Hanesion Graddio: "Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a dilyn eich calon”
15-12-2020
Efallai ei fod wedi cymryd mwy na dau ddegawd a newid mewn gyrfa, ond mae darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), Matt Hutt, wedi cyflawni ei PhD o'r diwedd – ac fe ddywed nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich calon.
Bellach yn Uwch Ddarlithydd mewn Dysgu Proffesiynol: Addysg, Arwain a Rheoli, yn yr Ysgol Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Cymdeithasol, bu Matt yn gweithio ym maes arwain ysgolion gynt, a phenderfynodd symud i'r byd academaidd i ganolbwyntio ar ei ddiddordebau ymchwil.
"Dechreuais i feddwl gyntaf am wneud PhD yn 22 oed ar ôl fy MA cyntaf," dywedodd.
"Bu’n ddyhead tawel gen i tan fo amgylchiadau’n iawn, ac fe'i dechreuais o'r diwedd yn 46 oed. Mae’n dangos am wn i nad yw hi byth yn rhy hwyr i ailafael mewn breuddwyd!
"Roedd ysgrifennu 100,000 o eiriau ar un pwnc penodol yn brofiad pleserus iawn, ac rwy'n falch fy mod wedi gwneud yr ymrwymiad meddyliol i fi fy hun bedair blynedd yn ôl. Wedi dweud hyn, doedd e erioed yn teimlo’n feichus nac yn llethol. Mae’n fater o wneud yr hyn sy’n iawn pan fo’n teimlo’n iawn!”
Mae PhD Matt yn ystyried y ffyrdd y mae canfyddiadau o ymddiriedaeth, ymreolaeth ac atebolrwydd yn cydblethu mewn addysg uwchradd yn ne Cymru, a bydd yn derbyn y radd cyn bo hir. Mae'n defnyddio naratifau ymarferwyr addysg ynghylch ymddiriedaeth, atebolrwydd ac ymreolaeth broffesiynol i astudio realiti canfyddedig prosesau gwella ysgolion.
"Rhoddodd y PhD gyfle i fi ehangu fy meddwl ar bwnc penodol o ddiddordeb proffesiynol ac academaidd, a rhoddodd gyfle gwych i fi feddwl am un pwnc penodol yn fanwl ac yn drylwyr iawn," meddai Matt.
"Dechreuodd y cyfnod cloi fis wedi i fi gyflwyno’r gwaith. Roedd hyn yn golygu ymarfer y viva ar-lein, a bu hynny’n ddefnyddiol iawn. Ar-lein y cafodd y viva go iawn ei wneud hefyd, a gweithiodd hynny’n dda iawn.
"Rwy'n credu bod unrhyw gyfarfod ar-lein yn blino rhywun mwy nag y mae cyfarfod yn y byd go iawn, ac felly mae'n debyg bod viva dwy awr ar-lein yn fwy dwys na viva wyneb yn wyneb dwy awr. Yn hynny o beth, roeddwn i’n arbennig o falch fy mod wedi ymarfer y viva (ar-lein) fis ynghynt. Bu modd i fi recordio’r ymarfer, ei wylio'n ôl ac fe wnes i nodiadau ar sut roeddwn i wedi ateb cwestiynau, a lle'r oeddwn am addasu/ychwanegu at fy ymatebion.
"Yn amlwg nid yr un cwestiynau yn union gafodd eu gofyn yn yr un go iawn, ond rwy'n credu bod y nodiadau a’r gallu i wylio’r ymarfer ambell dro wedi talu ar ei ganfed. Dydych chi ddim yn cael y ciwiau rhyngbersonol yn llawn mewn viva ar-lein, felly rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn bwysig iawn i fi deimlo'n gwbl barod cyn dechrau. Roedd yr ymarfer ar-lein, a drefnwyd gan fy ngoruchwylwyr, yn allweddol!
"Rwy'n falch fy mod wedi cwblhau’r PhD ac rwy'n hapus gyda chanfyddiadau’r ymchwil a'r ffordd y cawson nhw eu cofnodi. Mae bod wedi ei orffen yn creu teimlad o foddhad, ac rwy'n edrych nawr at gyhoeddi rhai elfennau ohono gobeithio. Mae wedi rhoi llwyfan gadarn i fi a sylfaen ar gyfer cymryd rhan mewn projectau ymchwil cydweithredol."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Gwobr aur am ragoriaeth mewn seiberddiogelwch i PDC, y gyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr
18-12-2020

Hanesion Graddio: Mae ymchwil Annie wedi helpu i drawsnewid dysgu ar-lein yn PDC
16-12-2020

Hanesion Graddio: "Os alla i weithio drwy bandemig, alla i fynd i’r afael ag unrhyw beth!"
16-12-2020

Hanesion Graddio: Olivia wedi cadw ei ffocws ar lwyddiant gyda’i gradd er gwaethaf problemau llygaid
15-12-2020

Hanesion Graddio: "Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a dilyn eich calon”
15-12-2020

Hanesion Graddio: Taflwyd George i mewn yn y pen dwfn
14-12-2020

Hanesion Graddio: "Rwy'n falch o fod yn gwneud gwahaniaeth i'n planed"
14-12-2020

PDC yn rhan o gais ariannu £37m datgarboneiddio diwydiant
11-12-2020

Myfyrwyr PDC yn trafod iechyd meddwl gyda’r teulu brenhinol
10-12-2020