Hanesion Graddio: Banc bwyd lleol wedi ysbrydoli Tracey i gasglu nwyddau babis

Tracey James 1.jpg


Mae Tracey James, o Bentre’r Eglwys (Pontypridd), yn graddio'r wythnos hon o Brifysgol De Cymru (PDC) fel Bydwraig.  Tra oedd Tracey yn brysur gyda’i  lleoliadau gwaith, ei harholiadau ac yn addysgu ei meibion gartref yn ystod y cyfnod clo - sefydlodd gynllun hefyd i gefnogi teuluoedd mewn angen.

Bellach yn gweithio fel Bydwraig Gymunedol, roedd Tracey wedi dymuno gwneud cais i astudio yn PDC ers blynyddoedd, ac aeth i bum Diwrnod Agored cyn cyflwyno ei chais.

"Roeddwn i eisiau bod yn fydwraig ers blynyddoedd, wedi fy ysbrydoli gan fy mydwraig fy hun pan ges i fy mhlentyn cyntaf. Ar ôl fy ail blentyn, dyma benderfynu bod rhaid gweithredu", meddai.

"Yn ystod yr hyfforddiant, penderfynais fy mod am fod yn Fydwraig Gymunedol. Rwy'n caru'r parhad o weld yr un bobl a dod i adnabod y menywod a'u teuluoedd, drwy’r feichiogrwydd ac wedi hynny."

Yn ystod ei hail flwyddyn, penderfynodd Tracey ei bod am helpu teuluoedd eraill, yn enwedig y rhai â babanod newydd, a allai fod yn cael trafferthion yn ystod y pandemig. Dywedodd:

"Daeth y syniad am y 'Banc Bach' ata i pan o'n i'n cerdded gyda fy mab bach i'r ysgol. Sylwais  ar arwydd mewn banc bwyd lleol yn gofyn am eitemau bwyd hanfodol.  Dyma fi’n dechrau meddwl tybed oedd unrhyw un wedi ystyried rhoi nwyddau hanfodol babis. Fel bydwraig dan hyfforddiant, roeddwn i’n teimlo bod hyn yn rhywbeth y gallwn i helpu gydag e.

"Gyda chymorth fy nghyd-fyfyrwyr anhygoel, gosodon ni flychau casglu yn yr ysbytai lle roedden ni’n gweithio, ac yn y Brifysgol.

"Cawson ni gefnogaeth gan aelodau o staff a mentoriaid a rannodd wybodaeth am ein menter ac roedd yr ymateb yn anhygoel. Dechreuodd y blychau lenwi'n gyflym iawn ac roedden ni’n gallu dosbarthu'r eitemau'n gyfartal rhwng gwahanol fanciau bwyd.

"Roedd y gefnogaeth a'r brwdfrydedd gan bawb a fu’n gysylltiedig yn falm i’r enaid ac roedd yn hyfryd gallu helpu'r teuluoedd yr oedd hi’n gymaint o fraint gofalu amdanyn nhw, pan oedd llawer yn ei chael hi'n anodd am wahanol resymau."

Oherwydd arloesedd a llwyddiant y 'Banc Bach', enwebwyd Tracey ar gyfer Gwobr Bydwraig dan Hyfforddiant y Flwyddyn yng Ngwobrau Gŵyl Mamolaeth a Bydwreigiaeth 2021.

Dywedodd Debbie Lucey, Uwch Ddarlithydd mewn Bydwreigiaeth: "Wedi'i enwebu ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth PDC yn gynharach eleni, mae’r 'Banc Bach' yn dangos natur ofalgar ein myfyrwyr, sydd nid yn unig yn gweithio'n galed i geisio rhagoriaeth academaidd ond sydd hefyd yn gymdeithasol effro.

"Diolch i Tracey yn rhannu ei syniad gyda'r myfyrwyr ar ei chwrs bydwreigiaeth, maen nhw wedi helpu llawer o deuluoedd yn Ne Cymru drwy gyfnodau anodd.  Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw."