Prifysgol De Cymru i chwarae rôl flaenllaw ym mhrosiectau Mapio ac Adleoli Clwstwr Diwydiannol De Cymru

South Wales Industrial Cluster map Welsh

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) ymhlith nifer o bartneriaid diwydiant o Gymru a’r DU sydd wedi derbyn hwb sylweddol ar ffurf cymorth grant ariannol ar gyfer de Cymru wrth Innovate UK, sef asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU.

Bydd y cymorth ariannol yn cefnogi cam cyntaf prosiectau Mapio ac Adleoli Clwstwr Diwydiannol De Cymru (CDDC), sydd â’r nod o ddod o hyd i’r opsiynau gorau ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn effeithiol yn ne Cymru.

Bydd y prosiectau’n edrych ar y seilwaith sydd ei angen ar gyfer datblygu’r economi hydrogen, cipio, defnydd a storio CO2 ar raddfa fawr, cludo, yn ogystal â chyfleoedd strategol ar safleoedd sy’n benodol i bob diwydiant.

Nid yn unig fydd y prosiectau’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i daith y DU at fod yn garbon sero-net erbyn 2050, mae ganddynt y potensial i gryfhau gwytnwch economaidd diwydiant a chymunedau Cymru trwy sicrhau bod gwaith sy’n cael ei wneud yn y wlad yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Hydrogen De Cymru ym Maglan ac arweinydd academaidd Clwstwr Diwydiannol De Cymru: “Mae diwydiant yn parhau i fod yn rhan allweddol o economi de Cymru ac mae’n sector allweddol o ran ein hymdrechion i ddatgarboneiddio. Mae gwaith ymchwil y Ganolfan Hydrogen yn golygu ein bod yn ymgysylltu â nifer o bartneriaid diwydiant i amlygu llwybrau at ddatgarboneiddio, yn enwedig trwy fabwysiadu technolegau hydrogen.

“Dros y deunaw mis diwethaf, rydym ni wedi gweithio gyda Chris Williams yn Tata Steel i sefydlu a datblygu Clwstwr Diwydiannol De Cymru. Mae’n galonogol iawn bod y clwstwr wedi llwyddo i ennill y ddau brosiect pwysig hyn, a fydd yn gweld PDC yn arwain o ran ymchwil ac arloesi.

“Mae nifer o dechnolegau addawol yn bodoli sy’n gallu cael eu defnyddio i leihau allyriadau carbon o ddiwydiant, ond ein nod ni yw allyriadau carbon sero-net, er nad ydym yn meddu ar yr holl atebion eto.

“Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid diwydiant i adnabod dulliau newydd addawol sy’n gallu lleihau allyriadau carbon mewn prosesau unigol, a chyflawni buddion ehangach a fydd yn arwain diwydiant yn ne Cymru at allyriadau carbon sero-net.”

Dywedodd Chris Williams, Tata Steel a FLEXIS, ac arweinydd dros dro CDDC: “Mae’r prosiectau hyn yn cynnig cyfle i gyfuno rhaglenni datgarboneiddio amrywiol yn ne Cymru i greu un map a chynllun adleoli seilwaith ac, o ganlyniad, cefnogi uchelgeisiau sero-net Cymru.

“Bydd y cynllun rhanbarthol hwn yn galluogi diwydiant i bennu opsiynau datgarboneiddio ac felly cefnogi datblygiad strategaeth twf glân ar gyfer diwydiant yng Nghymru a darparu sail diwydiannol cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.”

Mae CDDC yn cynnwys ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys puro olew, papur, nicel, insiwleiddio, cemegion, mewnforio nwy naturiol hylifedig, cynhyrchu ceiniogau, gweithgynhyrchu cyffredinol, dur a sment. Os bydd CDDC yn symud ymlaen yn llwyddiannus trwy gamau amrywiol Her Datgarboneiddio Diwydiannol Llywodraeth y DU, byddai’n ysgogi twf glân sylweddol, creu mwy o swyddi ac yn creu cyfleoedd cenedlaethol a rhyngwladol i fusnesau’r DU. 

Yn ogystal, byddai’n gwella gallu’r DU i gynhyrchu sment a chynnyrch dur yn lleol gydag allyriadau carbon isel, a helpu i yrru dyfodol carbon isel diwydiant adeiladu’r DU a sectorau eraill, gan gynnwys amddiffyn, gweithgynhyrchu ceir a chynhyrchu ceiniogau.

