Sut bydd mynd ar ddêt yn newid ar ôl y coronafeirws? Mae seicoleg yn cynnig ychydig o gliwiau

Online dating

By Dr Martin Graff, Reader in Psychology


Gallai’r arfer o fynd ar ddêt achosi dryswch mewn byd lle mae’n ymddangos y bydd rhywfaint o gadw pellter cymdeithasol, o leiaf, yn debygol am y tro. Ac er y bydd llawer o bobl wedi cynnal cyswllt neu wedi dechrau cysylltu â phartneriaid rhamantus ar-lein yn ystod y cyfnod clo, mae’n amlwg nad yw sgyrsiau fideo a negeseuon testun yn ddewis hirdymor yn lle cyswllt corfforol rhywiol (neu heb hynny, hyd yn oed).

O ran dêtio ar-lein, mae gwyddoniaeth yn rhoi ychydig o gipolwg i ni ar y ffordd y mae pobl fel arfer yn ymddwyn. Mae theori buddsoddi rhieiniol, er enghraifft, yn rhagfynegi, mewn bodau dynol (ac anifeiliaid eraill), mai’r rhyw sy’n buddsoddi’n fwyaf helaeth yn eu hepil a fydd yn fwy anodd eu plesio neu’n fwy gofalus eu dewis wrth sicrhau cymar. Buddsoddiad cymharol fach y tu hwnt i ychydig funudau o gyswllt rhywiol sydd ei angen gan wryw i atgenhedlu, tra bod angen naw mis neu fwy o ymdrech i atgenhedlu gan fenyw.

I weld sut roedd y gwahaniaethau hyn o ran rhyw yn amlwg mewn dêtio â’r rhyw arall ar-lein, fe wnaethom gynnal astudiaeth lle bu cyfranogwyr yn gweld ac yn ymateb i ffotograffau o bobl bosibl i fynd ar ddêt â nhw mewn amgylchedd dêtio ar-lein wedi’i efelychu. Cofnodwyd nifer y bobl y gwnaethon nhw ddewis mynd ar ddêt â nhw, a’r amser a gymerodd iddyn nhw wneud pob dewis. Cafodd y ffotograffau a ddefnyddiwyd eu barnu ymlaen llaw o ran lefel atyniad, a’u categoreiddio yn atyniad uchel neu isel.

I fod yn gyson â theori buddsoddi rhieiniol, canfuom fod dynion yn dewis nifer fwy o fenywod i fynd â’r ddêt â nhw, o gymharu â menywod, a’u bod yn gwneud hynny ni waeth beth oedd lefel yr atyniad yn y ffotograffau a welsant.

O ddangos ffotograffau â wynebau deniadol a wynebau llai deniadol, dewisodd y menywod fwy o’r wynebau deniadol. Dewisodd y dynion bron yr un nifer o ffotograffau deniadol â ffotograffau anneniadol. Felly, roedd menywod yn fwy gofalus eu dewis. Wrth fesur yr amser a gymerodd iddyn nhw wneud dewisiadau, cymerodd dynion a menywod fwy o amser i ystyried y ffotograffau deniadol o gymharu â’r rhai anneniadol.

Yn gryno, awgrymodd y canfyddiadau fod dynion yn cymryd mwy o amser i wneud penderfyniadau llai darbodus mewn dêtio ar-lein o gymharu â menywod.

Ond sut gallai hyn i gyd newid mewn cyfnod o bandemig? Mae ymchwil wedi dangos bod y bygythiad o ganlyniad i glefyd yn achosi i ni osgoi cyswllt â phobl sy’n peryglu ein lles ac sy’n achosi risg i’n heintio. Ond eto, yn gyffredinol, caiff ymddygiad rhamantus ei nodweddu gan angen am  agosrwydd corfforol a chyswllt corfforol, sydd i raddau helaeth yn mynd yn groes i ymddygiad sydd wedi’i gymell i aros yn rhydd o’r clefyd. Mae’n amlwg y gellid addasu ymddygiad dêtio tra bod pryderon am glefyd heintus yn parhau i effeithio ar y ffordd rydym ni’n byw.

