02-10-2019
Richard Hurford
Mae prifysgolion Cymraeg blaengar wedi ymuno â Llywodraeth Cymru a phartneriaid diwydiannol i lansio’r rhaglen datblygu talent genedlaethol cyntaf.
Anelir rhaglen Gemau Talent Cymru, a arweinir gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru, tuag at fyfyrwyr blwyddyn olaf a graddedigion.
Bydd yn cefnogi a mwyhau datblygiad stiwdios annibynnol bach
yng Nghymru trwy ddarparu grantiau, mannau deoriad proffesiynol a mentora
arbenigol gan stiwdios gemau Cymraeg llewyrchus.
Bydd y rhai sydd yn cymryd rhan eleni yn dangos eu gwaith yn arddangosfa Gemau Talent Cymru mewn sioe gemau mwyaf y DU, EGX 2019, y mis yma.
Mae’r rhaglen gychwynnol wedi croesawu pum cwmni a ffurfiwyd
gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a thri chwmni o Brifysgol De Cymru, wedi’u
cefnogi gan fentoriaid diwydiannol blaengar o rhai o stiwdios gemau mwyaf
llwyddiannus y genedl.
Yn ôl Cyd-sylfaenydd Gemau Talent Cymru ac Arweinydd Cwrs MA Menter Gemau, Richard Hurford: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at allu cynnig cyfle i'n graddedigion arddangos eu gwaith gwych mewn digwyddiad arddangos cenedlaethol, gan roi cymorth wedi'i deilwra iddyn nhw ar hyd y ffordd.
"Mae'n gam allweddol o ran adeiladu busnesau gemau cynaliadwy
yng Nghymru a chael mwy o amlygrwydd mewn cyd-destun cenedlaethol."
Dywedodd sylfaenydd Dawn Gemau Cymru Rich Hebblewhite, Uwch Ddarlithiwr Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Rydym yn falch iawn o lansio’r rhaglen datblygu talent genedlaethol Gymraeg cyntaf ac mae cefnogaeth ein partneriaid diwydiannol wedi bod yn ffantastig.
“Ein syniad ydi creu rhaglen cymorth sydd yn dod â chwmnïau
myfyrwyr ar draws y wlad ynghyd i greu cymuned gynaliadwy a ffyniannus gyda
ffocws ar ddatblygu sgiliau busnes, rhannu ymarfer gorau a hyrwyddo cod dylunio
gemau moesegol.
“Y nod wedi bod erioed i roi cyfleoedd i raddedigion yng Nghymru ac i’w cefnogi i greu cwmnïau gemau creadigol, deinamig a chynaliadwy.”
Mae partneriaid diwydiannol Gemau Talent Cymru’n cynnwys Wales Interactive a Tiny Rebel Games, datblygwyr sydd wedi ennill sawl wobr.
Yn ôl Susan Cummings, Sylfaenydd a Chynhyrchydd Gweithredol
Tiny Rebel Games: “Mae cefnogi talent newydd yn bwysig i ddyfodol y diwydiant
gemau yng Nghymru, ac wrth roi cyngor arbenigol a mentora trwy Gemau Talent
Cymru, rydym yn gallu cefnogi stiwdios newydd yn ystod cyfnodau cynnar
datblygu.
“Edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth iddyn nhw lansio eu
gemau yn EGX yn yr wythnosau i ddod.”
Fel rhan o’r rhaglen, gwahoddwyd y timau i ymweld â Wales
Interactive, lle’r cawson nhw gyngor busnes yn ogystal â threulio amser
hollbwysig gyda’r tîm datblygu.
Yn ôl Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Chyfarwyddwr, Dai Banner:
“Rwyf wrth fy modd o weithio gyda Gemau Talent Cymru fel mentor diwydiant ac yn
falch o gael helpu cenhedlaeth newydd o fentrwyr gemau ar eu taith.
“Mae’r timau wedi dangos y sgiliau ac ymroddiad sydd eu
hangen nid yn unig i wneud gemau fideo ond hefyd i greu busnes cynaliadwy. Mae
rhaglenni fel hyn yn hanfodol er mwyn meithrin talent entrepreneuraidd ac o
ganlyniad tyfiant diwydiant gemau Cymru.”
Ariannir Gemau Talent Cymru gan Gronfa Gemau’r DU a
Llywodraeth Cymru, ac mae’r ddau gorff yn chwarae rôl bwysig yn natblygiad
fframwaith y rhaglen a rhwydwaith cymorth.
Meddai Deborah Farley, Pennaeth Dawn ac Ymestyn Cronfa Gemau’r DU: “Mae bob amser yn galonogol i weld lansiad cynlluniau fel Gemau Talent Cymru. Maen nhw wedi adnabod synergeddau gydag adnoddau lleol a sefydliadau cenedlaethol, fel Tranzfuser, i greu rhaglen sydd yn helpu datblygiad talent gemau fideo yng Nghymru a chynnig cymorth ymarferol i dimau newydd yn y rhanbarth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Gemau Talent Cymru yn 2019.”
Bydd cynnyrch cyntaf y timau’n cael ei lansio’n swyddogol yn
EGX yn Llundain, a gynhelir o ddydd Iau, 17 Hydref tan ddydd Sul, 20 Hydref.
Ychwangedd Rich Hebblewhite: “Mae rhoi cyfle i stiwdios
newydd arddangos eu gemau mewn un o sioeau masnachol mwyaf y byd yn bwysig iawn
i ni o ran cefnogi’r stiwdios fel busnesau ac arddangos talent gemau annibynnol
gorau Cymru.”
Am fwy o wybodaeth am Gemau Talent Cymru, ewch i https://gamestalent.wales
06-01-2020
20-12-2019
20-12-2019
20-12-2019
19-12-2019
19-12-2019
17-12-2019
17-12-2019
16-12-2019