Hanesion Graddio: 'Doeddwn i ddim yn sylweddoli y gallai menyw fod yn beiriannydd'

Michelle Russ.jpg

Michelle Russ


Doedd Michelle Russ ddim yn sylweddoli y gallai menywod fod yn beirianyddion, nac y byddai'n gallu cael swydd ei breuddwydion ryw ddiwrnod.

Ond ar ôl taith hir i’w swydd ddelfrydol, mae Michelle, sy’n 34 oed ac yn dod o Gaerdydd, wedi profi nad 'swydd i'r bechgyn' yn unig mohoni, ac mae bellach yn 'gwneud yr hyn rwy’n ei garu'.[RM(1] 

Dechreuodd taith Michelle i'w swydd bresennol – Rheolwr Dylunio Cynorthwyol gyda’r arbenigwyr peirianegol Morgan Sindall Infrastructure – mewn amgylchedd gwahanol iawn.

"Es i i Ysgol Uwchradd Cantonian yn Y Tyllgoed, ond gadawais yn fuan ar ôl fy arholiadau TGAU," dywed Michelle.

"Dechreuais wneud fy nghyrsiau Safon Uwch, ond gadewais yn fuan ar ôl dechrau gan nad oedd fy nghalon ynddi, ond doeddwn i ddim wir yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud nesaf. Doeddwn i ddim wir yn mwynhau'r ysgol a phenderfynais y byddai’n well i fi fynd i’r byd gwaith."

Ar ôl cael swydd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd, lle bu'n gweithio am bron chwe blynedd fel cynorthwyydd amgueddfa, aeth Michelle wedyn i weithio i Faenordy Llancaiach Fawr, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac wedyn i Awdurdod Harbwr Caerdydd.

Yn sgil newid cyfeiriad, symudodd i rôl newydd gyda  Llywodraeth Cymru, yn gweithio i Cymorth Hyblyg i Fusnes, yn rhoi cymorth i bobl oedd am ddechrau busnes.

"Fe wnes i fwynhau'r swydd, yn helpu pobl o'r ganolfan gyswllt ac wyneb yn wyneb, ond cafodd y rôl ei hadleoli i ogledd Cymru, felly roedd yn rhaid i fi ailfeddwl am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud," meddai Michelle.

"Wedyn fe ges i swydd yn 'ddamweiniol’ yn gweithio ar bolisi dŵr yn Llywodraeth Cymru, gan arwain ar garthffosiaeth yn y pendraw, a gwnes i sylweddoli fy mod i’n dwlu ar waith draenio."

Ar ôl 'glanio' mewn swydd roedd hi wir yn ei mwynhau, lle bu’n arwain ar rai o'r newidiadau mwyaf mewn polisi carthffosiaeth a diwygiadau i'r gyfraith yng Nghymru, dechreuodd Michelle ymddiddori fwyfwy yn ochr ‘ymarferol’ y swydd ac roedd hi am wybod mwy.

"Yr hyn roeddwn i wir ei eisiau oedd mynd i'r afael â’r manylion," meddai.

"Roeddwn i wir yn hoffi draenio a charthffosydd, a bues i’n gweithio'n uniongyrchol i Dŵr Cymru am gyfnod, lle dysgais lawer am yr hyn sydd ynghlwm wrth fod yn beiriannydd. Roedd hynny'n wych ac fe wnaeth fy helpu i ddysgu llawer mwy, cyn i fi symud i fy swydd bresennol gyda Morgan Sindall Infrastructure."

Ar ôl dilyn llwybr anghonfensiynol braidd i’r byd peirianneg, sylweddolodd Michelle y byddai'n fuddiol petai’n gwella ei gwybodaeth dechnegol am beirianneg sifil, er mwyn gallu herio a gofyn y cwestiynau roedd angen eu gofyn i'r timau dylunio roedd hi’n gweithio gyda nhw os oedd hi am symud yn ei blaen yn y maes rheoli dyluniadau.

O ganlyniad, penderfynodd, yn 2019, ei bod yn adeg dda i ennill cymwysterau peirianneg, a chofrestrodd ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

"Symudais i o'r ochr bolisi, achos fy mod i am wybod mwy a mwy am bethau. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cyflawni prosiectau a'r gwaith ymarferol ynghlwm wrth hynny," dywedodd.

"A dyna sut gyrhaeddais i Morgan Sindall Infrastructure.  Roedd gen i'r sgiliau rheoli a chyfathrebu, ond roedd angen i fi wybod mwy am yr agweddau mwy technegol ar bethau, dod i wybod am y manylion o dan yr wyneb, a gwir ddeall yr hyn roedd pobl yn ei ddweud."

Bellach yn meddu ar Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil (TBC), a chynlluniau ar y gweill i gwblhau ei gradd, mae arbenigedd Michelle eisoes wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) pan enillodd Wobr Goffa Coopers Hill ddiwedd 2017, am y papur gorau yn y Civil Engineering Journal. Mae ffocws y papur hwn yn rhywbeth mae Michelle yn dal i ymwneud ag ef, sef rheoli dŵr wyneb yn Llanelli, a sut mae hynny'n effeithio ar ansawdd dŵr a'r risg o lifogydd yn effeithio ar gartrefi.[RM(2] 

I Michelle, dim ond nawr y mae’n dechrau derbyn ei bod yn fwy nag abl i gyflawni ei gwaith i'r lefel uchaf bosibl, er gwaethaf y ffaith bod ganddi'r sgiliau, y gwobrau, y cymwysterau, a sedd ar bwyllgor ICE Cymru, i brofi hynny.

"Hyd yn oed tan yn weddol ddiweddar, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n ddigon da i wneud y gwaith hwn, gan fy mod yn fenyw," meddai.

"Doeddwn i ddim yn gwybod bod swyddi fel hyn yn agored i fenywod, roeddwn i wedi clywed y term peiriannydd, ond doeddwn i’n gwybod dim am fodolaeth y diwydiant mawr yma o ddŵr a charthffosydd a draeniau yng Nghymru. A nawr rwyf yn ei chanol hi, yn gwneud yr hyn rwy’n ei garu."