Efallai fod golwg lewyrchus ar ddrama deledu o Brydain, ond mae coronafeirws wedi datgelu realiti tywyll

Film

Gan yr Athro Ruth McElroy


Mae'r BBC wedi bod yn rhoi sylw mawr i addasiad pedair rhan JK Rowling o Strike: Lethal White. Y gyfres drosedd hon, sy'n dilyn y ditectifs preifat Cormoran Strike a Robin Ellacott, yw'r bedwaredd ran o gyfres Robert Galbraith yr awdur. Mae'n dechrau ar BBC One ddydd Sul, 30 Awst.

Ond mae Strike: Lethal White yn gynhyrchiad cyn-COVID, gan fod ffilmio wedi dod i ben cyn i'r pandemig ddechrau. Cafodd llawer o gynyrchiadau eraill eu gohirio, gan gynnwys degfed gyfres y ddrama drosedd hwyliog Death in Paradise. Felly roedd yn drawiadol gweld yn ddiweddar ei bod yn un o gynyrchiadau drama cyntaf y BBC i ailgychwyn ffilmio.

Wedi'i ffilmio ar ynys Guadeloupe yn y Caribî Ffrengig, mae'r sioe’n dibynnu'n drwm ar olygfeydd awyr agored godidog. Prin yw'r golygfeydd agos, felly mae'r sioe oriau brig hon yn cynnig cysur i gynulleidfa blinedig y DU ac hefyd yn haws ymbellhau’n gymdeithasol wrth ei ffilmio – dewis da, felly, ar gyfer ailgychwyn cynhyrchu'n gynnar.

Er hynny, bu newidiadau sylweddol i’r ffilmio, gan gynnwys cyflogi goruchwyliwr COVID-19 llawn amser i sicrhau bod protocolau diogelwch yn cael eu dilyn.  Y bwriad gwreiddiol oedd ei darlledu ym mis Ionawr, ond does dim sicrwydd ynghylch y dyddiad lansio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd gwylwyr yn falch o weld y bydd o leiaf rywfaint o ddrama newydd dros y misoedd nesaf.

Mewn mannau eraill, dyw'r newyddion ddim cystal. Mae llawer o gynyrchiadau heb ailddechrau oherwydd bod yn rhaid i bawb, gan gynnwys actorion, gael profion am y feirws a bod yn rhaid creu swigod ar gyfer y cyfnod ffilmio.  Yn aml, mae dyddiaduron actorion yn llawn am hyd at flwyddyn ymlaen llaw, ac ambell gyfarwyddydd hefyd.  Bu problemau hefyd yn sicrhau yswiriant.  Felly dyw pethau ddim nôl i’r arfer o bell ffordd.

Bydd COVID-19 yn effeithio’n hir dymor ar y ddrama deledu.  Mae hefyd wedi tynnu sylw at broblemau oedd eisoes yn bodoli ond oedd yn haws eu hanwybyddu gynt.

Pris drama deledu

Mae llwyth o gynnwys Prydeinig, gan gynnwys Killing Eve, Bodyguard a His Dark Materials i’w weld drwy’r byd ar Netflix, Amazon a BritBox, yn ogystal â bod ar gael ar sianeli Prydain.  Mae hyn yn awgrymu sector iachus  – ond mae'n cuddio realiti llai llewyrchus i rai o weithwyr y sector.

Mae'r diwydiant yn dibynnu'n fawr ar weithwyr llawrydd, sy'n ennill bywoliaeth drwy gael eu talu fesul cynhyrchiad. Mae hyn yn caniatáu ffilmio cost-effeithlon mewn amryw fannau  - dyna pam y gall Guadeloupe ymddangos ar ein sgriniau. Ond mae symud o un project i'r llall yn golygu bod llawer o weithwyr yn cael cyfnodau llwm. Mae hyn yn gallu arwain at anghydraddoldeb ac i ryw raddau ddiffyg amrywiaeth, achos pwy all fforddio peidio â gweithio am wythnosau neu fisoedd ar y tro?

Mae'r sefyllfa waith ansicr hon wedi gwaethygu yn ystod y pandemig gan nad yw llywodraeth y DU yn deall mai dyma sut y mae'r diwydiant yn gweithio. 

Mae undeb llafur BECTU, er enghraifft, wedi nodi sut syrthiodd gweithwyr creadigol "i fwlch" yng nghynlluniau'r llywodraeth i helpu gweithwyr yn ystod y pandemig. Gan fod llawer o weithwyr cynhyrchu ar gontractau PAYE cyfnod penodol heb fod ar y llyfrau ar 28 Chwefror ac wedi hynny, doedden nhw ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun ffyrlo. 

