Sut mae coronafeirws yn amlygu’r heriau beunyddiol sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu

Lady wearing facemask in window

Gan yr Athro Ruth Northway


Mae rhai grwpiau yn cael eu labelu’n aml fel rhai “agored i niwed”. Os ydych chi'n perthyn i un o'r grwpiau hyn - yn berson hŷn, neu'n rhywun ag anableddau dysgu er enghraifft - mae'n bosib iawn y cewch eich ystyried yn agored i niwed yn awtomatig, fel petai'n nodwedd bersonol anochel. 

Ond mae’r farn hon yn broblematig, am ei bod yn tueddu i ystyried bod bod yn agored i niwed yn gyflwr disymud. Mae ymdrin ag e fel rhywbeth sy'n anochel i rai grwpiau yn lleihau'r potensial i ystyried sut gellid helpu pobl i fod yn llai agored i niwed. Mae hefyd yn anwybyddu'r ffaith ein bod i gyd yn agored i niwed. Mae hynny’n ganlyniad o fod yn aelod o'r ddynol ryw.

Yn wir, mae COVID-19 wedi dangos mor agored i niwed mae pawb ohonom. Yn ystod 2020, rydyn ni i gyd wedi gorfod newid sut rydyn ni'n byw, ac wedi dod yn agored i beryglon colli rhyddid, cyswllt cymdeithasol ac incwm. Rydyn ni hefyd wedi gorfod delio â phryderon am ofal iechyd a wynebu ein meidroldeb ein hunain. 

Ond mae profiadau o’r fath wedi bod yn rhan o fywyd beunyddiol llawer o bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd – ymhell cyn dyfodiad coronafeirws. 

Er enghraifft, ymhlith yr oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru a Lloegr sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, dim ond 6% sydd mewn cyflogaeth â thâl neu sy’n hunan-gyflogedig. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl sydd ag anableddau dysgu yn dibynnu ar fudd-daliadau.  

Mae cyfraddau unigedd ac unigrwydd hefyd yn uchel ymhlith pobl ag anableddau dysgu, a all fod yn dibynnu ar bobl eraill i’w helpu i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.  

Cyn COVID-19 roedd tystiolaeth gref eisoes bod pobl ag anableddau dysgu yn wynebu risg uwch o farw’n gynnar neu’n ddiangen a bod cyfyngiadau hefyd arnyn nhw o ran eu mynediad at ofal iechyd priodol. 

Gall hyn fod oherwydd diffyg gwybodaeth hygyrch, neu symptomau'n cael eu hystyried ar gam yn rhan o'u hanabledd dysgu yn hytrach nag yn arwydd o afiechyd sydd angen ei drin. O ganlyniad, os a phryd y darperir triniaeth, gall fod yn hwyr neu’n aneffeithiol, ac arwain at boen a thrallod y gellid bod wedi eu hosgoi. 

Mae'n ymddangos felly, bod COVID-19 wedi arwain y boblogaeth ehangach i rannu rhywfaint o brofiad beunyddiol pobl ag anableddau dysgu.


Gwahanol raddau o fod yn agored i niwed

Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig dywedwyd yn aml nad yw'r feirws yn gwahaniaethu. Ond daeth yn amlwg bod COVID-19 yn effeithio ar wahanol grwpiau mewn gwahanol ffyrdd ac mae mwy a mwy o alw i ddeall ei effeithiau amrywiol yn well. 

Wrth i'r pandemig ledu, un o'r niweidiau roedd pobl ag anableddau dysgu efallai’n fwyaf agored iddo oedd cael eu hepgor o drafodaethau. Mae hyn wedi dechrau newid, diolch byth. 

Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lawer o bobl anabl ledled y byd, gan gynnwys rhai ag anableddau dysgu. Mae’r grŵp ymgyrchu Inclusion Europe wedi tynnu sylw at effeithiau cymdeithasol, economaidd ac addysgol sydd wedi effeithio’n arbennig ar bobl ag anawsterau dysgu. 

Yn ogystal, mae newidiadau i'r ffyrdd rydyn ni'n derbyn gofal iechyd bellach wedi bod yn heriol i lawer. Ond mae'r heriau hyd yn oed yn fwy os ydych chi'n cael anawsterau wrth ddeall gwybodaeth sy'n newydd ac weithiau'n gymhleth. Mae hyn yn debygol o gynyddu'r rhwystrau i ofal iechyd.

Mewn rhai achosion, mae coronafeirws wedi arwain at ddileu gwasanaethau cymorth dydd i ddydd ac atal darpariaeth seibiant, gan roi straen ychwanegol ar deuluoedd.

Mae llawer wedi dod yn fwyfwy dibynnol ar y rhyngrwyd i gymdeithasu â theulu a ffrindiau. Ond dyw hyn ddim yn opsiwn os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd neu os oes angen help arnoch i'w defnyddio. 

Mae'n ymddangos felly, hyd yn oed pan fo pawb yn fwy agored i niwed, bod rhai grwpiau yn dal i fod yn fwy agored i niwed nag eraill. Ond wrth i gyfyngiadau gael eu llacio'n raddol, mae pobl yn dechrau ystyried pa agweddau ar gymdeithas y gellid eu newid er gwell. Mae hyn yn creu cyfle i bawb ohonom feddwl am y cyflwr o fod yn agored i niwed a sut orau i fynd i'r afael ag e. 

Mae bod yn agored ein hunain i rai o'r niweidiau beunyddiol y gall pobl ag anableddau dysgu eu hwynebu, heb angen, yn rhoi cyfle i ni i gyd ystyried yr hyn y gallwn ni fel unigolion a chymdeithasau ei wneud i wella eu dyfodol.

Yn anochel, bydd gan bawb ei atebion ei hun. Ond does bosibl na allwn ni i gyd ddod yn fwy ymwybodol o'r rhwystrau sy'n bodoli, a gweithio i'w dileu. Mae'r optimist ynof yn mawr obeithio y bydd cymdeithas yn manteisio ar y cyfle hwn.


 Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o ‘The Conversation’ o dan drwydded Comin Creu. Darllenwch yr erthyl wreiddiol.