Diwrnod Cenedlaethol Athrawon: "Alla i ddim dychmygu peidio â dysgu mewn ysgol Gymraeg bellach"

Carys Bowen Primary Teaching Student on placement at Ysgol Gymraeg Casnewydd crop.jpg

Yn sgil gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn athrawon cyfrwng Cymraeg newydd gymhwyso, galwodd Comisiynydd y Gymraeg am 'ymyrraeth sylweddol' i sicrhau gwir gynnydd yn nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Graddiodd Carys Bowen, sy’n 21 oed ac yn dod o Bontypridd, yn athro cyfrwng Cymraeg cymwysedig o Brifysgol De Cymru (PDC) yr haf diwethaf, ac yn ddiweddar mae wedi dechrau dysgu'n llawn amser.  

O deulu rhugl eu Cymraeg, mynychodd Carys ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, roedd ychydig yn betrus ynghylch parhau â'i haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd:

"Roeddwn i'n bwriadu gwneud y radd addysg yn Saesneg, oherwydd fy mod i’n teimlo'n fwy hyderus yn ysgrifennu traethodau yn Saesneg. Fodd bynnag, es i am gyfweliad yn PDC a sonion nhw am y gefnogaeth iaith fyddai ar gael i fi, a rhoddodd hwnnw’r hwb oedd ei angen arna i.  

Fe gawson ni ddarlithoedd ar sut i wella ein Cymraeg academaidd. Hyd yn oed fel siaradwr rhugl, roedd y rhain yn hynod ddefnyddiol. Cafodd pawb fudd ohonyn nhw. Yn ystod fy ail flwyddyn, rhoddodd darlithydd adborth calonogol i fi ar y gwelliant yn fy sgiliau iaith a chymaint mwy hyderus yr oeddwn i. "

Mae Carys bob amser wedi mwynhau gweithio gyda phlant. Yn yr ysgol gyfun, helpodd i redeg clybiau drama a darllen i blant iau:

"Dyna wnaeth i fi sylweddoli’r effaith y gallwch ei chael, mewn cyfnod mor fyr. Roeddwn i am barhau â hynny yn fy ngyrfa.

Yn ystod y radd, fe aethon ni ar leoliadau gwaith mewn ysgolion, a helpodd fy hyder flwyddyn ar ôl blwyddyn. Hefyd, wrth astudio ar gampws PDC yng Nghasnewydd, roedd gyda ni fynediad at y dechnoleg a'r adnoddau diweddaraf,  ac roedd ein gweithdai wedi eu trefnu ar batrwm ystafell ddosbarth. Roedd hyn wir yn bwysig, i ddatblygu ein sgiliau addysgu, ond hefyd i ddysgu o safbwynt y plentyn.

Bellach yn dysgu plant Blwyddyn 5 yn Ysgol Gymraeg Casnewydd, mae Carys yn deall yr heriau sy'n wynebu addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl y cyfnod clo:

"Dim ond 2% o ddisgyblion sy'n dod o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad, felly rydyn ni’n annog y plant i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg unwaith eto,  ac adennill eu hyder.

Mae lefelau gallu amrywiol o fewn pob ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, ein gwaith ni yw cefnogi pob plentyn beth bynnag fo'i allu, fel y gallan nhw i gyd ffynnu gyda'i gilydd.

Mae'r Gymraeg yn bwysig i fi gan fy mod i o deulu o siaradwyr Cymraeg. Roedd Mam yn siarad Cymraeg a Saesneg â fi pan o'n i'n tyfu fyny. Mae fy nheulu estynedig yn dod o orllewin Cymru lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad mwy. Byddwn wrth fy modd yn gweld  mwy o bobl yn ne Cymru yn defnyddio'r iaith,  yn dathlu ein hiaith ac mor anhygoel y mae hi.  Rwy'n gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg.

Mae galw am fwy o athrawon cyfrwng Cymraeg. Mae'r Gymraeg yn ffynnu yn ne ddwyrain Cymru ac mae helpu plant i’w dysgu yn fraint. Alla i ddim dychmygu peidio ag addysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg erbyn hyn. "

Dywedodd Jamie James, Pennaeth Ysgol Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Cymdeithasol PDC:  "Mae gan PDC hanes hir o gefnogi myfyrwyr i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau. Rydyn ni mor falch o'r hyn y mae Carys a chyn-fyfyrwyr fel hi o PDC yn ei gyflawni er budd dysgwyr yng Nghymru a’r tu hwnt.  

Mewn partneriaeth â'n myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid mewn ysgolion, rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod addysg yng Nghymru yn parhau i elwa ar fynediad at athrawon rhagorol, ac rydym yn arbennig o frwd dros sicrhau y gall addysg cyfrwng Cymraeg ffynnu. Felly mae mor bwysig ein bod i gyd yn parhau i weithio gyda'n gilydd i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran diwygio addysg ac o ran dyfodol y Gymraeg."