Doedd y nifer fawr o bobl sy'n gweithredu fel cwmnïau  unig fasnachwyr atebolrwydd cyfyngedig  yn y diwydiant ddim yn gymwys i gael cymorth ychwaith. Mae'r diwydiant wedi creu sefyllfa lle mai gweithio fel hyn yw’r norm, i broffesiynoli'r sector a bod mor effeithlon â phosibl. Ond roedd yn ganlyniad i ddegawdau o bolisïau gan lywodraethau gwahanol yn annog gweithio "hyblyg" ac entrepreneuriaeth ddiwylliannol ar draul sicrwydd cytundebau a hawliau cyflogaeth.

O ganlyniad, mae miloedd o weithwyr creadigol yn byw o’r llaw i’r genau, yn wynebu dyfodol ansicr ac yn ddi-waith mewn rhai achosion. Yn gyffredinol, efallai fod drama deledu'r DU yn gystadleuol ar lwyfan ryngwladol ac yn cael ei hystyried yn ased diwylliannol gwerthfawr – ond mae effeithlonrwydd y diwydiant yn effeithio’n andwyol ar lawer o weithwyr sy'n teimlo bod llywodraeth y DU wedi eu hanwybyddu.

Yn wyneb diffyg cefnogaeth gan y llywodraeth, creodd y diwydiant nifer o gronfeydd ar gyfergweithwyr oedd yn  wynebu caledi ariannol. Roedd y rhain yn cynnwys Cronfa Rhyddhad Brys Ffilm a Theledu COVID-19 yr Elusen Ffilm a Theledu, a ddosbarthodd grantiau untro gwerth £3 miliwn ym mis Ebrill.  Wedi'i ariannu gan Netflix, Sefydliad Ffilm Prydain (BFI), y BBC, Sky, Warner Media a chyfraniadau preifat, cynigiodd grantiau gwerth rhwng £500 a £2,500 y pen, ac roedd mwy o ymgeiswyr nag oedd o grantiau ar gael.

Roedd y BFI, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ac asiantaethau sgrin cenedlaethol hefyd yn cynnig bwrsariaethau. Ond symiau bach oedd y rhain hefyd, yn dangos mai cyfyng yw’r cronfeydd sydd ar gael i'r diwydiant.

Y bwlch yn lledu

O'n sgyrsiau niferus gyda phobl yn y diwydiant, gwyddom fod cynhyrchwyr drama bellach yn delio â phrotocolau diogelwch newydd, yn ailystyried arferion ffilmio ac yn ailnegodi trefniadau yswiriant.  Mae hyn yn ei dro wedi effeithio ar gyllidebau cynhyrchu, a oedd eisoes yn ei chael yn anodd gwireddu disgwyliadau cynulleidfaoedd, ac wedi gyrru costau cynhyrchu lleol i fyny oherwydd y galw cynyddol gan gwmnïau rhyngwladol cyfoethog fel Netflix ac Amazon.

Yn y DU, fel rydyn ni wedi ei drafod mewn man arall, y darlledwyr cyhoeddus yw'r buddsoddwyr mwyaf o hyd mewn drama wreiddiol, felly mae gweithwyr yn dibynnu'n drwm arnyn nhw.  Ond mae effeithiau'r pandemig i’w teimlo yma hefyd.  Mae Itv a Channel 4, er enghraifft, wedi adrodd  colledion sylweddol yn eu refeniw hysbysebu.

Roedd eu refeniw cronnus eisoes wedi gostwng gan 3.5% yn 2019 i £2.2biliwn – a bydd gostyngiad disgwyliedig  o rhwng 17% a 19% mewn hysbysebion teledu yn 2020 yn creu llawer mwy o bwysau.  Mae Channel 4 eisoes wedi torri ei chyllideb raglenni gan ryw ugain y cant ac wedi rhoi bron 10% o'i dros 900 o staff ar ffyrlo.

Gyda darlledwyr y DU yn dibynnu ar refeniw hysbysebu, neu – yn achos y BBC – ffi'r drwydded, mae'r bwlch rhwng eu cyllidebau nhw a rhai’r darlledwyr rhyngwladol mawr yn debygol o barhau i gynyddu.  Bydd y bwlch yn cael ei deimlo dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, gan y cwmnïau cynhyrchu annibynnol a'r gweithlu llawrydd. Ond efallai y bydd gwylwyr hefyd yn teimlo’r effaith wrth iddynt sylweddoli bod ystod ac amrywiaeth y dramâu o'r DU fydd i’w gweld ar eu sgriniau hefyd wedi dioddef yn sgil y pandemig.


Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o ‘The Conversation’ o dan drwydded Comin Creu. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.