PDC yn rhan o gais ariannu £37m datgarboneiddio diwydiant
11-12-2020
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o gonsortiwm o rai o brif sefydliadau diwydiant, ynni, seilwaith, cyfreithiol, academaidd a pheirianegol yng Nghymru, sydd wedi uno i gynnig cais cyhoeddus a phreifat am brosiect £37m fydd yn pennu cwmpas llwybr i ddatgarboneiddio diwydiant yn rhanbarth de Cymru.
Bydd y cais yn eu helpu i gynllunio i gyflymu bod yn sero-net a chreu diwydiant morgludo carbon deuocsid cyntaf ar raddfa fawr yn y DU ar yr un pryd.
Mae cais Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) yn cael ei arwain gan Costain gyda’r canlynol yn bartneriaid; PDC, Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Capital Law, CR Plus, Diwydiant Cymru, Lanzatech, Lightsource bp, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Progressive Energy, RWE Generation, Shell, Simec Power, Tarmac, Tata Steel, Porthladd Aberdaugleddau, Valero Energy a Wales & West Utilities.
Cafodd y cais ei wneud fel rhan o Gronfa Datgarboneiddio Diwydiannol Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, gyda’r sector diwydiant yn rhoi £18m tuag at y prosiect.
Bydd y ‘Cynllun
10 Pwynt’ hir ddisgwyliedig i gyfleu Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd yn rhoi £12bn
o Fuddsoddiad y Llywodraeth ar waith ac yn creu 250,000 o swyddi yn yr “economi
werdd”.
Gyda’r Prif Weinidog yn neilltuo £200m ychwanegol ar ben yr £800m a addawyd eisoes i greu “clystyrau dal carbon”, gall y cais hwn fod â rhan allweddol yn rhan o’r Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd hwn.
De Cymru yw’r ardal sy’n cynhyrchu’r ail fwyaf o allyriadau carbon deuocsid yn y DU. Llynedd y DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu y bydd yn cyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050. Mae sero-net yn golygu y bydd dulliau eraill yn gwneud yn iawn am unrhyw allyriadau fydd yn weddill. Mae hyn hefyd yn rhan o strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Bydd prosiect gweithredu SWIC yn ymgymryd â’r astudiaethau peirianegol brys i gadw de Cymru ar y llwybr tuag at ddatgarboneiddio, yn cynnwys cynhyrchu, dosbarthu a’r defnydd o hydrogen, gan greu tanwydd cynaliadwy ar gyfer awyrennau a’r defnydd o ddal a storio carbon (CCUS), yn cynnwys morgludo CO2 o borthladdoedd de Cymru.
Hwn fyddai’r diwydiant morgludo CO2 cyntaf yn y DU a’r amcangyfrif yw y gallai greu tua 1,000 o swyddi yn ne Cymru, yn ogystal â chreu diwydiant cyfan gwbl newydd yn y rhanbarth.
Dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Hydrogen PDC yn Baglan ac arweinydd academaidd Clwstwr Diwydiannol De Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect ac i allu cynnig ein harbenigedd mewn datgarboneiddio a thechnoleg hydrogen fel aelod o’r Consortiwm.
“Mae’r ymchwil rydym yn ei wneud yn y Ganolfan Hydrogen yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â nifer o bartneriaid diwydiant pwysig i ganfod dulliau o ddatgarboneiddio, yn enwedig drwy arfer technolegau hydrogen.
“Wedi cyfleu’r prosiect defnydd cam cyntaf yn llwyddiannus drwy raglen Datgarboneiddio clystyrau diwydiannol yr ISCF, rydym yn hynod falch o gael y cyfle i fynd â’r prosiect yn ei flaen.
“Mae’r consortiwm wedi canfod ymyriadau technoleg critigol ar draws sectorau diwydiannau allweddol ac mae’n awr yn ceisio defnyddio’r rhain i leihau allyriadau carbon yn aruthrol, gan anelu ar y nod o allyriadau diwydiannol sero-net yn ne Cymru.
“Gan weithio’n
agos gyda phartneriaid diwydiant yn y Consortiwm, byddwn yn helpu i ddatblygu’r