Mae un astudiaeth ddiddorol yn awgrymu pam y gallai hyn ddigwydd. Trefnodd ymchwilwyr senario dêtio ar-lein lle roedd cyfranogwyr yn barnu lluniau o bartneriaid posibl o’r rhyw arall i’w dêtio ar agweddau yn ymwneud â “pha mor ddeniadol yw rhywun”. Hefyd, fe wnaeth yr ymchwilwyr asesu pryderon unigol cyfranogwyr am haint gan ddefnyddio mesur o’r enw “bregusrwydd canfyddedig i glefyd” (PVD). Mae hyn yn profi ein hymatebion emosiynol i fygythiad germau yn ein hamgylchoedd, a’n credoau ynglŷn â bod yn agored iddyn nhw.

Canfu’r ymchwilwyr fod cyfranogwyr â sgorau PVD uwch yn arddangos lefelau is o ddiddordeb mewn partneriaid posibl i’w dêtio ar-lein. Roedd hyn yn wir hyd yn oed pan oedd y partneriaid dêtio yn hynod ddeniadol.

Hefyd, roedd y rheiny â sgorau PVD uwch yn fwy anodd eu plesio yn gyffredinol, o gymharu â’r rheiny â sgorau PVD is. Mae’n ymddangos bod gan fygythiad clefyd rym dealladwy i leihau ein diddordeb mewn partneriaid posibl i’w dêtio ar-lein.

Mwy o bartneriaid

Ond mae canfod bygythiad o glefyd yn cael effaith arall ar ein hymddygiad dêtio a pharu. Mae menywod sy’n atgenhedlu â sawl dyn ar wahanol adegau yn gallu cynyddu amrywioldeb genetig eu plant. Mantais cael grŵp o epil sy’n amrywiol yn genetig yw y gallai o leiaf rai ohonynt feddu ar y nodweddion angenrheidiol i oroesi mewn amgylcheddau lle mae clefyd yn fygythiad amlwg.

Yn yr ystyr hwn, gallai ymddygiad paru mor amrywiol fod o fantais i fenywod. Canfu cyfres o arbrofion yn 2015 fod bygythiad clefyd difrifol (ni nodwyd unrhyw glefyd penodol), yn wir, yn dylanwadu ar strategaethau paru menywod o ran eu hawydd am fwy o bartneriaid rhywiol. O ystyried y canfyddiad hwn, gallem ni ofyn p’un a fydd y coronafeirws yn cynyddu’r awydd am amrywiaeth rywiol gan fenywod sy’n dêtio ar-lein.

Felly, at ei gilydd, mae’n ymddangos bod gwahaniaethau pendant o ran y rhywiau mewn ymddygiad dêtio ar-lein, er y gallai’r rhain amrywio ar adegau pan fydd clefyd yn achosi bygythiad penodol – yn enwedig ymhlith y rheiny sydd â chanfyddiad uwch o fregusrwydd.

Fodd bynnag, gallai rhai menywod geisio cael mwy o amrywiaeth rywiol hefyd er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd eu hepil yn goroesi. Wrth gwrs, mae hefyd yn bosibl y gallai’r rheiny sy’n poeni llai am y risg o gael eu heintio gan bobl eraill barhau i ddêtio yn ôl yr arfer.

Hefyd, mae’r pandemig o bosibl yn rhoi ychydig bach mwy o amser i bobl sy’n dêtio wella eu proffiliau a mireinio eu sgiliau cyfathrebu ar-lein, ac efallai treulio amser yn myfyrio ar yr hyn maent yn chwilio amdano mewn partner pan fydd hi’n amser iddyn nhw gael cyswllt agos â nhw.

 


This article is republished from The Conversation under a Creative Commons license. Read the original article.