06-01-2020
Mae staff Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael eu hachredu fel hwyluswyr Hydra, sy’n eu caniatáu i ddylunio a chyflenwi gweithgareddau efelychiadol o ansawdd uchel i’n myfyrwyr.
Daeth crëwr methodoleg Hydra, sef yr Athro Jonathan Crego, ar ymweliad i Gampws Pontypridd PDC i gyflenwi’r cwrs deuddydd i staff heddlua, nyrsio a’r gyfraith, yn ogystal â swyddogion heddlu o Heddlu Gwent.
Mae Canolfan Efelychu Hydra yn adeilad Elaine
Morgan yng Nglyn-taf yn darparu amgylchedd dysgu ac addysgu unigryw yn addysg
uwch ac mae’n cael ei ddefnyddio i gynnal senarios trochi efelychiadol ar gyfer
amrywiaeth o fyfyrwyr o’n cyrsiau Gwyddorau Heddlu, Nyrsio, Llywodraethu
Byd-eang a Gwaith Cymdeithasol, Iechyd Cyhoeddus, Busnes a Marchnata.
Mae’r set yn un o chwech yn unig sydd wedi’u
gosod ym mhrifysgolion y DU, ac mae’n un o’r setiau “cwmwl” mwyaf datblygedig o
ran technoleg ledled y byd.
Dywedodd Jonathan Crego, sy’n Ddarlithydd
Gwadd yn PDC: “Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno athroniaeth Hydra, datblygu efelychu, rheoli ymarfer,
technolegau cynorthwyol a
hwyluso Hydra i addysgwyr ac ymarferwyr. Mae’r cwrs deuddydd yn sicrhau y
cynhelir y safonau uchaf o ran cyflenwi addysg a hyfforddiant Hydra ar draws
addysg uwch a’r gwasanaethau cyhoeddus. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r
fethodoleg i wahanol ddisgyblaethau a chyfadrannau yn PDC.”
Dywedodd
Helen Martin, sef y Rheolwr Academaidd ar gyfer Heddlua a Diogelwch: “Mae gan
Hydra lawer o fuddion i ni fel ysgolheigion, yn ogystal â’n myfyrwyr. Rydyn ni
wir wedi bod yn ceisio ‘hydra-eiddio’ profiad y myfyrwyr. Er bod y dechnoleg
wedi’i dyfeisio i hwyluso hyfforddiant golau glas, rydym wedi dangos bod llawer
o bosibiliadau ar gael ar gyfer amrywiaeth o wahanol gyrsiau. Mae’n cynnig
amgylchedd i gyflenwi dysgu a thechnoleg arloesol efelychiadol. Yn bwysicaf
oll, mae’n caniatáu i’n myfyrwyr brofi senarios o’r fath mewn amgylchedd
diogel, eu caniatáu i wneud camgymeriadau a’u galluogi i ddysgu ohonynt cyn y
bydd angen iddynt ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y byd go iawn.”
Dywedodd
Dr Dean Whitcombe, sef y Rheolwr Efelychu Hydra ar gyfer PDC: “Mae technoleg ddiweddaraf y cwmwl yn darparu
llwyfan unigryw ar gyfer cydweithio a datblygu ymarfer rhwng PDC, prifysgolion
eraill a sefydliadau allanol. Mae staff Hydra a’r technolegau y mae’r set yn eu
galluogi wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ragoriaeth addysgu ac ymchwil trwy
gydol PDC yn ystod y blynyddoedd diweddar ac rydym yn edrych ymlaen at
ddatblygu’r arferion arloesol hyn mewn partneriaeth â’r Athro Jonathan Crego a
Sefydliad Hydra.”
06-01-2020
20-12-2019
20-12-2019
20-12-2019
19-12-2019
19-12-2019
17-12-2019
17-12-2019
16-12-2019