Hanesion Graddio: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
22-12-2021
Mae'r fyfyrwraig Gwaith Ieuenctid ysbrydoledig, Helen Atkins, wedi graddio o Brifysgol De Cymru (PDC), gyda Gradd BA (Anrh) mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, ar yr un pryd ag ennill ei chymhwyster Gwaith Ieuenctid Proffesiynol JNC.
Dathlodd Helen, sy'n derfynol wael gyda chanser, ei gwaith caled gyda'i darlithwyr gwaith ieuenctid, ei ffrindiau, a'i theulu mewn seremoni raddio unigryw a theimladwy.
Roedd Helen, sy'n fam i pedwar o blant ac yn fam-gu i chwech o wyrion ac wyresau, yn gwbl benderfynol y byddai'n cerdded ar draws y llwyfan i gasglu ei gradd. Dywedodd: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
Yn yr ysbryd hwn y daeth pawb at ei gilydd ar 16 Tachwedd, i ddathlu cyflawniad Helen ond hefyd i dalu teyrnged i'w gwaith, ei phenderfyniad, a'i hawydd i helpu'r bobl ifanc mae'n gweithio gyda nhw i gael gwell cyfleoedd bywyd.
Dywedodd Helen: "Allaf i ddim diolch digon i bawb yn PDC am drefnu'r digwyddiad graddio arbennig i fi a fy nheulu."
Dywedodd Mick Conroy, Arweinydd Cwrs Helen: "Roedd y tîm gwaith ieuenctid cyfan yn torri’u calonnau o glywed am ddiagnosis Helen. Braint a phleser chwerw felys felly oedd gallu dangos ein cariad at Helen, a rhoi teyrnged iddi, drwy drefnu'r digwyddiad graddio arbennig hwn iddi hi a'i theulu.
"Wrth gyfweld â Helen yn 2018, roedden ni’n gallu teimlo’n syth nad siarad gwag oedd ei sôn ei bod hi am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Fer welon ni sbarc ynddi a wnaeth i ni feddwl ei bod wir yn credu y gallai hi – ac y byddai hi – yn gwneud gwahaniaeth, ac rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod hi wedi gwneud hynny, ac yn dal i wneud!"
Cyflwynodd yr Athro Kate Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru, ei chymhwyster i Helen. Dywedodd: "Mae fy nghydweithwyr wedi dweud wrtha i mor freintiedig y maen nhw wedi bod yn addysgu a dysgu ochr yn ochr â Helen dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi dweud wrtha i am ei gwaith yng ngharchardai Eastwood Park a Chaerdydd ac mae'r cyfraniadau y mae Helen wedi'u gwneud wedi creu argraff fawr arna i. Bydd y parch a'r gofal a ddangosodd tuag at y bobl ifanc a'r menywod y bu'n gweithio ochr yn ochr â nhw wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i'w hunan-werth a'u hurddas. Byddan nhw wedi teimlo eu bod yn derbyn gofal, yn cael eu parchu, ac i Helen mae’r diolch am hynny.
"Gyda hyn mewn golwg, bydd PDC yn creu 'Gwobr Helen Atkins' ar gyfer myfyriwr Gwaith Ieuenctid a Chymunedol sydd wedi dangos penderfyniad, dycnwch a thosturi ar leoliad - fel y mae Helen ei hun wedi'i wneud. Bydd hon yn cael ei dyfarnu'n flynyddol ac yn ein galluogi i ddathlu a chofio cyflawniadau a chyfraniad Helen."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

PDC yn dod yn llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon ar gyfer cynllun cynaliadwyedd
23-12-2021

Hanesion Graddio: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
22-12-2021

PDC yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd mewn partneriaeth gyda NatWest
22-12-2021

Myfyriwr ffoaduriaid yn creu podlediad arobryn i helpu pobl sy'n ceisio lloches
21-12-2021

Athro PDC yn cyhoeddi antholeg er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan
17-12-2021

Petruster chwilio am gariad: pam na fyddai pobl efallai yn rhuthro i mewn i berthynas newydd y gaeaf hwn
17-12-2021

PDC yn neidio 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet
17-12-2021

Hanesion Graddio: Pennaeth ysgol yn gwireddu uchelgais oes i ennill gradd Doethuriaeth
16-12-2021

Hanesion Graddio: Banc bwyd lleol wedi ysbrydoli Tracey i gasglu nwyddau babis
15-12-2021