Hanesion Graddio: Anna yn trechu salwch a newidiodd ei bywyd ac yn cwblhau ei gradd – a’i breuddwyd nawr yw bod yn nyrs

Anna Hill

Mae Anna Hill wedi gorfod goresgyn mwy o rwystrau na'r rhan fwyaf yn ystod ei thaith at radd o Brifysgol De Cymru.

Cafodd y fyfyrwraig 21 oed o Gaerwrangon ddiagnosis Colitis Briwiol ychydig fisoedd wedi iddi ddechrau ei chwrs Gwyddorau'r Heddlu, ac roedd ganddi boen a blinder affwysol gydol y rhan fwyaf o'i chyfnod yn y brifysgol.

Ond nawr, ar ôl llawdriniaeth fawr i gael ileostomi (bag stoma), mae Anna'n gallu mwynhau bywyd unwaith eto ac mae eisoes yn cynllunio’r cam nesaf yn ei gyrfa – hyfforddi i fod yn nyrs.

"Roeddwn i ar fy ngwyliau yn Zante ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, pan es i’n sâl," meddai Anna, sy'n byw yn Warndon Villages ac a aeth i Goleg Catholig Blessed Edward Oldcorne. 

"Yn fuan wedyn ces i ddiagnosis Cholitis – cyflwr nad oeddwn i’n gwybod dim amdano cyn hynny. Heblaw am orfod defnyddio'r toiled yn aml, doedd gen i ddim syniad faint y byddai'n newid fy mywyd."

Ar ôl rhoi cynnig ar sawl meddyginiaeth i reoli ei salwch, roedd Anna wedi bwriadu dychwelyd i PDC ar gyfer ei thrydedd flwyddyn, cyn iddi fynd yn sâl eto – a’r tro hwn bu’n rhaid iddi dreulio amser yn yr ysbyty.

"Roedd rhaid i fi fynd i’r Adran Frys gan fod y boen mor ofnadwy, a ches i wybod bod perygl y gallai fy ngholuddyn rwygo. Dyna pryd y ces i’r llawdriniaeth i gael ileostomi, lle mae bag stoma’n cael ei osod yn lle’r colon i gasglu gwastraff.

"I ddechrau, roeddwn i'n gofidio am y syniad o wisgo'r bag weddill fy mywyd, ond sylweddolais yn gyflym cymaint yn haws y byddai bywyd o’i gael e.

"Mae'n golygu bod yn rhaid i mi fod yn agos at doiled i wagio'r bag yn rheolaidd, ond mae'n bris bach iawn i'w dalu o ystyried mor anodd roedd fy mywyd o'r blaen. Roeddwn i wedi blino’n lân drwy’r amser, wedi ennill pwysau o fod ar feddyginiaeth steroid ac roedd y tasgau lleiaf yn teimlo'n anodd.

"Ond nawr, does dim rhaid i fi gymryd unrhyw feddyginiaeth, dydw i ddim mewn unrhyw boen ac rwy'n teimlo o'r diwedd ’mod i'n rheoli fy mywyd eto."

Collodd Anna ddau fis o astudio tra'r oedd hi'n gwella o’r llawdriniaeth, ond diolch i'r gefnogaeth a gafodd gan ei thiwtoriaid a'i theulu – ei thad, Alan, ei mam Sarah a’i llys-dad Ken – bu’n bosibl iddi ddal fyny a chwblhau ei holl aseiniadau ac arholiadau.

"Roedd fy nhad yn gallu gweithio o gartref tra oeddwn i'n gwella a helpu wrth i fi orffen fy nhraethawd. Roedd hynny’n hynod ddefnyddiol ar adeg pan oedd straen fy arholiadau terfynol ar ei anterth!" dywedodd.

"Pan ges i’r diagnosis yn wreiddiol, doedd neb yn meddwl y byddwn i’n gallu dychwelyd i astudio, heb sôn am orffen fy ngradd a chael 2:1, felly rwy'n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth mawr iawn.

"Roedd staff addysgu PDC – yn enwedig Sharan (Johnstone, arweinydd y cwrs Heddlua Proffesiynol) – yn wych.

"Gweithion nhw’n galed iawn i sicrhau ’mod i'n ymdopi, ac roedd gwybod bod cymaint o bobl yn meddwl amdana i yn help mawr.”

Nawr, wedi'i hysbrydoli gan y gofal a gafodd yn yr ysbyty, mae Anna yn ystyried newid gyrfa i fod yn nyrs.

Dywedodd: "Byddwn i wrth fy modd yn helpu pobl eraill sydd â chyflyrau tebyg, a rhoi sicrwydd iddyn nhw y bydd popeth yn iawn."

Dywedodd Sharan Johnstone: "Mae gan Anna ddycnwch ac awch anhygoel am fywyd. Mae ei gwydnwch, a’r ffaith ei bod wedi gwrthod rhoi'r ffidil yn y to a gadael i afiechyd ei threchu wir yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

"Fel arweinydd cwrs, braint yw cael chwarae rhan yn nhaith ddysgu unrhyw un, ond rwy'n teimlo'n arbennig o freintiedig o fod wedi bod yn rhan o daith Anna. Byddaf yn ei gwylio’n graddio o PDC gyda balchder mawr iawn."