Darparu cyfleoedd i raddedigion

Venture Graduate logo

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o Venture Graduate, rhaglen gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC).

Wedi ei sefydlu yn lle Cynllun Graddedigion P-RC, nod y rhaglen yw creu dull symlach o ddarparu cyfleoedd perthnasol i raddedigion.

Mae'r fenter bellach yn cynnig model carfannau a fydd yn derbyn ymgeiswyr dair gwaith y flwyddyn, cronfa dalent o raddedigion yn barod i gael eu penodi, gwell arbenigedd recriwtio, a gwell technegau recriwtio a llunio rhestrau byr. Bydd yn gweithredu system o ymgeisio drwy fideo a chanolfannau asesu ar-lein, gan gynnig dull strwythuredig o ymgysylltu â busnesau a chymorth recriwtio yn ystod y cam ymgeisio a chyfweld i arbed amser ac adnoddau.

Bydd hyn yn ychwanegol at gyngor a chymorth gyda chreu disgrifiadau swydd, cymwysterau wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer y graddedigion, cyfleoedd marchnata i fusnesau sy'n rhan o'r cynllun, a chyfleoedd rhwydweithio a mentora mewn partneriaeth â Global Welsh.

Cyflwynir yr holl swyddi graddedig mewn partneriaeth â phedair prifysgol P-RC, sef PDC, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Dim ond un o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i raddedigion PDC yw'r bartneriaeth gyda Venture Graduate. 

Mae'r tîm Cymorth Gyrfaoedd i Raddedigion, Springboard +Plus  (yn rhan o Yrfaoedd PDC) yn darparu ystod o gymorth i raddedigion, gan gynnwys hyfforddiant gyrfa 1 wrth 1, lleoliadau wedi'u hariannu'n llawn, adnoddau ar-lein, digwyddiadau cyflogwyr unigryw, a sesiynau sgiliau a dosbarthiadau meistr. Gall pawb sydd wedi graddio’n ddiweddar elwa o'r cymorth gyrfaoedd cyfoethog hwn.

Dywedodd Lloyd Williams, Rheolwr Datblygu Cyflogadwyedd PDC: "Ar ôl bod yn rhan o'r cynllun o'r cychwyn cyntaf i gefnogi'r cyswllt â phrifysgolion y rhanbarth, mae wedi bod yn wych gweld cynifer o raddedigion - gan gynnwys nifer dda o PDC - yn elwa o'r interniaethau hyn ac yn cychwyn eu gyrfaoedd gyda chyflogwyr lleol sy’n cyflogi graddedigion."

Mae manylion llawn Venture Graduate ar gael yn www.venturewales.org