Myfyrwyr PDC yn trafod iechyd meddwl gyda’r teulu brenhinol
10-12-2020
Ela Jenkins, Imogen Hopkins & Megan Morgan.
Foto: Media Wales
Fore Mawrth, yn rhan o'u taith drwy’r DU, daeth Dug a Duges Caergrawnt i Gaerdydd i gwrdd â phobl y mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw, ac i ddiolch i weithwyr rheng flaen.
Yn rhan o'r ymweliad, trafododd William a Kate faterion iechyd meddwl gyda myfyrwyr o Brifysgol De Cymru (PDC), Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Caerdydd.
Roedd y grŵp o PDC yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gyfadran y Diwydiannau Creadigol; Megan Morgan, Ela Haf Jenkins, ac Imogen Hopkins. Ymunwyd â nhw gan; Shannon Lee, Llywydd Undeb y Myfyrwyr (UM), Lois Joes, Is-lywydd UM (Addysg), a Kay Dennis, Is-lywydd (Lles).
Dywedodd Imogen Lee, BA Anrh Dylunio Ffasiwn:
"Roedd yr holl brofiad yn anhygoel. Fe geision ni beidio â meddwl gormod amdano ar y pryd neu gallen ni fod wedi ein llethu gan y profiad.
"Roedd cwrdd â phobl sydd mor uchel eu proffil ond sydd â chymaint o ddiddordeb mewn pobl ifanc a'u hiechyd meddwl yn ysbrydoledig iawn ac yn beth gwych iddyn nhw ei wneud.
"Fe wnaethon nhw arwain sgwrs onest iawn am y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ond hefyd am sut mae'r sgwrs yn dechrau bod yn fwy agored. Gofynnon nhw sut roedden ni’n ymdopi yn y flwyddyn gyntaf a gyda’r dull cyfunol o astudio.
"Roedd gan Kate ddiddordeb yn yr agweddau ar ffasiwn rydyn ni’n eu hastudio a gofynnodd am ein dyheadau o ran gyrfa. Sylwais ei bod, drwy gydol ei thaith drwy’r DU, wedi gwisgo lliwiau’r faner, oedd yn rhywbeth hyfryd yn fy marn i.”
Dywedodd Shannon Lee, Llywydd UM PDC:
"Roedd yn brofiad anhygoel cael cynrychioli Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol, yn enwedig gan ganolbwyntio ar bynciau mor agos at ein calonnau. Roedd y Dug a'r Dduges yn gwrando’n astud ar ein sylwadau ac roedden nhw fel petaen nhw’n awyddus i ddeall yr effaith mae'r pandemig wedi'i chael ar fyfyrwyr, yn enwedig eu hiechyd meddwl. Rydyn ni’n gobeithio eu bod wedi ystyried y sylwadau ac y byddan nhw’n annog bod pob cymorth a chefnogaeth yn parhau."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Gwobr aur am ragoriaeth mewn seiberddiogelwch i PDC, y gyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr
18-12-2020

Hanesion Graddio: Mae ymchwil Annie wedi helpu i drawsnewid dysgu ar-lein yn PDC
16-12-2020

Hanesion Graddio: "Os alla i weithio drwy bandemig, alla i fynd i’r afael ag unrhyw beth!"
16-12-2020

Hanesion Graddio: Olivia wedi cadw ei ffocws ar lwyddiant gyda’i gradd er gwaethaf problemau llygaid
15-12-2020

Hanesion Graddio: "Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a dilyn eich calon”
15-12-2020

Hanesion Graddio: Taflwyd George i mewn yn y pen dwfn
14-12-2020

Hanesion Graddio: "Rwy'n falch o fod yn gwneud gwahaniaeth i'n planed"
14-12-2020

PDC yn rhan o gais ariannu £37m datgarboneiddio diwydiant
11-12-2020

Myfyrwyr PDC yn trafod iechyd meddwl gyda’r teulu brenhinol
10-12-2020