CR Plus, yr ymgynghoriaeth lleihau costau cynaliadwy, effeithlonrwydd ynni a pheirianneg prosiect, fydd yn arwain y prosiect mapio, a fydd yn cynnwys y partneriaid canlynol: RWE, Progressive Energy, PDC, Celsa Manufacturing, Tata Steel, Porthladd Aberdaugleddau a Vale Europe.

Bydd yn tynnu’n helaeth ar y prosiect adleoli ac atebion hwb lleol, llai i ddarparu cynllun sy’n sefydlu cyfres o ardaloedd di-garbon lleol a fydd yn gostwng allyriadau lleol, yn creu swyddi medrus, yn gwella ansawdd aer, ac yn gwella lles ar draws de Cymru .

Dyweodd Tony Parton, Rheolwr Gyfarwyddwr CR Plus: “Bydd y cydweithrediad hwn yn darparu cyfleoedd newydd cyffrous i ddiwydiant sefydledig a’r sector diwydiannol carbon sero-net sy’n datblygu i drawsnewid de Cymru yn economi ‘gyfiawn’ fywiog wrth ddarparu twf glân go iawn.”

Bydd cam cyntaf y prosiect adleoli yn canolbwyntio ar bedwar prosiect angor mewn safleoedd sy’n gyfrifol am gyfran sylweddol o’r gweithgarwch economaidd yn ne Cymru: gwaith dur integredig Tata Steel ym Mhort Talbot, Gwaith Sment Tarmac yn Aberddawan, Purfa Valero Energy a Phwerdy CCGT RWE yn Aberdaugleddau.

O dan arweiniad y darparwr datrysiadau seilwaith, Costain, bydd y prosiect adleoli yn dod â Tata Steel, Tarmac, RWE, Valero Energy, Progressive Energy, CR Plus, Capital Law, Flexible Process Consultants a PDC ynghyd i gydweithio mewn partneriaeth ac i amlygu ffyrdd o fynd i’r afael â heriau cyffredin ac unigryw o ran datgarboneiddio a thwf glân, gan helpu’r DU i sefydlu clwstwr diwydiannol carbon sero-net cyntaf y byd erbyn 2040 ac o leiaf un clwstwr carbon isel erbyn 2030.

Dywedodd Rob Phillips, Cyfarwyddwr Sector Ynni Costain: “Trwy ddod â phartneriaid diwydiannol rhyngwladol, ymgynghorwyr arbenigol a’r byd academaidd ynghyd, byddwn yn cynhyrchu arloesiadau cyffrous sydd â’r potensial i ddatgarboneiddio’r diwydiannau hyn ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

“Mae’n argoeli’n dda ar gyfer potensial arbenigol gwybodaeth y DU a’r agenda twf glân. Wrth arwain y prosiect adleoli, gall Costain nid yn unig ddod â’n profiad pragmatig o beirianneg a darparu rhaglenni mawr, yn ogystal â thechnoleg cipio carbon esblygol, ond hefyd ein dealltwriaeth ddwfn o’r goblygiadau ehangach ar gyfer datgarboneiddio seilwaith y DU.”

Bydd gwaith ar y prosiectau angori a safleoedd diwydiannol eraill yn ne Cymru yn amlygu gwelliannau mewn prosesau ac yn asesu hyfywedd tanwydd glân i leihau allyriadau carbon, yn ogystal ag edrych ar Gipio, Defnyddio a Storio Carbon, gan nodi pa seilwaith presennol y gellir ei ddefnyddio a pha seilwaith newydd fydd ei angen.

Gyda’i gilydd, bydd y prosiectau yn anelu at ddarparu’r capasiti sydd ei angen ar gyfer economi gylchol y dyfodol a sicrhau, yn y tymor hir, bod carbon sy’n cael ei gipio na ellir ei ddefnyddio’n lleol gan ddiwydiannau eraill, er enghraifft amaethyddiaeth, yn cael ei gludo i gyfleusterau Cipio, Defnyddio a Storio Carbon fel HyNet yn Lerpwl neu Acorn yn St Fergus. Yn ogystal, bydd CDDC yn datblygu opsiynau a datrysiadau i gefnogi adleoli hydrogen rhanbarthol er mwyn sicrhau carbon sero-net erbyn 2050.

Mae’r cam cyntaf hwn yn gam tuag at sicrhau cyfran bellach o’r £131 miliwn sydd wedi cael ei ddosrannu ar gyfer Her Datgarboneiddio Diwydiannol Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol Llywodraeth y DU ac mae’n elfen allweddol o Strategaeth Twf Glân y llywodraeth.