Hanesion Graddio: Ymchwil yn dangos bod arweinwyr effeithiol yn tueddu bod yn fwy hunanymwybodol

Nia Thomas PhD 1_web.jpg

Mae myfyriwr ymchwil o Brifysgol De Cymru wedi astudio’r cysylltiadau rhwng hunanymwybyddiaeth ac arweinyddiaeth effeithiol o fewn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Cafodd Nia Thomas, sydd â gradd yn Y Gyfraith ac sy’n awr yn gweithio mewn strategaeth yn Ysbyty Plant Great Ormond Street, radd ymchwil Doethor Gweinyddu Busnes (DBA) yn PDC.

Class of 20201_Welsh.pngYn ogystal â’i swydd bob dydd, mae’n ynad sy’n eistedd mewn achosion troseddol oedolion mewn llysoedd yn Llundain, ac mae’n ymddiriedolwr ar ran Coram Voice, elusen plant sy’n cefnogi plant sydd mewn gofal neu’n ymadael â gofal.

Roedd ei hymchwil yn ymwneud â gofyn i weithwyr y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lanw holiadur am beth oedd arweinyddiaeth effeithiol yn eu barn hwy, a bu hefyd yn cynnal cyfweliadau’n canolbwyntio ar hunanymwybyddiaeth ac arweinyddiaeth.

“Roedd fy nghasgliadau’n dweud wrthyf fod perthynas rhwng hunanymwybyddiaeth ac effeithiolrwydd arwain, a bod arweinwyr ar gael ar bob lefel o’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru,” meddai Nia, sy’n rhannu ei hymchwil ar ei blog, knowingselfknowingothers.co.uk.

“Yn gyffredinol, mae pobl a ystyrir yn arweinwyr effeithiol hefyd yn cael eu hystyried yn fwy hunanymwybodol. Dyma beth oedd y llenyddiaeth wedi bod yn dweud wrthyf. Ar y cyfan mae’r llenyddiaeth yn cysylltu hunanymwybyddiaeth cynyddol ac arweinyddiaeth effeithiol gyda phobl ar lefel uwch – ond nid dyna oedd canlyniad fy ymchwil.

“Roeddwn i’n wirioneddol ddim yn disgwyl darganfod fod pobl yn credu mai unigolion sy’n gweithio ar lefel fwyaf strategol sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru oedd â’r hunanymwybyddiaeth lleiaf, o gymharu â phobl mewn swyddi ar lefelau eraill.

“Wrth archwilio hyn ymhellach, cefais enghreifftiau gan bobl o ymddygiad yr oeddent yn ei ystyried yn brawf o arweinyddiaeth aneffeithiol, dywedwyd wrthyf sut oeddent yn teimlo bod diffyg cysylltiad rhwng gweithwyr ar lefel strategol a phawb arall, a dywedwyd wrthyf sut y gallai ymwneud â gwneud penderfyniadau fod yn help i bontio’r bwlch.”

Mae Nia wedi crynhoi canlyniadau ei hymchwil yn ei blog, yn ei Discovery Series, sy’n manylu ar y themâu a gafodd o siarad gyda gweithwyr.

Ychwanegodd: “Daeth yn eglur yn ystod fy ymchwil fod sgiliau’r gweithle’n cael eu hystyried yn galed – sgiliau a galluoedd technegol, neu’n feddal – emosiynau ac ymddygiadau. Yn wreiddiol yn hanesyddol, cafodd sgiliau a galluoedd technegol eu canfod yn bwysicach ond gyda threigl amser, caiff emosiynau ac ymddygiadau eu dyrchafu i fod yn gyfartal â, os nad yn bwysicach na sgiliau a galluoedd technegol.

“Dywedodd pobl wrthyf hefyd bod rhai safonau sefydliadol yn parhau i flaenoriaethu sgiliau a galluoedd technegol dros emosiynau ac ymddygiadau. Caiff rhai pobl ddyrchafiad yn sgil eu sgiliau a’u galluoedd technegol, ond bod eu hymddygiad a’u sgiliau â phobl yn wael a’u bod yn ddi-emosiwn. Golyga hyn na all rhai pobl ar lefel strategol adeiladu timau a pherthnasoedd effeithiol, ac na allant gyfiawnhau’r penderfyniadau a wnânt am na allant gyfathrebu’n effeithiol.”

Pan ddaeth yn amser dathlu ei DBA, doedd Nia ddim am adael i bandemig Covid-19 ddifetha ei chynlluniau – ac yn absenoldeb seremoni raddio ffisegol, penderfynodd logi ei chap a’i gŵn PDC ei hun i nodi’r achlysur gyda’r teulu, ar ôl i’r cyfyngiadau ar deithio gael eu codi.

“Mae graddio yn teimlo fel yr eisin ar y gacen ar ôl cyfnod hir o astudio,” meddai Nia.

“Oherwydd y pandemig, roeddwn yn gwybod na fyddai unrhyw ffurfioldeb na ffanffer wrth basio fy noethuriaeth, felly penderfynais gynnal fy mharti fy hun!

“Mae fy rhieni’n byw yn Nhyddewi – 250 milltir i ffwrdd – ac mae fy nheulu yng nghyfraith 150 milltir i ffwrdd yn Nhredegar, felly roeddwn am wneud ein hymweliad cyntaf i’w gweld mewn 16 mis mor arbennig â phosib.

“Roedd gen i hyd yn oed gopi o’n thesis gyda mi oedd yn hyfryd, a llwyddais i gael y lluniau hollbwysig yna y byddwn wedi’u tynnu ar ddiwrnod graddio, gyda’r holl bobl arbennig o’m cwmpas.”

Yn y dyfodol, byddai Nia hoffi ailadrodd yr astudiaeth gyda phobl wahanol ac efallai gyda gwasanaeth gwahanol er mwyn archwilio’r nodweddion tebyg a’r gwahaniaethau yn eu syniadau.

Ychwanegodd: “Rwyf wastad wedi bod yn awyddus i’m hymchwil fod o ddefnydd i bobl, felly ar y funud rwy’n gweithio ar gyfieithu fy thesis i lyfr rheoli busnes; fy mhrif fwriad yw cyfnewid yr iaith academaidd am iaith bob dydd, mwy darllenadwy y gall pawb ddefnyddio.”