Pum rhamant hanesyddol all fod yn ddihangfa yn ystod pandemig

Diana Wallace - Five historical romances to escape into during a pandemic - for The Conversation

Gan yr Athro Diana Wallace, Athro Llenyddiaeth Saesneg

 

Dim ond un llythyr gan ffan a gadwodd Georgette Heyer. Llythyr oedd hwnnw gan garcharor gwleidyddol o Rwmania a gododd galonnau ei chyd-garcharorion yn ystod 12 mlynedd o garchariad drwy adrodd stori Heyer, Friday’s Child.

"Yn wir," ysgrifennodd y carcharor, "llwyddodd eich cymeriadau i godi gwên, hyd yn oed pan oedd calonnau'n drwm, stumogau’n wag a'r dyfodol yn dywyll iawn!"

Ar adegau anodd, mae llawer ohonon ni’n ysu am ysgafnder, a diweddglo hapus yn ddelfrydol.  Yn ystod yr ail ryfel byd, trodd darllenwyr at nofelau rhamant hanesyddol i chwilio am orffennol oedd yn ymddangos yn fwy lliwgar na’r bywyd o ddogni a chyfyngu oedd ganddyn nhw ar y pryd.  Dywedodd gweithiwr rhyfel ifanc wrth y Sefydliad Arsylwi Torfol, oedd yn cofnodi profiadau bywyd beunyddiol, ei bod  hi'n hoffi "llyfrau'n sy’n delio â chyfnod hanesyddol pan oedd smyglwyr yn rheoli’r moroedd. Rwy'n hoffi llyfrau sy’n mynd â fi i fyd arall ymhell o realiti'r un hwn".

Mae hon yn genre lle mae menywod wedi rhagori, yn enwedig yn yr 20fed ganrif. Yn wir, erbyn canol yr 20fed ganrif roedd y nofel hanesyddol wedi dod mor gysylltiedig ag awduron benywaidd a darllenwyr "rhamant cyfnod" fel bod y genre cyfan wedi'i ddiystyru gan feirniaid fel dihangfa’n unig. Nid tan y 1990au y dechreuodd ffuglen hanesyddol gael ei chymryd o ddifri unwaith eto.

Ac eto, fel sy'n digwydd mor aml gyda ffuglen genre, mae nofelwyr hanesyddol wedi defnyddio plotiau fformiwläig a thropïau i guddio deunydd dadleuol rhag y sensoriaid.

Fel yn ystod yr ail ryfel byd, rydyn ni unwaith eto'n wynebu cyfnod anodd ac mae ein harferion darllen wedi newid i adlewyrchu hynny. Dangosodd arolwg diweddar  ein bod yn chwilio am lyfrau sy'n cynnig cysur drwy eu naratifau fformiwläig.

Mae rhamant hanesyddol yn caniatáu i ni gael ein rhyddhau ychydig o bryderon y presennol. Ond mae'r nofelau hyn yn fwy na dihangfa’n unig.  Er y gall eu naratif fod yn gyfarwydd, maen nhw hefyd yn codi cwestiynau sy’n dal yn bwysig, am wleidyddiaeth rhyw, rhywioldeb, dosbarth a chenedligrwydd.

Dyma bum enghraifft wych:

The Masqueraders (1928) gan Georgette Heyer

Ystyrir mai Heyer ddyfeisiodd y rhamant Regentaidd, ac fe’i hedmygir am ei manylion hanesyddol gywir.  Mae ganddi arddull wych (disgrifiodd ei rhyddiaith fel cyfuniad o Jane Austen a Samuel Johnson), ac mae hi hefyd yn awdur comig gwych. Mae The Masqueraders yn un o'i nofelau mwyaf difyr. Mae’r sefyllfaoedd sy’n dod yn sgil penderfyniad brawd a chwaer i gyfnewid dillad er mwyn osgoi cael eu dal a’u cosbi am fod yn Jacobeaid ar ffo yn werth eu darllen, ond mae’r nofel hefyd yn codi cwestiynau am hunaniaeth rywedd sy'n taro deuddeg hyd heddiw. Wrth ei darllen rydyn ni’n dechrau holi tybed i ba raddau y mae rhywedd yn fater o wisg, ‘masquerade’ yr ydyn ni i gyd yn ei pherfformio.

