Athro PDC yn cyhoeddi antholeg er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan

Tony Curtis anthology.png

Mae Athro Emeritws Barddoniaeth o Brifysgol De Cymru wedi cyhoeddi casgliad o gerddi er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan, gyda chyfraniadau gan rai o awduron mwyaf adnabyddus y wlad.

Golygodd yr Athro Tony Curtis yr antholeg, o'r enw Where the Birds Sing Our Names, ar ôl gweld yn uniongyrchol sut mae'r elusen yn cynnig cysur, gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â hyd eu bywyd wedi ei gyfyngu, a'u teuluoedd.

Mae'r llyfr yn cynnwys cerddi gan Ganghellor PDC a chyn Archesgob Caergaint, Rowan Williams; y digrifwr a'r diddanwr Max Boyce; y gantores a’r gyfansoddwraig Kizzy Crawford; ac Athro Ysgrifennu Creadigol PDC, Philip Gross, ymhlith eraill.

Ar ôl bod yn angladd wyres un o’i ffrindiau, oedd wedi cael diagnosis o gyflwr yn cyfyngu ar hyd ei bywyd adeg ei geni, ac a gafodd gymorth Tŷ Hafan, roedd Tony am helpu'r elusen drwy greu casgliad o farddoniaeth a rhoi holl elw'r llyfr i'r hosbis yn y Sili.

"Mae staff Tŷ Hafan – yn rhai rheng flaen ac yn rhai gweinyddol - yn gwneud gwaith gwych," meddai.

"Mae'r ystafelloedd ar gyfer y plant a'u teuluoedd yn cynnwys offer arbenigol i helpu i wneud yr hyn sydd mor ofnadwy o anodd ychydig yn haws ei oddef.  

"Mae elusennau fel Tŷ Hafan wedi cael eu taro'n eithriadol o galed gan y pandemig, felly rwy'n falch o allu eu cefnogi a chyfrannu rywfaint at yr ymdrech i godi arian."

Ar gyfer pob plentyn sy'n marw yn yr hosbis, mae recordiad sain yn cael ei wneud o gân aderyn a gaiff ei chwarae yn nhiroedd yr hosbis, gyda chopi o'r gân yn cael ei roi i deulu'r plentyn.

Y deyrnged deimladwy hon roddodd y syniad am deitl y llyfr i Tony. Mae ei gerdd ragarweiniol, y mae hefyd yn ei adrodd yn y fideo hwn, yn esbonio mwy:


Where the birds sing our names

When the children pass on

Their names are put into Morse Code, dot and dash,

And the parents choose a song-bird –

Robin, blackbird, wren and thrush –

These name-notes are played as you pass each tree

In the woods around Tŷ Hafan, the house-haven.

Bird sings to bird across the land,

A chain of notes until the trees end

And the oceans begin. Then they fly beyond.

So imitative birds pass on these name-notes of song

 Against the murmurings of the sea:

Some kind of immortality.


Dywedodd Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan: "Mae fy nghydweithwyr a minnau'n hynod ddiolchgar i Tony am gael y weledigaeth a'r ysfa i wireddu’r prosiect hwn. Mae wedi cydweithio â beirdd nodedig o’r DU gyfan sydd wedi cyfrannu'n hael at y llyfr hyfryd hwn.

“Mae Where the Birds Sing Our Names yn antholeg o gerddi bendigedig,  gyda'r elw i gyd yn mynd i gefnogi ein gwaith gyda phlant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar hyd eu bywydau a'u teuluoedd yng Nghymru.

"Bydd pob copi gaiff ei werthu’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r hyn y gallwn ei ddarparu ar gyfer y 270 o blant yng Nghymru rydyn ni’n eu cefnogi bob blwyddyn, ac rwy'n siŵr y bydd yn anrheg Nadolig wych i bobl sy'n hoff o farddoniaeth ym mha le bynnag y bônt."

Mae antholeg Where the Birds Sing Our Names ar gael i'w phrynu nawr ar wefan Tŷ Hafan ac yn siopau elusen Tŷ  Hafan ledled De a Chanolbarth Cymru.