Myfyriwr Cynhyrchu Cerddoriaeth ar frig y siartiau gyda chydweithrediad rap

Joe Ridgway.jpg

Mae Joe Ridgeway, myfyriwr Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) eisoes yn cael llwyddiant tro cyntaf ysgubol yn siartiau cenedlaethol y DU, diolch i'w gydweithrediad diweddaraf â'r rapiwr Prydeinig Central Cee yn cyrraedd rhif 1.

Mae Joe, sy’n 19 oed ac yn dod o Raglan yn Sir Fynwy, yn mlwyddyn gyntaf ei radd BA (Anrh)Cynhyrchu Cerddoriaeth yn PDC. Mae'r sengl, Pinging, sydd ar albwm tâp cymysg Central Cee,  Wild West, wedi mynd yn syth i rif 1 yn siart Ffrydio'r DU a rhif 2 yn y siart Albymau, ac mae eisoes wedi ei ffrydio bron 10miliwn o weithiau.

Central Cee.pngAr ôl creu'r trac offerynnol gyda chyd-gynhyrchydd a chyn gyd-ddisgybl coleg, cydweithiodd Joe ar y trac llawn gyda Central Cee i greu Pinging.

Mae Wild West bellach wedi cael ei ardystio'n drac Arian – sy'n golygu ei fod wedi gwerthu mwy na 60,000 o gopïau – ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd 100,000 o werthiannau (a’i ardystio’n Aur) o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae Joe hefyd wedi rhyddhau cân yn ddiweddar gydag aelod o grŵp SmokeBoys (oedd yn cael eu hadnabod gynt fel Section Boyz), o'r enw Swift – Out the Mud, sydd wedi ei ffrydio 1. 5miliwn o weithiau hyd yn hyn; ac mae'n gweithio gydag artistiaid newydd yng Nghanada ac UDA, gan gynnwys y sêr ‘urban’, Kam Nasty a  LowKeyytm.

Dywedodd: "Mae llwyddiant Pinging ac albwm Wild West wedi bod yn wych, yn enwedig o ran creu rhagor o gyfleoedd cerddoriaeth a busnes. Mae llawer o ddrysau wedi agor i fi, ac rwyf wedi derbyn llawer o waith, a hynny'n fy helpu i greu rhagor o gysylltiadau o fewn y diwydiant.

"Dewisais astudio Cynhyrchu Cerddoriaeth yn PDC achos fy mod i wedi clywed pethau gwych amdano. Mae'r offer a'r cyfleusterau sydd ar gael yn anhygoel, ac mae'r darlithwyr a'r tiwtoriaid yn well nag y gallai rhywun ddychmygu . Mae’n gyffrous bod yn rhan o'r cwrs gwych hwn ac rwy'n gobeithio parhau i greu a chynhyrchu cerddoriaeth gyda rhai o artistiaid gorau'r byd."

Ychwanegodd David Coker, arweinydd cwrs Cynhyrchu Cerddoriaeth PDC: "Mae'r cwrs newydd hwn yn annog cynhyrchwyr ifanc fel Joe i archwilio agweddau creadigol a chydweithredol cynhyrchu cerddoriaeth. Ein nod yw cefnogi'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr, ‘beatmakers’ a DJs i greu argraff o fewn y diwydiant."

Darganfyddwch fwy am astudio Cerddoriaeth yn PDC.