Gall cyfergydion wneud i’r ymennydd heneiddio’n gyflymach – ymchwil o'r cae rygbi

Research into concussion after playing rugby

Gan Tom Owens, Ymgeisydd PhD; Chris Marley, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Ymarfer Corff; a Damian Bailey, Athro Ffisioleg a Biocemeg, Prifysgol De Cymru

 

 

Daeth y niwed difrifol a achosir gan gyfergydion mewn chwaraeon i'r amlwg gyntaf ymhlith y bocswyr a ddioddefodd ergydion i’r pen dro ar ôl tro yn ystod eu gyrfaoedd ymladd. Defnyddiwyd y term punch-drunk gan rai i’w ddisgrifio. Rydyn ni’n gwybod bod ffurf debyg o niwed i’r ymennydd yn effeithio ar ystod o chwaraeon a phroffesiynau eraill, lle mae anafiadau mynych i'r pen yn lladd celloedd yr ymennydd ac yn graddol achosi i'r ymennydd grebachu.

Drwy weithio'n agos gyda chwaraewyr rygbi undeb elît, mae ein hymchwil  wedi ein helpu i ddeall effaith cyfergydion ar yr ymennydd wrth i ni heneiddio.  Rydyn ni wedi dangos bod ymenyddiau chwaraewyr ifanc sydd â hanes o gyfergydion yn gweithredu ar yr un lefel â pherson yn ei  60au. Yn syml, mae'n ymddangos bod cyfergydion yn cyflymu proses heneiddio biolegol yr ymennydd gan gymaint â thri degawd.

Un darganfyddiad pwysig oedd bod gan chwaraewyr rygbi'r undeb sydd wedi eu cyfergydio fwy o "radicalau rhydd" yn eu gwaed. Moleciwlau ansefydlog yw’r rhain, sy'n niweidio celloedd. Hefyd, mae ganddynt lai o ocsid nitraidd, moleciwl buddiol sy'n caniatáu i fwy o ocsigen a glwcos gyrraedd yr ymennydd. O ganlyniad, mae gwaedlestri mewn ymenyddiau sydd wedi dioddef cyfergyd yn ymateb yn araf i newidiadau yn llif y gwaed. Gelwir hyn yn "nam serebrofasgwlaidd".

Mae nam serebrofasgwlaidd wedi'i gysylltu â chamweithredu gwybyddol, a gall gael effaith negyddol ar y ffordd y mae person yn meddwl, yn canolbwyntio, yn llunio syniadau ac yn cofio. Gall hefyd eu gwneud yn fwy agored i ddementia pan yn hŷn. Yn ein dadansoddiad, gwelwyd y namau hyn yn bennaf yn y rhannau hynny o'r ymennydd lle mae cyswllt â'r pen yn cael ei wneud amlaf yn ystod chwarae.

Canfuwyd bod gan chwaraewyr rygbi elît sydd dal wrthi’n chwarae, a rhai sydd wedi ymddeol, nam gwybyddol o’u cymharu â phobl o oed a ffitrwydd tebyg nad oedden nhw wedi cael cyfergyd neu oedd heb chwarae campau cyswllt.  Roedd yn ymddangos bod yr effeithiau hefyd yn gysylltiedig â safle chwaraewr yn y tîm rygbi. Roedden nhw’n arbennig o gyffredin ymhlith blaenwyr, sydd fel arfer yn cael eu taclo’n amlach ac yn fwy tueddol o wrthdaro’n gorfforol â chwaraewyr eraill o’u cymharu ag olwyr.

Newid y Gêm?

Mae camau cadarnhaol wedi eu rhoi ar waith yn y byd rygbi wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o'r effeithiau negyddol y caiff cyfergydion ar yr ymennydd. Yn wir, bu datblygiadau mawr ers 2005, pan mai niwropatholegydd  yn swyddfa’r Crwner yn Pittsburgh  oedd y cyntaf i nodi math o niwroddirywad o'r enw "encephalopathi trawmatig cronig" (CTE) mewn Pêl-droediwr Americanaidd oedd wedi dioddef anafiadau niferus i’w ymennydd.

Ond nid yw'r broblem wedi'i datrys. Ac mae natur gynyddol gorfforol y gêm fodern, gyda chwaraewyr y mae eu cyrff yn fwyfwy cyhyrog, yn golygu y gallai'r risgiau fod yn gwaethygu. Felly beth gellir ei wneud i leihau effeithiau posibl cyfergydion ar chwaraewyr rygbi, effeithiau sy’n gallu newid bywydau?

Un peth y gellid ei wneud yw newid rheolau'r gêm. Er bod rhai addasiadau wedi'u cynnig, megis taclo ddim ond o gwmpas canol corff chwaraewyr i leihau nifer y gwrthdrawiadau pen-wrth-ben, mae rhai yn dadlau y dylid gwahardd taclo'n gyfan gwbl. Mae eraill, gan ein cynnwys ni, wedi canolbwyntio ar sefydlu asesiadau moleciwlaidd (gwaed, poer, wrin) a serebrofasgwlaidd (llif gwaed yr ymennydd) effeithiol i ganfod cyfergydion ar y cae er mwyn gallu cynnig triniaeth ac ysgogi adferiad cyflymach.

Ymennydd heb anaf gyda strwythur niwron gyfan (A). Mae cyfergydion yn achosi i gynffon niwron a elwir yn acson rwygo, sydd yn y pen draw yn arwain at farwolaeth y niwron. Mae hynny’n lleihau’r gallu i anfon negeseuon ar draws yr ymennydd (B). Artery Studios, Author provided (No reuse)

Tra bo’r rhain yn dal i gael eu datblygu, mae dulliau y gall chwaraewyr rygbi – ac unrhyw un arall – eu defnyddio i helpu ein hymenyddiau i frwydro yn erbyn y risg o ddementia. Mae'r rhain yn cynnwys hyfforddiant cyfnodol dwysedd uchel (HIIT) ac ymarfer aerobig rheolaidd.

Y rheswm dros hyn yw bod ymarfer corff yn helpu i gynnal pwysau corff iach ac yn hyrwyddo rhyddhau ocsid nitraidd, sy'n gwella'r ffordd y mae ein gwaedlestri’n gweithredu ac yn cyfrannu at ymennydd iachach.

Ond am nawr, mae cyfergydion ymhob camp yn parhau i fod yn anaf cyson sy’n gallu newid bywydau, gyda'r gwir ganlyniadau’n dod i’r amlwg pan fo’n rhy hwyr yn aml.  Mae bron 10 miliwn o chwaraewyr rygbi ledled y byd, ac mae chwaraewyr proffesiynol yn fwy tebygol na pheidio o gael cyfergyd o fewn 25 o gemau.

Ac er bod triniaethau modern a phrotocolau rheoli ar gyfer cyfergydion wedi gwella, gyda mwy o fonitro a phrofion niwrolegol, dim ond yn rhannol yr ydyn ni’n deall hyd heddiw y mecanweithiau sy'n cynyddu tueddiad athletwyr i gael CTE a chymhlethdodau niwrolegol eraill.

Yn y cyfamser, mae cyrff llywodraethu rygbi'r undeb wedi wynebu beirniadaeth am beidio â rheoli cyfergydion.  Ond efallai na ddylai hyn ein synnu rhyw lawer o gofio mai’r  driniaeth draddodiadol ar gyfer cnoc i’r pen, yn lled ddiweddar yn oes amatur y gêm, oedd "sbwng hud" wedi'i drochi mewn dŵr oer.