PDC a Linc Cymru yn lansio partneriaeth strategol
08-11-2021
Dr Dan Bowers, Academic Manager for Psychology, Scott Sanders, CEO for Linc Cymru, Dr Joanne Fowler, Head of the School of Psychology and Therapeutic Studies, and Richard Davies, Executive Director of People and Place, Linc Cymru.
Ar 2 Tachwedd 2021, llofnododd Prifysgol De Cymru (PDC) a Linc Cymru (Linc), Cymdeithas Dai a darparwr Gofal, Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU), mewn digwyddiad lansio ar gampws Pontypridd. Nod y bartneriaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a bywydau pobl ledled y rhanbarth.
Gan feithrin cysylltiadau allweddol mewn ymchwil gymhwysol, lleoliadau myfyrwyr, a datblygu'r cwricwlwm, mae'r bartneriaeth gyda'r Ysgol Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig yn dangos ymrwymiad PDC i ddarparu profiadau dysgu ac addysgu sy'n seiliedig ar her ac i adeiladu partneriaethau allanol i wella lles yn y gymuned.
O dan delerau'r MoU, bydd y ddwy ochr yn ymrwymo i gefnogi gwaith myfyrwyr Seicoleg a phrosiectau ymchwil cydweithredol.
Maent eisoes yn gweithio tuag at y cydweithrediadau canlynol:
• Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) wedi ariannu dau brosiect ymchwil.
• Cyd-greu'r cwrs MSc mewn Seicoleg (Trosi) newydd (cyflwyno ar-lein).
• Mae myfyrwyr israddedig PDC yn gweithio ar friffiau byw yn gwerthuso prosiect Linc Cymru a Phlant yng Nghymru.
• Mae PDC yn darparu therapi cerddoriaeth o fewn cynllun Gofal Ychwanegol Linc.
Yn y digwyddiad, llofnodwyd y cytundeb gan y Prif Swyddog Gweithredol, Scott Sanders, a Richard Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol People and Place, o Linc, a Dr Jo Fowler, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg ac Ymarfer Therapiwtig.
Dywedodd Dr Rachel Taylor, Arweinydd Cwrs MSc Seicoleg: “Mae'r cydweithrediad hwn yn hanfodol i fyfyrwyr Seicoleg PDC gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt gyd-destunoli eu dysgu yn y byd go iawn. Mae mwyafrif y myfyrwyr Seicoleg eisiau helpu pobl ac mae'r bartneriaeth hon yn gyfle iddyn nhw wneud hynny.”
Dywedodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol People and Place, Linc: “Mae lansio ein partneriaeth â PDC yn gam sylweddol ymlaen wrth i ni geisio defnyddio ymchwil er budd a lles ein cwsmeriaid a’n cymunedau lleol.
“Roedd y digwyddiad yn arddangosfa fendigedig o sut y gall cydweithredu ein helpu i feddwl yn wahanol, a phleser oedd clywed gan fyfyrwyr sydd eisoes yn elwa o’r cyfle i ennill profiad yn ein sector. Roedd eu hangerdd a'u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth ym mywydau eraill yn amlwg.
“Yn Linc, ein pwrpas yw 'creu'r amgylchedd cywir i bobl ffynnu' a chredwn, trwy weithio gydag PDC i gyd-greu cwricwlwm, darparu cyfleoedd lleoliadau myfyrwyr, a rhoi ar waith yr ymchwil a wneir, y byddwn yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i’n cwsmeriaid.
“Edrychwn ymlaen at gryfhau ein partneriaeth ac adeiladu ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar y gweill.”
Dywedodd Dr Linda Evans, Deon Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg PDC: “Mae partneriaethau fel y rhain yn hanfodol i PDC wrth i ni weithredu ein strategaeth 2030, gan sicrhau'r effaith gadarnhaol orau i'n myfyrwyr, partneriaid a chymunedau."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

PDC yn dod yn llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon ar gyfer cynllun cynaliadwyedd
23-12-2021

Hanesion Graddio: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
22-12-2021

PDC yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd mewn partneriaeth gyda NatWest
22-12-2021

Myfyriwr ffoaduriaid yn creu podlediad arobryn i helpu pobl sy'n ceisio lloches
21-12-2021

Athro PDC yn cyhoeddi antholeg er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan
17-12-2021

PDC yn neidio 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet
17-12-2021

Petruster chwilio am gariad: pam na fyddai pobl efallai yn rhuthro i mewn i berthynas newydd y gaeaf hwn
17-12-2021

Hanesion Graddio: Pennaeth ysgol yn gwireddu uchelgais oes i ennill gradd Doethuriaeth
16-12-2021

Hanesion Graddio: Banc bwyd lleol wedi ysbrydoli Tracey i gasglu nwyddau babis
15-12-2021