Hanesion Graddio: "Rwy'n falch o fod yn gwneud gwahaniaeth i'n planed"
14-12-2020
Mae helpu un o gwmnïau gweithgynhyrchu dur mwyaf y byd i leihau eu hallyriadau carbon yn rhan o waith bob dydd yr ymchwilydd Rhiannon Chalmers-Brown.
Yn rhan o'i PhD ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), gweithiodd Rhiannon gyda TATA Steel i ddatblygu proses bioburo i droi allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gemegau i'w defnyddio mewn biopolymerau a phlastigau.
Mae hi bellach wedi adeiladu bioadweithydd peilot, sydd ar y safle yng ngwaith Port Talbot, i echdynnu cynnyrch o'r nwyon – gan felly ddal y carbon, yn hytrach na'i ryddhau i'r atmosffer.
"Credir mai'r diwydiant dur yw cyfrannwr diwydiannol mwyaf y byd at garbon deuocsid atmosfferig, ond mae diwydiant dur Prydain yn cyfrannu tua £9.5 biliwn i economi'r DU bob blwyddyn," meddai Rhiannon, sydd bellach yn gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Amgylcheddol Cynaliadwy PDC (SERC).
"Mae dur yn ddeunydd allweddol ar gyfer adeiladu a darparu ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ynni gwynt, trydan dŵr a solar, gydag adeiladu un tyrbin gwynt yn gofyn am hyd at 230 tunnell o ddur.
"Mae'n hanfodol bod y broses gweithgynhyrchu dur yn cael ei gwneud yn fwy ecogyfeillgar tra'n parhau'n gost-effeithiol ac effeithlon, fel bod cynhyrchu dur yn dod yn gynaliadwy yn ystod y newid anochel i dechnoleg a menter werdd.
"Mae'r bioadweithydd ar raddfa beilot ar hyn o bryd, gyda'r potensial i ddatblygu'n dechnoleg fforddiadwy i bontio'r bwlch rhwng y diwydiant dur fel y gwyddom amdano ar hyn o bryd, a dyfodol cynaliadwy mewn gweithgynhyrchu dur gwyrdd.
"Fe wnaeth gweithio gyda TATA fy helpu i ymgyfarwyddo â'r rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau mawr wrth geisio lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae TATA yn rhagweithiol yn eu dull o ddod o hyd i atebion i broblemau enfawr fel allyriadau carbon deuocsid, a oedd yn gwneud cydweithio â nhw yn hawdd ac yn bleserus.
"Cefais lawer iawn o gyfleoedd a phrofiadau gwych, ond un o’r uchafbwyntiau i fi oedd taith lawn o'r safle, o gychwyn y broses weithgynhyrchu dur i’w diwedd. Mae'n galonogol gwybod bod cwmnïau eisiau gwneud y newidiadau hyn – yr her fawr nesaf yw eu gweithredu cyn iddi fod yn rhy hwyr."
Yn ystod ei PhD tair blynedd, priododd Rhiannon, symudodd dŷ ddwywaith, a dechreuodd ar rolau gwirfoddoli gydag Achub Mynydd y Bannau a Menywod mewn STEM, a rhoddodd ddarlithoedd yn y Gymdeithas Beirianneg.
"Os oes cyfle yn dod i fy rhan, rwy'n gwneud yn siŵr fy mod yn bachu arno," dywedodd.
"Mae'r ymchwil hwn wedi bod mor werthfawr ac wedi arwain at gynifer o gyfleoedd. Roeddwn i eisiau i fy PhD wneud gwahaniaeth i'n planed, a rhoddodd PDC gyfle i fi wneud hynny."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Gwobr aur am ragoriaeth mewn seiberddiogelwch i PDC, y gyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr
18-12-2020

Hanesion Graddio: Mae ymchwil Annie wedi helpu i drawsnewid dysgu ar-lein yn PDC
16-12-2020

Hanesion Graddio: "Os alla i weithio drwy bandemig, alla i fynd i’r afael ag unrhyw beth!"
16-12-2020

Hanesion Graddio: Olivia wedi cadw ei ffocws ar lwyddiant gyda’i gradd er gwaethaf problemau llygaid
15-12-2020

Hanesion Graddio: "Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a dilyn eich calon”
15-12-2020

Hanesion Graddio: Taflwyd George i mewn yn y pen dwfn
14-12-2020

Hanesion Graddio: "Rwy'n falch o fod yn gwneud gwahaniaeth i'n planed"
14-12-2020

PDC yn rhan o gais ariannu £37m datgarboneiddio diwydiant
11-12-2020

Myfyrwyr PDC yn trafod iechyd meddwl gyda’r teulu brenhinol
10-12-2020