Hanesion Graddio: "Os alla i weithio drwy bandemig, alla i fynd i’r afael ag unrhyw beth!"

Holly Bray

Pan ddechreuodd Holly Bray ar ei chwrs gradd mewn Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), allai dim byd ei pharatoi ar gyfer yr hyn fyddai’n wynebu yn ystod misoedd olaf ei hastudiaethau.

Ond bu’r ferch 23 oed o Lanelli yn y rheng flaen yn ystod ton gyntaf y pandemig Coronafeirws – fel myfyrwraig nyrsio yn Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Nawr, mae ar fin graddio o PDC gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, ac mae eisoes wedi creu argraff fel nyrs staff yn ICU Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

“Fi wastad wedi mwynhau helpu pobl, felly roedd nyrsio i weld yn yrfa naturiol i fi,” meddai Holly, a astudiodd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y coleg cyn gwneud cais i PDC.

“Roedd hi’n eitha’ anodd symud oddi cartre’ a gadael fy nheulu, ond wnes i wir fwynhau fy amser yn y brifysgol. Roeddwn yn cael gweithio tuag at yrfa wych wrth gael cyfleusterau anhygoel yn y Ganolfan Efelychu Glinigol.

“Dechreuais y cwrs o’r dechrau, heb brofiad clinigol o gwbl, felly roedd gallu ymarfer fy holl sgiliau cyn mynd ar leoliad yn help aruthrol.”

Aeth Holly ar leoliad ar wardiau meddygol, lleoliadau llawfeddygol, yn y gymuned, theatrau llawdriniaethau, unedau gofal dwys (ICU) a gofal lliniarol mewn hosbis leol, gan fagu profiad ym mhob agwedd bron o nyrsio.

Ond ar ôl ei chyfnod yn ICU ar ddechrau’r pandemig, sylweddolodd mai yn y maes hwnnw roedd am ddilyn gyrfa.

“Symudais i Lantrisant er mwyn i mi allu aros ar y safle wrth weithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Hwn oedd cyfnod ton gyntaf y pandemig felly doedd neb yn gallu dychmygu bryd hynny am faint fyddai’n para.

“Roedd hynny’n anodd iawn am ei fod yn golygu na allwn i fynd gatre’ i weld fy nheulu am rai misoedd, ac roeddwn o dan gryn bwysau hefyd yn gwneud fy nhraethawd estynedig. Ond, ar yr un pryd, roedd yn rhoi boddhad o wybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl hynny oedd o dan ofal critigol.

“Roedd yn sioc a dweud y lleiaf – i sylweddoli fod fy mhrofiad cyntaf gwirioneddol yn y swydd yn digwydd pan oedd pandemig byd-eang yn ei anterth! Doedden ni heb erioed baratoi ar gyfer unrhyw beth fel hyn, ond roeddem yn gwybod ychydig am beth i’w ddisgwyl ar ôl gweld beth oedd gwledydd eraill wedi’i wynebu cyn i Covid-19 daro’r DU.

“Roedd llawer ohonom yn methu credu’r hyn oeddem yn ei weld wrth fynd i’r gwaith, ac roedd yn dorcalonnus i weld teuluoedd nad oedd yn gallu treulio amser gyda’u hanwyliaid yn ystod eu dyddiau olaf.

“Ond rwyf mor falch fy mod yn gweithio i’r GIG, a bod yn rhan o’r frwydr yn erbyn Coronafeirws. Yn sicr wna’ i fyth anghofio’r flwyddyn y gwnes i raddio. Ac os alla’ i weithio drwy bandemig, alla i fynd i’r afael ag unrhyw beth!”