Diwrnod Hawliau’r Gymraeg: dathlu’r ‘newid byd’ ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg

Welsh Language Rights Day 2021 Baner_Banner Facebook.png

Ar 7 Rhagfyr mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am gydlynu’r diwrnod. Mae degau o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn ymuno yn y dathliadau drwy hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg a rhannu profiadau o sut mae defnyddio gwasanaethau Cymraeg wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl.

Safonau’r Gymraeg sydd wedi creu’r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu’r safonau: o gynghorau sir, i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: "Ers i safonau gael eu cyflwyno, rwyf wedi gweld newid byd o ran hawliau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Erbyn hyn, rydym yn gweld sefydliadau yn ystyried y Gymraeg wrth iddynt gynllunio eu gwasanaethau, ac yn gynyddol mae gan y cyhoedd hyder bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith. Mae’r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.

"Wrth gwrs, mae disgwyl i sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn, ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg ar yr un pryd yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth. Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad penodol bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o’r hawliau sy’n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo."

Mae Prifysgol De Cymru yn falch o gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni. Fel rhan o’r dathliadau, mae’r brifysgol yn: 

  • Lansio cwrs newydd Ymwybyddiaeth Safonau’r Gymraeg i staff a fydd yn rhoi dealltwriaeth lawn iddynt o Reoliadau Safonau’r Gymraeg
  • Cyhoeddi straeon o’n myfyrwyr Cymraeg a staff ar ba mor bwysig mae’r Gymraeg iddynt ar ein cyfryngau cymdeithasol a mewnrwyd.
  • Hybu ein modiwl cyflogadwyedd drwy gyfrwng y Gymraeg ar ein mewnrwyd i staff ac ar e-bost i’n darlithwyr er mwyn cynyddu’r nifer o fyfyrwyr Cymraeg sy’n ei astudio.
  • Cynnal digwyddiad #Maegenihawl gydag ein myfyrwyr Cymraeg a staff i godi ymwybyddiaeth o’u hawliau Cymraeg.
  • Cyhoeddi fideos Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg #Maegenihawl
Gall y cyhoedd ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â’r sefydliad drwy: 

  • Ysgrifennu atom
  • Ffonio
  • Mynychu cyfarfodydd
  • Pori’n gwefan.

Dywedodd Gwawr Taylor, Is-ysgrifennydd y Brifysgol a Phennaeth y Gymraeg: "Mae’r Diwrnod Hawliau yn gyfle i ni ddathlu pwysigrwydd y Gymraeg yn ein prifysgol. Rydym yn falch o gynnig ystod o wasanaethau Cymraeg i’n myfyrwyr, cyhoedd a’n staff trwy gydol y flwyddyn. Mae’r gallu i’n cwsmeriaid i ddewis pa iaith yr hoffent ddefnyddio yn hollbwysig i ni ac iddyn nhw."

Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl neu fynd i welshlanguagecommissioner.wales.