Gwobr aur am ragoriaeth mewn seiberddiogelwch i PDC, y gyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr

cyber generic

PRIFYSGOL De Cymru (PDC) yw'r unig brifysgol yng Nghymru i gael ei henwi'n Ganolfan er Rhagoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) – sy’n rhan o GCHQ.

Mae PDC yn un o wyth prifysgol yn y DU sydd wedi eu cydnabod gan raglen newydd gan lywodraeth y DU i ddathlu rhagoriaeth mewn seiberddiogelwch. Mae'r gydnabyddiaeth hon gan y fenter NCSC newydd yn adlewyrchu ymrwymiad PDC i addysg seiberddiogelwch.

Mae'r wyth sefydliad wedi cael eu cydnabod fel Canolfannau er Rhagoriaeth Academaidd (CRhS) cyntaf y wlad mewn Addysg Seiberddiogelwch (AS) am ddarparu addysg seiberddiogelwch o'r radd flaenaf ar gampws ac am hybu sgiliau seiber yn eu cymunedau.

Roedd enghreifftiau o weithgareddau a gynhaliwyd gan y sefydliadau yn amrywio o gynnig cyrsiau byr 'Cyber 101' i fyfyrwyr newydd, i greu cwrs i helpu pobl sy'n gadael y lluoedd arfog i ddysgu sgiliau seiber gwerthfawr. 

Arweinir y rhaglen CRhS-AS gan yr NCSC – rhan o GCHQ – ac Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth San Steffan. 

Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber yr NCSC: "Rwyf wrth fy modd ein bod bellach yn gallu cydnabod y casgliad cyntaf o brifysgolion yn Ganolfannau er Rhagoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch, gan ategu ein rhaglenni presennol sy'n cydnabod ymchwil seiberddiogelwch a chyrsiau gradd o ansawdd uchel."

"Mae'n dyst i ymdrechion parhaus academyddion, staff cymorth ac uwch reolwyr bod seiberddiogelwch yn parhau i fod yn uchel ar eu hagenda.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw dros y blynyddoedd nesaf ac yn annog prifysgolion eraill i weithio tuag at sicrhau cydnabyddiaeth debyg yn y dyfodol."

Derbyniodd saith prifysgol wobr aur yn y rownd gyntaf hon o geisiadau am ddangos dulliau trawiadol o hyrwyddo a hybu rhagoriaeth seiberddiogelwch, a PDC oedd yr unig un o’u plith o Gymru.

Dangosodd pob un o'r canolfannau Aur llwyddiannus eu bod yn cynnig o leiaf un radd ardystiedig gan NCSC, yn darparu hyfforddiant seiberddiogelwch o'r safon uchaf i staff a myfyrwyr o arbenigeddau eraill yn y brifysgol, ac yn gweithio i wella gwydnwch seiber eu sefydliad a chynnal gweithgareddau allgymorth lleol.

"Rydym yn hynod falch o dderbyn y gydnabyddiaeth hon ar safon Aur yr NCSC sy'n prawf arall o’n hymrwymiad at ddatblygu gweithlu seiberddiogelwch y dyfodol," dywedodd yr Athro Paul Harrison, Dirprwy Is-Ganghellor (Arloesi ac Ymgysylltu) PDC.

"Bydd cydnabyddiaeth fel Canolfan er Rhagoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch yn ein galluogi i barhau i adeiladu ar ein llwyddiannau a darparu llwyfan ar gyfer gweithio'n agosach gyda'r NCSC yn y maes hwn sydd o bwysigrwydd cenedlaethol hanfodol.   

"Hoffem ddiolch i'n holl staff a myfyrwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosibl a'r tîm yn yr NCSC am eu cefnogaeth a'u harweiniad amhrisiadwy yn ystod y broses ymgeisio."

Dywedodd Matt Warman, y Gweinidog dros Seilwaith Digidol: "Mae gan y DU rai o weithwyr maes technoleg disgleiriaf y byd, ac mae'n gwbl addas ein bod yn dathlu prifysgolion lle mae cymaint o bobl yn datblygu sgiliau perthnasol ac arloesol.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r byd academaidd i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent seiberddiogelwch ac rwy'n annog sefydliadau addysg sydd â diddordeb i wneud cais am y gydnabyddiaeth hon."

Mae angen cynnig gradd wedi ei hardystio gan yr NCSC er mwyn derbyn cydnabyddiaeth CRhS-AS, gan fod hynny’n dangos bod sefydliad eisoes yn darparu addysg o safon uchel i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru mewn disgyblaethau seiberddiogelwch.

Fodd bynnag, mae sefydliadau CRhS-AS llwyddiannus yn mynd y tu hwnt i hynny, ac yn cynnig cyfleoedd addysg seiberddiogelwch ar y campws cyfan ac i'r rhai yn eu cymuned ehangach.

Yn y casgliad cyntaf o enillwyr roedd hyn yn cynnwys cynnig dosbarthiadau seiberddiogelwch i'r rhai oedd yn astudio pynciau fel gwleidyddiaeth, y gyfraith, a seicoleg a sefydlu lleoliadau profiad gwaith ar gyfer plant ysgol lleol.