PDC yn derbyn statws Prifysgol Noddfa

University of Sanctuary

Prifysgol De Cymru yw’r ail sefydliad addysg uwch yng Nghymru i dderbyn statws Prifysgol Noddfa. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad y Brifysgol i greu diwylliant o groeso i bobl sy’n ceisio noddfa yn ei champysau a thu hwnt. 

Wrth i fwyfwy o bobl gael eu gorfodi i ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth ledled y byd, sefydlwyd cynllun Prifysgol Noddfa yn 2017 gan elusen genedlaethol City of Sanctuary sy’n gweithio i ddarparu lleoedd diogel i bawb.

Mae City of Sanctuary wedi partneru ag Article 26 – prosiect sydd â’r nod o gynorthwyo myfyrwyr a geisiodd noddfa ym Mhrydain i dderbyn addysg uwch a llwyddo yn eu hastudiaethau – Student Action for Refugees a sefydliadau eraill i ddatblygu rhwydwaith Prifysgolion Noddfa. Nod y cynllun yw ysbrydoli a chynorthwyo prifysgolion i fabwysiadu diwylliant ac arferion o groeso oddi mewn i’w sefydliadau eu hunain, yn eu cymunedau ehangach, a ledled sector Addysg Uwch Prydain. 

University of Sanctuary logoFel rhan o’r broses ddyfarnu, treuliodd tîm o blith pwyllgor Prifysgol Noddfa ddiwrnod yn siarad gyda rhai o fyfyrwyr-ffoaduriaid PDC, myfyrwyr TESOL (Addysgwyr Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) israddedig, staff sy’n gweithio ar gynllun Noddfa PDC ac aelodau’r grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae Prifysgol De Cymru bellach yn un o 15 o Brifysgolion Noddfa yn y Deyrnas Unedig.

Mae statws Prifysgol Noddfa PDC yn ategu Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd, sef y cam diweddaraf tuag at uchelgais Cymru i fod yn genedl noddfa i bawb sy’n dymuno ymgartrefu yma.

Mae’r cynllun yn cyflwyno amrywiaeth o gymorth wedi’i dargedu sy’n briodol yn ddiwylliannol i geiswyr lloches a ffoaduriaid, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau iechyd meddwl sy’n mynd i’r afael â phrofiadau anodd blaenorol y sawl sy’n ceisio noddfa
  • Ymyriadau i liniaru’r risg bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn mynd yn ddiymgeledd
  • Camau i atal unigolion bregus rhag cael eu cam-drin
  • Diogelu, yn arbennig yn achos plant digwmni sy’n ceisio lloches.

Mae Dr Mike Chick, Pencampwr Ffoaduriaid cyntaf PDC, yn rheoli a chynghori ar y cymorth y gall ffoaduriaid ei gael gan y Brifysgol. Mae’n bwynt cyswllt unigol i bob cwestiwn ynghylch rhyngweithio â myfyrwyr ac ymgeiswyr sy’n ffoaduriaid.

Y mae hefyd yn hyrwyddo Cynllun Noddfa Ffoaduriaid PDC sydd, drwy’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol, yn darparu cymorth i nifer gyfyngedig o ffoaduriaid cymwys er mwyn iddynt wella eu sgiliau iaith Saesneg cyn cychwyn ar gwrs israddedig.

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi helpu cymaint o geiswyr lloches, a llawer ohonyn nhw wedi dianc rhag rhyfel ac erledigaeth a bellach yn daer eisiau cyfrannu at gymdeithas sy’n cynnig diogelwch iddyn nhw rhag niwed,” meddai Mike.

“Mae cael ein cydnabod yn Brifysgol Noddfa yn gyrhaeddiad sylweddol i Brifysgol De Cymru ac yn destun balchder i’n holl staff a’n myfyrwyr. Wrth groesawu a chynorthwyo ceiswyr noddfa, rydyn ni’n cydnabod y cyfraniad rhyfeddol maen nhw’n ei wneud i’r Brifysgol a’n cymunedau.”

Ychwanegodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor o PDC: “Gan fod anghenion ffoaduriaid yn newid yn gyson, bydd ein statws fel Prifysgol noddfa yn sefyllfa ddatblygol, ac rwy’n falch iawn o’r gwaith mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn ei wneud i roi croeso i bob un o'n myfyrwyr, sut bynnag y maent yn dod o hyd i'w ffordd i mewn i'r teulu USW.”

#featured