20-12-2019
Sut mae dewisiadau unigol, yn hytrach na dewisiadau grŵp mawr, yn helpu busnesau i benderfynu beth maen nhw eisiau gwneud a gwerthu?
A pham mae safbwyntiau mor bersonol mor bwysig wrth benderfynu pa ddewisiadau i’w rhoi i bobl pan maen nhw’n gwneud penderfyniadau prynu?
Dyma’r cwestiynau mae Alex Boswell wedi bod yn ceisio’u hateb mewn traethawd hir arbenigol y mae wedi’i ysgrifennu fel rhan o’i gwrs gradd meistr mewn marchnata ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae’n ddarn o waith sydd â ffocws personol iawn.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Alex, sy’n 24 oed ac yn dod o Gaerdydd, drawsnewidad rhywedd sydd wedi para saith mlynedd, ac mae wedi canolbwyntio ar ei brofiadau trwy gydol y broses a’r ffordd y gwnaethant ddylanwadu ar ei ddewisiadau dillad.
Fel rhan o’i waith ymchwil, defnyddiodd Alex ddull nad yw’n cael ei ddefnyddio’n eang fel rhan o’r amgylchedd busnes – sef awtoethnograffeg critigol, sy’n gweld ymchwilydd yn defnyddio profiadau personol, yn hytrach na safbwyntiau grŵp mwy o faint, gan fyfyrio arnynt o fewn y cyd-destun diwylliannol a chymdeithasol ehangach.
Gan edrych ar y ffordd y gall dylanwadau seicolegol a chymdeithasol effeithio ar ymddygiad defnyddwyr, ystyriodd Alex ei ddewisiadau dillad gwahanol wrth iddo dyfu i fyny – gan gychwyn yn saith oed, ac yna 12, 15, 19 a 23 oed – a’r ffordd y gwnaeth ddewisiadau dillad gwahanol.
Nododd y gwaith ymchwil ambell ganlyniad diddorol ac annisgwyl.
“Er i mi ystyried bod dylanwadau seicolegol yn drech yn y lle cyntaf, cafodd dylanwadau cymdeithasegol fwy o effaith nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl,” esboniodd Alex.
“Ar yr arwyneb, mae’n ymddangos na wnaeth trawsnewid newid fy ymddygiad rhyw lawer, ar wahân i rywedd y nwyddau roeddwn yn eu prynu.
“Gall ymchwil pellach eich helpu i bennu a yw’r profiad hwn yn debyg i brofiadau unigolion eraill yn y gymuned drawsryweddol.”
Rhoddodd Dr Elizabeth Lloyd-Parkes, Uwch Ddarlithydd Marchnata Prifysgol De Cymru, a goruchwylydd traethawd hir Alex, ganmoliaeth i waith y myfyriwr a’r ffordd y canolbwyntiodd ar ei hunan.
“Roedd hwn yn benderfyniad dewr iawn ar ran Alex, sef defnyddio profiadau personol o drawsnewid a chraffu ar ei ddewisiadau personol,” esboniodd Dr Lloyd-Parkes.
“Mae awtoethnograffeg yn bersonol ei natur, ac mae’n defnyddio methodoleg wahanol iawn i ymchwil draddodiadol sy’n gysylltiedig â busnes i ddod i gasgliad.
“Alex yw’r myfyriwr cyntaf yn Ysgol Fusnes Prifysgol De Cymru i ddefnyddio’r dull ymchwil hwn.
“Bwydodd ei brofiadau i mewn i’r broses, a bydd ei ganfyddiadau bron yn sicr yn sail ar gyfer gwaith pellach yn y maes hwn.”
Bydd Alex yn cyflwyno’i ganfyddiadau ymchwil yn nigwyddiad cyntaf ‘Telling the Story of Business’ ym Mhrifysgol De Cymru ar 8 Ionawr.
Prif siaradwr y digwyddiad yw’r Athro Joseph Sobol, sy’n Athro Adrodd Straeon ym Mhrifysgol De Cymru, tra bydd sgyrsiau eraill yn canolbwyntio ar agweddau ehangach o adrodd straeon, fel sut y gall ddylanwadu ar gyflogadwyedd, mentergarwch, arloesedd yn y maes digidol, hunaniaeth yn y gweithle, marchnata cerddorion ac entrepreneuriaeth fenywaidd.
I archebu tocynnau, ewch i: https://www.southwales.ac.uk/about/events/telling-story-research-entrepreneurship/
06-01-2020
20-12-2019
20-12-2019
20-12-2019
19-12-2019
19-12-2019
17-12-2019
17-12-2019
16-12-2019