17-12-2019
Mae myfyriwr o Gas-gwent yn graddio heddiw â gradd meistr ar ôl brwydro dyslecsia trwy gydol ei fywyd.
Bydd Kristoff Young, 23, yn derbyn teilyngdod mewn gradd meistr MSc Hyfforddi Chwaraeon a Pherfformiad o Brifysgol De Cymru yn ystod seremonïau graddio’r wythnos hon.
Ar ôl cael diagnosis o ddyslecsia yn yr ysgol gynradd, mae Kristoff wedi ei chael hi’n anodd darllen a sillafu erioed, ond roedd yn benderfynol i brofi pawb yn anghywir trwy lwyddo yn y brifysgol.
Graddiodd y llynedd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y cwrs BSc (Anrhydedd) Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad, ac mae eisoes wedi dod o hyd i swydd.
Yn ddiweddar,
dechreuodd Kristoff weithio fel hyfforddwr cymunedol gyda Sefydliad Chwaraeon
Bryste, gan gyflwyno sesiynau rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, dodgeball a chriced i ysgolion cynradd yn yr ardal.
“Er bod yr ysgol wedi bod yn anodd i mi yn aml, roeddwn yn angerddol am rygbi ac felly penderfynais ganolbwyntio ar chwaraeon,” esboniodd Kristoff, a fynychodd Ysgol Uwchradd Cas-gwent.
“Yn ffodus, cefais gymorth o’r cychwyn, diolch i fy mam, a fagodd fi ar ei phen ei hun, a fy athrawon, a sicrhaodd fy mod yn cael yr help roedd angen arnaf.”
Astudiodd gwrs ddwy flynedd yng Ngholeg De Swydd Gaerloyw, a roddodd gyfle iddo ganolbwyntio ar ei ddoniau chwaraeon.
“Fy mhrif ddiddordeb oedd rygbi’r undeb, ond rwyf wedi chwarae rygbi’r gynghrair hefyd, ac wedi dyfarnu gemau rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair ar hyd y blynyddoedd,” esboniodd.
Penderfynodd Kristoff astudio ym Mhrifysgol De Cymru ar ôl gweld cyfleusterau chwaraeon ardderchog y brifysgol yn ystod diwrnod agored.
“Mae’r parc chwaraeon yn ased ardderchog i’r brifysgol, ac mae’r lleoliad yn golygu ei fod yn hygyrch iawn i lawer o fyfyrwyr.
“Mae naws hyfryd yn y brifysgol a chefais amser gwych yno – yn enwedig oherwydd bod y staff addysgu mor wybodus yn eu meysydd ac, o ganlyniad, yn gallu rhannu cyngor ardderchog gyda’r myfyrwyr.”
Trwy gydol ei gwrs gradd a’i gwrs meistr, elwodd Kristoff o gael cymorth personol gan Wasanaeth Anabledd Prifysgol De Cymru, gan gynnwys offer cyfrifiadurol arbenigol i’w helpu ar hyd y ffordd.
“Roedd cael cymaint o gymorth – oedd yn cynnwys mynediad at feddalwedd arbenigol oedd yn fy helpu â’m aseiniadau a chyfarfodydd rheolaidd â fy mentor – yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy astudiaethau ac i elwa i’r eithaf o’r cwrs.
“Mae’r Brifysgol wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw, ac rwy’n falch o ddweud nad yw fy nghyflwr wedi fy rhwystro o gwbl.”
06-01-2020
20-12-2019
20-12-2019
20-12-2019
19-12-2019
19-12-2019
17-12-2019
17-12-2019
16-12-2019