17-12-2019
Sharan Johnstone
Mae arbenigwr o Gasnewydd ar seiberdroseddu yn teithio i ochr arall y byd i rannu gwybodaeth am ymladd troseddwyr ar-lein.
Bydd Sharan Johnstone, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Plismona ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), yn annerch rhaglen ryngwladol ar atal troseddu a therfysgaeth a gynhelir ym Mhrifysgol Charles Sturt yn Port Macquarie yn Ne Cymru Newydd. Bydd deg myfyriwr ail flwyddyn o PDC hefyd yn mynychu’r digwyddiad.
Yn ogystal, bydd Daniel Welch, sy’n ddarlithydd mewn Plismona a Diogelwch yn PDC, yn gwneud y daith. Mae Daniel yn arbenigwr ar effaith polisïau cam-drin domestig yr heddluoedd, a’r ffordd y cânt eu hystyried gan oroeswyr camdriniaeth.
Mae PDC yn un o dair prifysgol yn y Deyrnas Unedig sy’n anfon cynrychiolwyr i’r gynhadledd – a gynhelir rhwng 14 a 21 Rhagfyr. Bydd yn cynnwys gweithdai a chyflwyniadau ar waith ymchwil, a arweinir gan heddluoedd ac academyddion rhyngwladol o bob rhan o’r byd.
Dywedodd Mrs Johnstone, a fu’n gweithio hefyd yn adran arbenigol Seiberddiogelwch PDC, fod seiberdroseddu yn her gymharol newydd i wasanaethau heddlu Awstralia, ond ei fod yn cael ei gydnabod fel bygythiad mawr i ddiogelwch yn Ewrop.
“Mae troseddau a seiberalluogir, a amlygwyd mewn asesiad yn 2018 gan Europol ar Fygythiad Troseddu Cyfundrefnol ar y Rhyngrwyd, bellach yn targedu nifer fawr o unigolion a sefydliadau allweddol megis y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn enwedig wrth i’r awydd i gael gafael ar wybodaeth bersonol a chyfrinachol gynyddu,” esboniodd.
“Buddsoddwyd £1.9bn eisoes mewn mynd i’r afael â seiberdroseddau, a sefydlwyd timau seiber lleol gan yr heddluoedd.”
“Fodd bynnag, mae cwestiynau’n parhau ynghylch p’un ai oes gan yr heddluoedd y sgiliau priodol i ymateb i’r heriau parhaus y maent yn eu hwynebu o ran troseddau a seiberalluogir, a ph’un ai a allant ganfod, atal a datrys troseddau diwyneb o’r fath, gan sicrhau ar yr un pryd bod unrhyw dystiolaeth y maent yn ei chasglu yn dderbyniol i’w defnyddio yn y system cyfiawnder troseddol.”
#police-sciences #police-degree #police #police students #Police Sciences #PoliceSciences
06-01-2020
20-12-2019
20-12-2019
20-12-2019
19-12-2019
19-12-2019
17-12-2019
17-12-2019
16-12-2019