Darganfyddiadau newydd ynghylch pêl-droedwyr sy'n penio peli

Prof Damian Bailey

Yr Athro Damian Bailey


Ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yw'r cyntaf i ddod o hyd i dystiolaeth bod pêl-droedwyr gwrywaidd sy'n 'penio peli' yn rheolaidd mewn perygl o gael lleihad yn y llif gwaed hanfodol i'r ymennydd.

Er bod llawer o ymchwil wedi ei gwneud i gyfergydion mewn chwaraeon cyswllt, mae'r ffocws wedi tueddu i fod ar focsio, rygbi a phêl-droed Americanaidd.

Yn fwy diweddar, daeth mwy o ffocws ar bêl-droed, yn sgil marwolaeth Jeff Astle yn 2002. Yn gyn chwaraewr dros Loegr a West Brom, Jeff oedd pêl-droediwr proffesiynol cyntaf Prydain y cadarnhawyd fod ei farwolaeth wedi ei hachosi gan encephalopathi trawmatig cronig (ETC), gan godi pryderon difrifol am y gêm bêl-droed.

Mae ETC yn glefyd ymennydd dirywiol a chynyddol a ddioddefir gan unigolion (athletwyr fel arfer) sydd â hanes o anafiadau i'r pen. Yn achos Jeff Astle, y trawma mynych, lefel isel i’r ymennydd, y credwyd ei fod wedi ei achosi gan benio’r bêl yn aml wrth chwarae pêl-droed, oedd yn gyfrifol am yr anafiadau.

Ers hynny, mae pump aelod o dîm buddugol Lloegr yng Nghwpan y Byd 1966 wedi cael diagnosis o ddementia, gan ddangos cysylltiad posibl arall rhwng penio’r bêl ac anafiadau i'r ymennydd.

Roedd ymchwiliad PDC a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys 16 o bêl-droedwyr gwrywaidd, amatur o oedran tebyg gyda phrofiad o benio peli.  Roedd gan bob un ohonynt iechyd cyffredinol da a dim hanes o gyfergydion. 

Gan ddefnyddio uwchsain, sganiwyd eu hymenyddiau tra oeddent yn gorffwys ac yn ystod sialensau anadlu a gynlluniwyd i ysgogi newidiadau i lif gwaed. Mae cyfyngiadau i’r llif gwaed i'r ymennydd, yn gorffwys neu mewn ymateb i'r sialensau anadlu hyn, wedi'u cysylltu â namau gwybyddol a dementia. Defnyddiwyd profion hefyd i asesu effeithlonrwydd ymenyddiau’r pêl-droedwyr, o ran eu cof, eu hystwythder meddyliol, a’u cydsymud.

Cymharwyd y chwaraewyr â grŵp rheoli a gafodd eu dewis i gyfateb â’r pêl-droedwyr o ran yr hyn sy’n dylanwadu ar lif gwaed i'r ymennydd megis oedran, rhyw, ffitrwydd ac addysg. Nid oedd ganddyn nhw ‘chwaith hanes o gyfergdyion, ond yn bwysig, doedden nhw ddim wedi cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon cyswllt.

Canfu tîm ymchwil PDC, dan arweiniad yr Athro Damian Bailey, er nad oedd unrhyw wahaniaeth yn llif y gwaed i'r ymennydd rhwng y grwpiau prawf tra'u bod yn gorffwys, yn ystod cyfnodau pan oedd y corff yn cael ei herio, roedd ymenyddiau’r pêl-droedwyr yn llai ymatebol.  Roedd ymenyddiau’r pêl-droedwyr hefyd yn llai effeithlon o ran eu swyddogaethau.  Felly, roedd y diffygion niwrolegol yn debygol o fod wedi eu hachosi gan benio’r bêl yn rheolaidd.

Dywedodd yr Athro Bailey: "Rydyn ni'n gwybod bod cyfergydion yn digwydd mewn pêl-droed fel mewn unrhyw chwaraeon cyswllt. Mae tua 1-5% o'r anafiadau mewn pêl-droed yn gysylltiedig â chyfergydion.  Fodd bynnag, y pryder cynyddol gyda phêl-droedwyr yw effaith penio’r bêl dro ar  ôl tro, heb achosi cyfergyd, ond a allai arwain at newidiadau cynnil yn swyddogaeth yr ymennydd heb yn wybod.

"Pan fydd y penio hwn yn digwydd dro ar ôl tro mewn gyrfa sy'n rhychwantu 15 i 20 mlynedd, gall y cymhlethdodau hyn gydgrynhoi gydag effeithiau hynod ddinistriol."

Dywedodd Chris Marley, Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon, Iechyd a Gwyddor Ymarfer Corff: "Bu llawer o ymchwil i chwaraeon cyswllt a newidiadau strwythurol i'r ymennydd. Fodd bynnag, mae ein hastudiaeth yn newydd gan ei bod yn canolbwyntio ar y llif gwaed i'r ymennydd.

"Yr hyn sydd angen ymchwil pellach iddo yw sut mae ein canfyddiadau'n berthnasol o ran chwaraewyr sydd wedi ymddeol, chwaraewyr proffesiynol a chwaraewyr benywaidd. Mae hyn yn gorff go iawn o waith sydd angen ei wneud.

"Mae hefyd yn bwysig nodi bod ymenyddiau ifanc yn agored iawn i niwed.  Bydd ein hymchwil hirdymor yn ceisio adnabod biofarciwyr i ganfod anafiadau i'r ymennydd mewn athletwyr ifanc, i'w hatal a'u rheoli."