Dilysrwydd yr heddlu: sut mae modd ei adennill wedi iddo gael ei golli

Police

Gan yr Athro Colin Rogers


Mae ’na ymadrodd adnabyddus sy'n adlewyrchu barn rhai pobl am yr heddlu. Yn aml wedi'i dalfyrru i "ACAB", mae'r ymadrodd "all cops are b*******" wedi cael ei fabwysiadu'n eang fel ymateb i'r ffordd y mae heddluoedd yn gweithredu.

Beth bynnag yw’ch barn am y teimlad y tu ôl i’r term, mae'r ymadrodd yn tynnu sylw at agwedd bwysig ar y model heddlua a ddefnyddir ledled y byd – y syniad o ddilysrwydd neu gyfreithlondeb yr heddlu.

Y dilysrwydd hwn – ymdeimlad bod y cyhoedd a'r heddlu "ar yr un ochr" - yn sail i’r gefnogaeth i heddlua, a ffydd ynddo, ac ni ellir ei gymryd yn ganiataol.  Mae'n gysyniad allweddol ac yn garreg sylfaen i heddlua democrataidd modern ers bron 200 mlynedd.

Er bod datblygiad yr heddlu wedi amrywio yn ôl datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol gwledydd unigol, gellir ystyried darn o Deddfwriaeth o Loegr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fodel i heddluoedd llawer rhan o’r byd. Sefydlodd y ddeddf yr heddlu modern cyntaf yn Llundain ac roedd wedi ei seilio ar Egwyddorion Peel, wedi eu henwi ar ôl y gwleidydd Robert Peel, "tad" heddlua Prydeinig.

Mae egwyddorion Peel yn cynnig mewnwelediad i’r hyn sy'n gwneud yr heddlu'n ddilys yng ngolwg y cyhoedd. Cyfuniad o gydsyniad cyhoeddus a system gyfreithiol sydd ar waith, sy'n golygu bod yr heddlu'n atebol yn gyfreithiol  yn y pen draw am eu gweithredoedd. 

Hefyd, mae dilysrwydd yn awgrymu bod pŵer i ddefnyddio grym yn cael ei roi i’r heddlu.  Ond mae angen ystyried defnyddio grym yn ddwys i sicrhau ei fod yn angenrheidiol, yn gyfreithlon ac yn briodol. 

Mae'r ymateb i ladd George Floyd, a'r protestiadau Mae Bywydau Du yn Bwysig yn ein hatgoffa mor fregus y mae’r dilysrwydd sydd gan lawer o asiantaethau’r heddlu.  Mae camddefnyddio pŵer, llygredd, a diffyg tryloywder ac atebolrwydd i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu at ei erydu. 

Ond nid oes angen i erydiad o reidrwydd arwain at golli dilysrwydd yn gyfan gwbl.  Yn Seland Newydd, yn 2015, sylweddolodd yr heddlu bod angen iddynt fod yn fwy agored a gonest i wella eu perthynas â'r cyhoedd.  Cafodd hyn ei ysgogi gan brofiadau Mike Bush, y prif swyddog heddlu oedd newydd ei benodi, ac yn rhannol roedd yn golygu mwy o ffocws ar atal troseddu yn hytrach na gorfodi’r gyfraith a mwy o amser yn gweithio gyda chymunedau lleol. 

Arweiniodd y newid at gynnydd yn nilysrwydd yr heddlu yng ngolwg y cyhoedd, ac roedd llawer o’r farn ei fod yn gyfrifol, yn rhannol o leiaf, am leihad mewn troseddu.

Mae'r ailffocysu hwn, sy'n cynnwys newid diwylliant heddlua sy'n aml yn ffafrio gweithredu a chynnwrf dros waith mwy "digyffro", yn anodd, ond gellir ei gyflawni.

Fel yr esboniodd Bush: Roedd cael y negeseuon yn iawn yn golygu rhoi cynnig ar bethau a chael pethau’n anghywir weithiau, ac esblygodd ein negeseuon dros amser. Ar y dechrau, roedd pobl o'r farn ein bod yn credu bod gorfodi ac ymchwilio yn llai pwysig na gwaith atal.  Bu'n rhaid newid ein negeseuon, fel bod pobl yn deall ein bod yn gwybod bod pob agwedd ar heddlua’n bwysig.

Dywedodd:  "Yr hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth yw ym mha drefn rydych chi'n meddwl ac yn gweithredu, gan roi ystyriaethau atal yn gyntaf, a’r dioddefwyr wrth galon pethau."

Mae newid o’r fath yn yr Unol Daleithiau yn un y bydd angen ei ystyried yn ddwys a bydd yn gofyn am ymdrech fawr.  Mae dyrnaid o ystadegau’n datgelu maint yr her, fel y ffaith, er enghraifft, bod 28% o’r bobl sydd wedi eu lladd gan yr heddlu yn yr UD ers 2013 yn bobl "du ethnig" er mai dim ond 13% o'r boblogaeth sydd yn y categori hwnnw. Neu fod 99% o'r achosion o ladd gan yr heddlu rhwng 2013 a 2019 wedi arwain at gyhuddo swyddogion o droseddau. 

Hefyd, tan yn ddiweddar, ni chyhoeddwyd unrhyw ystadegau cenedlaethol yn ymwneud â defnydd gormodol o rym gan swyddogion yr heddlu yn yr Unol Daleithiau . Mae hyd yn oed penderfyniad diweddar i ddechrau gwneud hynny wedi arwain at ddim ond lleiafrif o heddluoedd yn cytuno i rannu eu data.

Efallai nad yw'n syndod felly bod bwlch rhwng y cyhoedd yn America a'r heddlu sy'n eu gwasanaethu.

Gwasanaeth Cymunedol

Mae dilysrwydd yn golygu parodrwydd ar ran y cyhoedd i ufuddhau i’r heddlu a chydweithredu â nhw. Ond mae dibynnu ar bolisïau "cadw’r drefn", gan gynnwys stopio a chwilio helaeth, a defnydd gormodol o drais (sydd mor hawdd ei gipio ar y cyfryngau cymdeithasol) yn lleihau'r lefel gydweithredu’n sylweddol.

Mae atebolrwydd dros weithgarwch yr heddlu hefyd yn hanfodol, ac, fel mae fy ymchwil wedi dangos, mae’r atebolrwydd hwn wedi creu problemau gyda gweithgareddau heddlua cwmnïau preifat mewn rhai gwledydd.

Ond bydd tegwch a thryloywder, a pharodrwydd i weithio gyda chymunedau – yn hytrach nag yn eu herbyn – yn cyfrannu’n fawr at adfer dilysrwydd yng ngolwg pob carfan o'r boblogaeth.

Ac er cydnabod bod heddlua weithiau'n alwedigaeth beryglus, a bod swyddogion yr heddlu'n peryglu eu bywydau i amddiffyn dinasyddion, mae angen sylweddoli mor bwysig y mae dilysrwydd i heddlua.  Ac mai dim ond os bydd pobl o’r tu allan i’r heddlu yn credu bod gan yr heddlu ddilysrwydd y bydd y dilysrwydd hwnnw’n bodoli. 


Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o ‘The Conversation’ o dan drwydded Comin Creu. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.