myfyrwyr nyrsio PDC i wella cymeriant hylif cleifion ysbyty
11-05-2018

Mwy o amser ar gyfryngau cymdeithasol, mwy o broblemau delwedd corff i fenywod...
04-05-2018

Rhaglen £9.2m wedi’i chefnogi gan yr UE i helpu i leihau allyriadau carbon
02-05-2018

Prif Weinidog Cymru yn agor Parc Chwaraeon PDC ar ei newydd wedd
29-01-2018