Hanesion Graddio: Llwyddiant gradd Meistr i Ammar, myfyriwr o Syria
13-12-2021
Mae cwblhau gradd Meistr yn her fawr i’r rhan fwyaf o bobl. Ond dyna wnaeth Ammar Alhalaki, fodd bynnag, tra'n byw mewn gwlad newydd, wedi ei wahanu wrth ei wraig, ac ymdopi â heriau pandemig Covid-19.
Yn wreiddiol o Syria, mae Ammar, sy'n 28 oed, wedi cael rhagoriaeth yn ei MSc Peirianneg Strwythurol o Brifysgol De Cymru (PDC), cymhwyster y mae wedi gallu ei gyflawni ar ôl ennill un o ddwy Ysgoloriaeth i Geiswyr Lloches flynyddol PDC y llynedd. Mae’r ysgoloriaeth yn talu am gost gradd Meistr, ac yn cyfrannu £1,000 tuag at gostau'n gysylltiedig ag astudio, fel costau gliniadur neu lyfrau.
Dechreuodd
taith addysgol Ammar i'w gymhwyster PDC 10 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd radd
peirianneg yn y brifysgol yn Damascus, lle parhaodd i fyw ar ôl graddio yn
2016.
Ar ôl cwblhau
ei radd, bu'n gweithio am dair blynedd, ond yna cafodd ei alw i wneud gwasanaeth
milwrol. Yn yr un flwyddyn ag y dechreuodd Ammar yn y brifysgol – 2011 – dechreuodd
rhyfel cartref yn Syria, pan drodd gwrthgodiad yn erbyn yr arlywydd yn wrthdaro
enfawr sydd wedi para’r degawd wedi hynny. Heb eisiau bod yn rhan o'r ymladd, penderfynodd Ammar geisio lloches yn y DU yn
2019, lloches sydd newydd gael ei chynnig yn ffurfiol iddo.
Wedi teithio i'r
DU, roedd Ammar yn barod i ymgartrefu yn
ei fywyd newydd, ond ychydig wedi iddo gyrraedd, daeth pandemig Covid-19 i'r
amlwg.
"Cyrhaeddais
y DU yn 2019 ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach fe siglwyd y byd gan y pandemig,"
dywedodd Ammar.
"Roeddwn
i'n gaeth i’r tŷ, heb gysylltiadau na pherthnasau yn y DU. Dyna sut bu’n rhaid
i fi fyw am chwe mis, heb fynd allan na
gwneud unrhyw beth a allai fod o fudd i fi na'r gymdeithas newydd roeddwn i'n
byw ynddi."
Newidiodd
bywyd Ammar unwaith eto pan gafodd sgwrs â'r Uwch Ddarlithydd Dr Mike Chick - a
ddaeth yn Bencampwr Ffoaduriaid cyntaf PDC yn 2019 pan ddaeth y sefydliad yn
ail Brifysgol Noddfa Cymru.
"Yn y
cyfarfod yn haf 2020 soniodd Mike am yr Ysgoloriaethau i Geiswyr Lloches.
Penderfynais wneud cais a chefais gefnogaeth fawr iawn gan PDC," dywedodd Ammar.
Bellach yn
ddeiliad gradd Meistr, mae Ammar yn
edrych ymlaen at fywyd newydd gyda'i wraig Noor wrth ei ochr.
"Rwy'n
gweithio i'w chael hi i'r DU, ond dydw i ddim yn siŵr am faint y bydd angen
disgwyl," meddai.
"O ran y
dyfodol, dydw i ddim yn gwybod eto a ydw i'n mynd i weithio neu wneud PhD yn fy
mhwnc. Ar ôl cael lloches, mae gen i lawer o waith papur i’w reoli, felly byddaf
yn penderfynu ar y dyfodol wedi i hynny i gyd ddod i drefn. Rwy'n hoff iawn o
fyw yma yng Nghymru, felly cawn weld beth fydd yn digwydd nesaf."
Mae rhagor o
fanylion am y Fwrsariaeth i Geiswyr Lloches ar gael yma Bwrsariaeth PDC i Geiswyr Lloches* |
Prifysgol De Cymru
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

PDC yn dod yn llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon ar gyfer cynllun cynaliadwyedd
23-12-2021

Hanesion Graddio: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
22-12-2021

PDC yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd mewn partneriaeth gyda NatWest
22-12-2021

Myfyriwr ffoaduriaid yn creu podlediad arobryn i helpu pobl sy'n ceisio lloches
21-12-2021

Athro PDC yn cyhoeddi antholeg er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan
17-12-2021

PDC yn neidio 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet
17-12-2021

Petruster chwilio am gariad: pam na fyddai pobl efallai yn rhuthro i mewn i berthynas newydd y gaeaf hwn
17-12-2021

Hanesion Graddio: Pennaeth ysgol yn gwireddu uchelgais oes i ennill gradd Doethuriaeth
16-12-2021

Hanesion Graddio: Banc bwyd lleol wedi ysbrydoli Tracey i gasglu nwyddau babis
15-12-2021