Dyfarnodd arloeswyr creadigol £850,000 i wireddu syniadau
06-07-2021
Mae menter i sbarduno arloesedd yn sectorau sgrîn a newyddion de Cymru wedi cyhoeddi 27 o brosiectau fel rhan o’i rownd gyllid ddiweddaraf.
Mae Clwstwr, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn rhaglen Ymchwil a Datblygu (YaD) sy'n gweithio i feithrin cynhyrchiant yn y cyfryngau o amgylch prifddinas Cymru.
Mae carfan Clwstwr 2021 yn cynnwys gweithwyr llawrydd, busnesau newydd, gwyliau, cwmnïau cynhyrchu, stiwdios creadigol, datblygwyr gemau a thechnolegwyr.
Bydd y garfan greadigol ddiweddaraf yn archwilio meysydd sy’n cynnwys: cynhyrchu rhithwir, ffotograffiaeth, realiti rhithwir ac estynedig i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd.
Bydd prosiectau hefyd yn mynd i'r afael â ffyrdd o weithio ar ôl COVID, llwybrau at gyflogaeth a datblygu gyrfa, cynaladwyedd amgylcheddol a chynhwysiant yn sector y cyfryngau.
Ymhlith y rheini fydd yn cychwyn ar brosiectau arloesi fydd yn newid pethau mae Sugar Creative, Small and Clever Productions, Yeti Media a Gwobr IRIS.
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr: "Mae carfan Clwstwr 2021/22 yn cynnwys amrywiaeth cyffrous o brosiectau a fydd, gobeithio, yn arwain at gynnydd yng ngalluoedd arloesi sector y cyfryngau yn y rhanbarth yn ogystal â llu o gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd. Ymhlith y themâu allweddol yn y cylch hwn mae cynhyrchu rhithwir, cynhwysiant mewn ffilm a theledu, gwyliau ôl-COVID, sero net, realiti estynedig ac arloesiadau ym maes adrodd straeon.
“Bydd y prosiectau cyffrous hyn nid yn unig yn cyfoethogi ac yn amrywio'r sectorau sgrin a newyddion wrth i ni agosáu at sero net, ond byddan nhw hefyd yn gwella dealltwriaeth pobl o'u hamgylchedd, yn cyfoethogi profiad cynulleidfaoedd byddar ac â nam ar eu golwg, yn creu ffrydiau refeniw newydd i elusennau a gwella hyfforddiant gofal iechyd yn y GIG.”
Ychwanegodd yr Athro Ruth McElroy, cyd-gyfarwyddwr Clwstwr ac Athro Diwydiannau Creadigol PDC: “Rydym ni yn PDC wrth ein bodd yn manteisio ar ein harbenigedd ymchwil a datblygu i gefnogi 15 o brosiectau ymchwil a datblygu clwstwr newydd. Maent yn brosiectau amrywiol ac uchelgeisiol iawn sy'n anelu at adrodd straeon newydd a harneisio technolegau trochi a gemau newydd i wneud cynnwys a gwasanaethau gwych a fydd yn cael eu cydnabod ledled y DU ac yn rhyngwladol.
“Mae arloesi’n hanfodol i’n sector sgrin sy’n tyfu ac mae’n rheidrwydd masnachol mewn economi fyd-eang gystadleuol. Mae’r prosiectau hyn yn cynnig un llwybr i’n myfyrwyr a’n hymchwilwyr arbenigol fod yn helpu i greu’r dirwedd arloesi hon. Mae'n arbennig o braf gweld rhai o’n cwmnïau newydd graddedigion ein hunain – SR Immersive er enghraifft – yn cyrraedd yno ac yn ymgymryd ag ymchwil a datblygu yn eu blynyddoedd cyntaf o fodolaeth. Ymlaen ac i fyny!”
Ariennir Clwstwr drwy’r Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol ac mae’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Ewch www.clwstwr.org.uk i gael gwybod mwy.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

PDC yn dod yn llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon ar gyfer cynllun cynaliadwyedd
23-12-2021

Hanesion Graddio: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
22-12-2021

PDC yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd mewn partneriaeth gyda NatWest
22-12-2021

Myfyriwr ffoaduriaid yn creu podlediad arobryn i helpu pobl sy'n ceisio lloches
21-12-2021

Athro PDC yn cyhoeddi antholeg er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan
17-12-2021

PDC yn neidio 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet
17-12-2021

Petruster chwilio am gariad: pam na fyddai pobl efallai yn rhuthro i mewn i berthynas newydd y gaeaf hwn
17-12-2021

Hanesion Graddio: Pennaeth ysgol yn gwireddu uchelgais oes i ennill gradd Doethuriaeth
16-12-2021

Hanesion Graddio: Banc bwyd lleol wedi ysbrydoli Tracey i gasglu nwyddau babis
15-12-2021