ymagweddau technegol mwyaf effeithiol a chynnal hyn gyda’r Ymchwil a’r Datblygu
perthnasol, yn ogystal â chydgysylltu datblygiad sgiliau a hyfforddiant i
gefnogi diwydiannau de Cymru i gyrraedd yn nod ‘sero-net’.”
Meddai Dr Chris
Williams, sy’n cynrychioli Diwydiant Cymru ar SWIC: “Yn gyntaf, rhaid i ni
ddiolch i Costain am dynnu’r prosiect at ei gilydd i ni a diolch i’r prif
fusnesau, BbaChau a’r Prifysgolion sy’n barod i gyfrannu ymdrechion ac adnoddau
ariannol anferth i’r cynllun hynod uchelgeisiol, ond realistig hwn, i
ddatgarboneiddio diwydiannau de Cymru. Byddai nid yn unig o fantais i’r
amgylchedd yn lleol, yn ogystal ag yn fyd-eang, ond byddai hefyd yn golygu ein
bod yn cynnal ac yn adfywio’r diwydiannau y bu de Cymru’n dibynnu arnynt ers
canrif a mwy.
"Mae Llywodraeth
y DU wedi cyflwyno deddf yn datgan y bydd angen i’r DU fod yn sero-net erbyn
2050, ond mae gan Glwstwr Diwydiannol De Cymru uchelgais i wneud hynny’n gynt,
erbyn 2040, i gefnogi amryw o’r pwyntiau o fewn y Cynllun 10 Pwynt a’r Her
Datgarboneiddio Diwydiannol. Bydd ein cais, os yn llwyddiannus, yn help i
gyflawni hyn yng Nghymru.”
Dywedodd Dr Williams fod y ffaith fod cymaint o fusnesau Cymru yn cefnogi ac yn gweithio ar y cais wedi bod yn allweddol yn ei lwyddiannau hyd yma.
“Mae gennym gyfle unigryw yma i newid tynged ein dyfodol amgylcheddol a diwydiannol ac felly mae wedi bod yn wych i gael cymaint o fusnesau’n cefnogi ac yn dadlau o blaid ein gweledigaeth a’n cynlluniau,” meddai.
“Bydd y prosiect
defnydd hwn yn help i ddatgloi’r llwybr i sero-net yn ne Cymru, o ganlyniad yn
help i gynnal dyfodol diwydiannau, busnesau a swyddi presennol, ond hefyd yn
help i ddatblygu’r seilwaith sero-net fydd ei angen i ddenu diwydiannau a
busnesau newydd o dramor a defnyddio hydrogen ar gyfer cynhesu cartrefi,
cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth ledled y rhanbarth. Bydd hyn yn agor y drws i
fwy o swyddi, mwy o ffyniant ac amgylchedd glanach.”
Dywedodd Dave Richardson, cyfarwyddwr prosiect yng nghwmni datrys seilwaith clyfar Costain, sy’n arwain y prosiect defnydd ar ran y clwstwr: “Rydym yn credu fod cyfle gwirioneddol i archwilio i ostwng allyriadau carbon yn aruthrol yn rhanbarth de Cymru, a fydd nid yn unig yn cyfrannu i darged sero-net y DU, ond a fydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr aer, y swyddi a’r economi yn lleol.”
Disgwylir i’r penderfyniad am ddyfarnu’r cyllid grant gael ei wneud gan Innovate UK ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ganol fis Rhagfyr.
Am fwy o wybodaeth am Glwstwr Diwydiannol De Cymru ewch i: https://www.swic.cymru/.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Gwobr aur am ragoriaeth mewn seiberddiogelwch i PDC, y gyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr
18-12-2020

Hanesion Graddio: Mae ymchwil Annie wedi helpu i drawsnewid dysgu ar-lein yn PDC
16-12-2020

Hanesion Graddio: "Os alla i weithio drwy bandemig, alla i fynd i’r afael ag unrhyw beth!"
16-12-2020

Hanesion Graddio: Olivia wedi cadw ei ffocws ar lwyddiant gyda’i gradd er gwaethaf problemau llygaid
15-12-2020

Hanesion Graddio: "Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a dilyn eich calon”
15-12-2020

Hanesion Graddio: Taflwyd George i mewn yn y pen dwfn
14-12-2020

Hanesion Graddio: "Rwy'n falch o fod yn gwneud gwahaniaeth i'n planed"
14-12-2020

PDC yn rhan o gais ariannu £37m datgarboneiddio diwydiant
11-12-2020

Myfyrwyr PDC yn trafod iechyd meddwl gyda’r teulu brenhinol
10-12-2020