Enwi PDC yn Seiber Brifysgol y Flwyddyn am yr ail dro’n olynol
14-09-2020
Ar 9 Medi, mewn digwyddiad gafodd ei ffrydio’n fyw, enillodd Adran Seiber Prifysgol De Cymru (PDC) wobr yng Ngwobrau Seiber Cenedlaethol 2020, a chafodd ei henwi’n Seiber Brifysgol y Flwyddyn.
Nod y gwobrau yw cydnabod y rheiny sydd wedi ymrwymo i seiber-arloesi, lleihau troseddau seiber ac amddiffyn dinasyddion ar-lein.
Mae'r categori Addysg a Dysgu yn cydnabod sefydliadau addysgol sydd ar flaen y gad o ran addysg seiberddiogelwch.
Yn brwydro am y wobr yn erbyn Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion, sicrhaodd PDC y tlws ar gyfer ein Hacademi Seiberddiogelwch Genedlaethol (ASG) newydd a'n cydweithredu cenedlaethol gweladwy.
Ar Gampws Casnewydd PDC y mae'r ASG beilot, y gyntaf o'i math yng Nghymru a menter bwysig yng nghyd-destun y DU. Ymunodd y myfyrwyr cyntaf â hi yn 2016.
Dywedodd Eric Llewellyn, Dirprwy Bennaeth Ysgol Cyfrifiadureg a Mathemateg PDC: "Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr hon am yr ail flwyddyn yn olynol yn erbyn cystadleuaeth gan sefydliadau mor flaenllaw. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad ein timau yng Nghasnewydd a Threfforest, a chefnogaeth barhaus y Brifysgol.
"Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr anrhydedd hon yn rhoi sicrwydd i'r myfyrwyr newydd fydd yn ymuno â ni cyn bo hir, fod gyda ni, er gwaetha’r amgylchiadau anarferol, dîm gwybodus ac ymroddedig sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau y bydd eu cyfnod gyda ni yn fuddiol ac yn bleserus."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Gwobr aur am ragoriaeth mewn seiberddiogelwch i PDC, y gyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr
18-12-2020

Hanesion Graddio: Mae ymchwil Annie wedi helpu i drawsnewid dysgu ar-lein yn PDC
16-12-2020

Hanesion Graddio: "Os alla i weithio drwy bandemig, alla i fynd i’r afael ag unrhyw beth!"
16-12-2020

Hanesion Graddio: Olivia wedi cadw ei ffocws ar lwyddiant gyda’i gradd er gwaethaf problemau llygaid
15-12-2020

Hanesion Graddio: "Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a dilyn eich calon”
15-12-2020

Hanesion Graddio: Taflwyd George i mewn yn y pen dwfn
14-12-2020

Hanesion Graddio: "Rwy'n falch o fod yn gwneud gwahaniaeth i'n planed"
14-12-2020

PDC yn rhan o gais ariannu £37m datgarboneiddio diwydiant
11-12-2020

Myfyrwyr PDC yn trafod iechyd meddwl gyda’r teulu brenhinol
10-12-2020