Gall chwarae pêl-droed wella iechyd meddwl — ymchwil newydd

Football

Mae chwarae pêl-droed yn ffordd dda o ddod yn ffit yn gorfforol. Ond mae ein hastudiaeth newydd yn dangos fod chwarae’n rheolaidd hefyd yn gallu arwain at well iechyd meddwl, hyder cymdeithasol a golwg pwrpasol.

Wrth i ni archwilio effaith y gêm gelfydd ar bobl gyda heriau iechyd meddwl, dywedodd llawer o’r chwaraewyr y buom yn siarad â hwy fod eu gemau wythnosol yn gwella straen a lefelau gorbryder. Dyma oedd sylw un:

Rwy’n credu pan fo’ch adrenalin yn pwmpio mae e’n rhyw fath o fflysio unrhyw fath o emosiynau negyddol ac ati sydd gyda chi, bron fel eich bod yn ei chwysu allan o’ch corff.

Dywedodd un arall eu bod yn mynd adre ar ôl gêm yn teimlo “wedi ymlacio llawer mwy”, gan ychwanegu: “Byddai’n wych gwneud hynny bob dydd.”

Ymhlith y manteision eraill oedd cysylltiadau cymdeithasol, a oedd yn broblem yn y gorffennol i rai o’r chwaraewyr y buom yn siarad â hwy. Roedd yn ymddangos fod gan bêl-droed ran allweddol mewn cynnig diddordeb cyffredinol i chwaraewyr a hyfforddwyr, a chreu cwlwm agosrwydd wedi hynny. Yn ôl un chwaraewr: “Rydych yn siarad am beth ddigwyddodd ar y cae. Dyna beth sy’n torri’r ias. Rwy’n credu mai dyna beth sy’n rhoi hyder i bobl siarad â phobl newydd.”

Elfen gref arall oedd y modd yr oedd dod yn rhan o dîm, rhannu cae ac ysbryd wedi helpu i normaleiddio eu teimladau a chaniatáu iddynt feithrin cysylltiadau â’i gilydd fel unigolion ac fel aelodau o dîm.

Dynion ifanc ar y cyfan oedd y rhai y buom ni’n siarad â hwy, ac iddynt hwy mae problemau iechyd meddwl yn fater o bwys. Hunanladdiad, er enghraifft, fu prif achos marwolaeth dynion o dan 34 yn y DU ers 2001.

Ar gyfer ein hastudiaeth, bu cyfranwyr yn mynychu sesiynau pêl-droed 90-120 munud wythnosol, wedi’u cynnal gan bedwar clwb proffesiynol a lled broffesiynol yn gweithio gyda rhaglen iechyd meddwl gwrth-stigma.

Yn allweddol i’w llwyddiant oedd brwdfrydedd ac ymrwymiad yr hyfforddwyr, a lwyddodd i greu amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol i’r chwaraewyr. Er enghraifft, yn wreiddiol cynlluniwyd y rhaglen i fod yn “anghystadleuol” ond cafodd hyn ei newid ar ôl i’r hyfforddwyr weld na fyddai efallai yn denu chwaraewyr, gydag un yn nodi nad yw “pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn wahanol… fyddwn i ddim yn codi o’r gwely i chwarae pêl-droed anghystadleuol”.

Gwnaeth y cyfranwyr sylweddoli a gwerthfawrogi ymroddiad yr hyfforddwyr, a oedd yn elfen o ysgogiad i lawer ohonynt i ymrwymo i’r rhaglen, gydag un yn nodi “maen nhw yma yn treulio eu holl amser sbâr er mwyn i ni gael mwynhau. Maen nhw’n gwneud gwaith enfawr, ac mae gennym ni lawer iawn o barch tuag atyn nhw.”

Triniaeth ar y cae

Mae’r manteision iechyd meddwl a ddisgrifiwyd gan y chwaraewyr yn ein hastudiaeth yn ategu ymchwil blaenorol yn y maes yma. Dangosodd un adolygiad diweddar fod gweithgaredd corfforol yn gwella symptomau iselder, gyda chanlyniadau i’w cymharu â’r defnydd o gynnyrch fferyllol. Dangosodd hefyd welliant mewn ffitrwydd y galon ac ansawdd bywyd i’r sawl sydd ag anhwylder iselder sylweddol a sgitsoffrenia. Dangoswyd fod ymyriadau ar sail ymarfer corff yr un mor effeithiol â seicotherapi i rai pobl sy’n dioddef o anawsterau iechyd meddwl.

Dylai mentrau’r dyfodol ymdrechu i ddatblygu cyfathrebu mwy strwythuredig rhwng darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl a chyfranwyr posibl. Mae’n hollbwysig hefyd iddynt ymgysylltu â chlybiau sefydledig sydd â’r cyfleusterau a’r personél i helpu.

Mae ein canlyniadau cryfhau’r dadleuon y dylai rhaglenni ar sail chwaraeon gael eu sefydlu’n eang fel ffordd rad, hwylus ac effeithiol i wella iechyd meddwl yn ein cymunedau.

Wedi’r cyfan, mae amlder anawsterau iechyd meddwl wedi dod yn bryder sylweddol i iechyd cyhoeddus, gyda thua chwarter poblogaeth oedolion ar hyn o bryd yn wynebu anawsterau iechyd meddwl mewn rhyw ffurf. Ar y funud, mae anawsterau o’r fath, sy’n cynnwys gorbryder ac iselder, yn gyffredinol yn cael eu trin gan ddefnyddio ymyriadau ffarmacolegol neu seicolegol. Ond dylai llunwyr polisi ystyried yn ddwys raglenni ar sail ymarfer corff, sy’n parhau i brofi eu bod yn ddewisiadau amgen effeithiol.