Frenchman’s Creek (1941) gan Daphne du Maurier

Mae fy nghopi bellach yn felyn gan oed ond bob tro y byddaf yn pigo i mewn iddo rwy’n cael fy nghludo i Gernyw adeg yr Adferiad a chilfachau gwyrdd, cysgodol a chudd yng nghanol yr haf lle mae llong môr-ladron wedi'i hangori'n gyfrinachol.  Ychydig cyn ei phen-blwydd yn 30 oed, mae Dona St Columb yn gadael ei gŵr a'i phlant ac yn gwisgo fel gwas caban i fynd ar anturiaethau gyda'i chariad Ffrengig o fôr-leidr.  Wedi'i hysgrifennu yn ystod y rhyfel, mae nofel du Maurier yn creu  gorffennol dychmygol sy’n rhoi cyfle i fenywod gael rhyddid i ddianc rhag eu cyfrifoldebau domestig caethiwus, ond “am noson a diwrnod” yn unig.

The Lymond Chronicles (1961-75) gan Dorothy Dunnett

Llyfr cyntaf The Lymond Chronicles. 

I’r sawl sydd â mwy o amser i ddarllen yn ystod y cyfnod cloi, mae cyfres chwe chyfrol Dunnett yn cynnig pleserau canfas hanesyddol enfawr sy'n ymestyn ar hyd a lled Ewrop yr unfed ganrif ar bymtheg, o'r Alban i Rwsia a Gogledd Affrica.  Mae ffuglen genre yn aml yn caniatáu i awduron benywaidd roi llais i gymeriadau gwrywaidd ac mae Francis Crawford o Lymond, bonheddwr carismatig o’r Alban, yn arwr sydd â’i siâr o’i broblemau ei hun. Mae’n gymeriad cymhleth sy’n aml yn cuddio y tu ôl i bersonoliaethau ffug.  Wrth i’r cymeriad ddelio gyda gwleidyddiaeth bŵer Ewrop, yn enwedig y berthynas anodd rhwng yr Alban a Lloegr, mae Dunnett yn olrhain dechrau'r byd modern pan gafodd cenedl-wladwriaethau eu creu ac y datblygodd celfyddyd a diwylliant newydd.

Tipping the Velvet (1998) gan Sarah Waters

Mae’r nofel bicarésg hon yn un danseiliol rywiol. Wedi ei gosod yn Llundain y 1890au, mae’r nofel yn defnyddio confensiynau rhamant hanesyddol i gyflwyno stori garu lesbiaidd i lenyddiaeth brif ffrwd.  Mae ei llefarydd apelgar Nan King yn ferch ddosbarth gweithiol o Whitstable. Gwerthu wystrys yw ei gwaith bob dydd, ond mae’n dechrau gyrfa neuadd gerdd fel "masher" neu ddynwaredwr dynion. Mae’n mynd yn ei blaen i weithio fel “rent boy” ac yna fel “hwren” i ddyn cyfoethog. Yn ddeallus, yn ffraeth ac yn gywrain, mae'r nofel yn ailddychmygu hanes lesbiaidd cudd. Mae’n llawn manylder cnawdol, ieithwedd ddifyr y cyfnod (mae’r teitl yn cyfeirio at weithred rywiol) ac mae’r plot yn hyfryd o gymhleth.

The Other Boleyn Girl (2001) gan Philippa Gregory

Dyma'r nofel a daniodd ein hangerdd dros y Tuduriaid ac a’n cyflwynodd ni i hanes Mary Boleyn, meistres i Harri VIII cyn i'w chwaer enwocach, Anne, ei briodi.  Gyda dwy arwres gall Gregory drechu un o broblemau mwyaf anodd rhamant hanesyddol: y ffaith ein bod eisoes yn gwybod y diweddglo gyda ffigurau hanesyddol "go iawn". (Ac mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n gwybod bod Anne Boleyn wedi cael ei dienyddio).  Mae’r nofel yn aml yn ddadleuol, a’r berthynas rhwng dwy chwaer sydd yn galon iddi, wrth iddyn nhw ddewis gwahanol ffyrdd o ymdopi â pheryglon llys y Tuduriaid a phenderfynu a ddylen nhw briodi er gwireddu uchelgais neu gariad.