Academydd yn rhan o grŵp ym Mhrifysgol De Cymru sy’n archwilio effaith COVID-19 ar bobl o gefndiroedd BAME

Dr Roiyah Saltus


Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae wedi dod yn amlwg fod COVID-19 yn effeithio’n anghymesur ar bobl o gefndiroedd pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME). Mae Dr Roiyah Saltus, sy’n Brif Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru, wedi bod yn rhan o Is-bwyllgor Llywodraeth Cymru y rhoddwyd y dasg iddo i nodi ystod y ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n dylanwadu ar ddeilliannau niweidiol COVID-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol ymhlith grwpiau BAME.

Ym mis Mai, cyhoeddwyd Offeryn Asesu Risg COVID-19, a dilynwyd hyn yn gynharach yr wythnos hon gyda lansio’r adroddiad cyntaf gan y Pwyllgor Economaidd-gymdeithasol. Mae’r adroddiad yn cynnwys dros 30 o argymhellion uniongyrchol a thymor canolig sy’n ymdrin â thai, mewnfudo, cyflogaeth, ac addysg. Mae’n tynnu sylw hefyd at fod anghydraddoldeb cymdeithasol ac anghydraddoldeb iechyd sy’n deillio o anfantais strwythurol, yn hytrach na’r pandemig, wedi rhoi risgiau iechyd a risgiau amgylcheddol anghymesur ar boblogaethau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Wrth ymuno â’r Is-bwyllgor, roedd Dr Saltus yn rhan o grŵp a oedd yn cynrychioli cymunedau BAME, sefydliadau cydraddoldeb a hawliau dynol, undebau llafur, arweinwyr polisi, academyddion eraill, a chynghorwyr arbenigol o Lywodraeth Cymru, ac o bob cwr o Gymru a’r DU y daethpwyd â nhw at ei gilydd i ystyried y dystiolaeth a drafftio’r argymhellion.

Fel Cymdeithasegydd, mae ymchwil a gwaith ysgolheigaidd Dr Saltus yn ymgorffori damcaniaeth feirniadol o hil, ffeministiaeth, damcaniaeth datblygu cymunedol, a safbwyntiau beirniadol mewn iechyd, polisi cymdeithasol ac ymarfer. Mae ei diddordeb ymchwil parhaus wedi’i wreiddio mewn rhyngblethedd, a chydadwaith ac effaith hil, oedran a dosbarth cymdeithasol fel y’u profir gan grwpiau poblogaeth hileiddiedig, mudol ac wedi’u hymyleiddio. 

Dywedodd: “Un cryfder mawr yn y broses adolygu oedd dod ag arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad ynghyd o gymaint o safbwyntiau a grwpiau rhanddeiliaid. Cafodd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennym ei chodi o ymchwil wedi’i chyhoeddi, setiau data goruchwyliaeth a llenyddiaeth lwyd fel y byddai rhywun yn disgwyl.

"Fodd bynnag, roedd tystiolaeth a gwybodaeth lawn mor bwysig, yn ogystal ag ymarfer proffesiynol a gafwyd gan gydweithwyr polisi, a’r rheiny sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol BAME ac asiantaethau anghydraddoldebau, ynghyd â barnau 400 o bobl o gefndiroedd BAME a gyfrannodd at y broses adolygu. Dyma oedd ein sail dystiolaeth y tynnwyd yr argymhellion ohoni.”

Gan fyfyrio ar y camau nesaf, dynododd Dr Saltus y byddai’n cynnig nifer o argymhellion. Dywedodd: “Mae bwlch yn yr adroddiad o ran risgiau ac effaith COVID-19 ar fywydau pobl hŷn o gefndiroedd BAME. Hefyd, mae angen sicrhau bod unrhyw waith yn y dyfodol yn defnyddio’r agenda prif ffrydio ehangach sydd mor aml yn nodi datblygiad cydraddoldeb yng Nghymru, ac sydd hefyd yn cynnwys fframwaith rhyngblethu, gan ddod â rhyngblethu ffactorau ynghyd fel rhyw, cred grefyddol, anabledd a dosbarth cymdeithasol sy’n llywio bywydau pobl.

“Mae’r gwaith i gipio a dangos tystiolaeth o brofiadau byw pobl ifanc, pobl oedran gweithio a phobl hŷn o gefndiroedd BAME yn parhau’n hanfodol bwysig er mwyn deall eu barn, eu bywydau a’r hyn y teimlant y bydd yn eu cynnal yn wyneb ail don bosibl. Yn olaf, mae’r adroddiad yn sôn am werth a rôl y sector gwirfoddol BAME yng Nghymru. Mae angen i ni ddeall a gwerthfawrogi eu rôl llawer mwy wrth i’r cyfyngiadau symud arnom gael eu llacio, ac wrth i effaith lawn COVID-19 ar fywydau pobl BAME yng Nghymru ddod yn gliriach.”

Ochr yn ochr â hyn, ar hyn o bryd, mae Dr Saltus yn Gynghorydd ar brosiect sy’n gwneud arolwg o’r sector gwirfoddol BAME yng Nghymru i archwilio effaith y pandemig arnyn nhw. Cafodd Menter Ubele ei chyflwyno gyntaf yn Lloegr yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae wedi’i diwygio a’i lansio yng Nghymru. Mae Dr Saltus yn gweithio gyda’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, sefydliad gwirfoddol BAME cenedlaethol sy’n arwain ar y gwaith arolwg hwn fel rhan o brosiect ymgysylltu BAME dros dair blynedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Caiff yr arolwg ei gefnogi gan, a’i ledaenu drwy Race Alliance Wales, sef cynghrair o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio i gyflawni cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Mae adran newydd wedi’i hychwanegu at yr arolwg i alluogi pobl i rannu’u profiadau, enghreifftiau a syniadau ynglŷn â sut maent wedi ceisio parhau i ddarparu gwasanaethau i’r rheiny y maent yn eu gwasanaethu a’u cefnogi. Dywedodd Dr Saltus: “Yn yr hinsawdd bresennol yn arbennig, mae’n hanfodol bwysig cipio storïau am arloesi a rhagoriaeth, yn ogystal â storïau a allai roi cipolwg ar y brwydrau a’r heriau a wynebir gan grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan, neu sy’n gweithio ar ran grwpiau poblogaeth BAME. Ein nod yw i’r storïau ddarparu’r sylfaen ar gyfer sail dystiolaeth rymus.”