PDC yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd mewn partneriaeth gyda NatWest
22-12-2021
Mae partneriaeth rhwng NatWest a Phrifysgol De Cymru wedi helpu i gefnogi entrepreneuriaid benywaidd i ddechrau busnesau ac ymuno â chymuned o fenywod sydd wedi sefydlu busnesau.
Mae'r RhaglenDatblygu Menywod Entrepreneuraidd yn gyfres o ddosbarthiadau meistr a digwyddiadau sydd wedi’u hariannu’n llawn ac sy’n cael eu darparu gan PDC mewn partneriaeth â NatWest Cymru.
O ennill gwybodaeth ariannol a chyfreithiol, i ddatblygu strategaeth farchnata, mae'r menywod ar y rhaglen wedi derbyn gwybodaeth dechnegol i helpu i lansio eu busnesau newydd, ac hefyd wedi elwa ar gefnogaeth cymuned o arweinwyr busnes.
Mae'r rhaglen wedi helpu 29 o fusnesau i ddechrau, gyda 38 o sylfaenwyr benywaidd ysbrydoledig yn darparu dosbarthiadau meistr a sesiynau rhwydweithio dan arweiniad arbenigwyr. Elwodd 303 o fenywod ar y cymorth a gynigiwyd gan y rhaglen, gyda 30 yn cael cyfle ychwanegol i fynychu sesiynau hyfforddiant busnes a datblygiad proffesiynol, oedd yn mynd i'r afael â rhwystrau cyffredin sy'n wynebu entrepreneuriaid benywaidd.
Roedd Nicola
Morgan, Sylfaenydd The Welsh Facialist, yn un o'r rheiny.
Mae ei chwmni'n arbenigo mewn triniaethau i’r wyneb a gofal croen wedi’u teilwra at anghenion cwsmeriaid.
Dywedodd: "Rwyf wedi mwynhau'r rhaglen yn fawr ac wedi teimlo cefnogaeth fawr gan bawb sy'n cymryd rhan.
"Gan fy mod yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl, mae Covid-19 wedi effeithio'n ddifrifol ar fy musnes.
"Roedd gweithio ar y rhaglen hon gyda PDC a NatWest yn cynnig gwahanol opsiynau i fi a dangos gwahanol ffyrdd o gyfathrebu â chleientiaid i fy ngalluogi i gadw fy musnes ar ei draed mewn cyfnod ansicr."
Cymerodd
Cherie Arlett, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Ffasiwn Shecan Closet, ran hefyd. Mae Shecan yn gasgliad o ddillad sy'n ceisio grymuso
menywod.
Dywedodd Cherie: "Mae'r economi mor gyfnewidiol ar hyn o bryd , yn enwedig o ran dechrau busnes yng nghanol pandemig byd. Dydych chi ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Mae ceisio rhagweld sut y bydd pobl yn gwario yn dipyn o her. Mae'n rhaid i chi fod un cam ar y blaen gyda busnes beth bynnag, ond gyda'r pwysau ychwanegol hyn yn sgil y pandemig mae angen i chi fod 20 cam ar y blaen.
"Helpodd y rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd drwy ddarparu rhwydwaith cymorth o bobl o'r un anian i bwyso arnyn nhw mewn cyfnod anodd. Gwnaeth i fi ystyried hefyd sut mae'r byd yn newid, a sut y gallaf addasu a marchnata fy musnes i oroesi.
"Fy nghyngor i fenywod eraill fyddai: cadwch afael ar y weledigaeth a'r angerdd, bob amser, waeth beth sy’n digwydd, ac rydych chi'n mynd i gael cyfnodau da a rhai fydd ddim cystal. Mae ambell beth yn mynd i’ch bwrw chi ’nôl. Ond cyn belled â bod gyda chi’r angerdd a'r weledigaeth, all ddim byd eich atal chi. Byddwch yn realistig hefyd, dydych chi ddim yn mynd i fod yn filiwnydd dros nos, neu ymhen blwyddyn. Peidiwch â mynd i fusnes gan feddwl eich bod yn mynd i fynd yn gyfoethog yn gyflym, ewch i fusnes oherwydd mai dyma'r hyn rydych chi am ei wneud a’r hyn rydych chi’n credu ynddo. Yn olaf, peidiwch â’ch anghofio chi eich hun. Cadwch gydbwysedd, mwynhewch eich bywyd a pheidiwch â meddwl mai’r busnes yn unig yw eich bywyd."
Elwodd Kimberley
Thomas, sylfaenydd Handy HR, o'r rhaglen hefyd. Nod Handy HR yw gwneud Adnoddau
Dynol yn llai o ben tost ac yn fwy fforddiadwy i fusnesau bach.
Dywedodd: "Ar ddechrau 2021, roedd gen i syniad busnes, ond roeddwn i'n ansicr sut i’w droi'n realiti. Doeddwn i ddim yn hyderus, a doeddwn i erioed wedi rhwydweithio â phobl eraill ar-lein. Drwy'r rhaglen, gwnes i gwrdd â menywod anhygoel a oedd i gyd yn wynebu'r un rhwystrau. Fe gefnogon ni ein gilydd, gan gynnwys delio â diffyg hyder a’r teimlad nad ydych chi’n haeddiannol, a sut i gadw’n frwdfrydig. Mae'r rhaglen yn bendant wedi newid fy meddylfryd, a chaniatáu i fi fyw bywyd mwy cadarnhaol! Ac rwyf wedi cwrdd â chriw gwych o fenywod rwyf bellach yn eu hystyried yn ffrindiau.
"Oni bai am PDC a NatWest, byddai fy ymdrechion i gychwyn busnes wedi bod yn ynysig iawn. Rhoddodd y rhaglen gyfle i fi feithrin perthnasoedd a dysgu gan eraill. Roedd hefyd yn golygu y gallwn gynyddu fy nghysylltiadau ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol. Yn sicr, helpodd y rhaglen hon fi i fod y person yr ydw i heddiw. Hoffwn ddiolch i PDC a NatWest am wneud y daith hon yn llai unig o lawer, ac rwy’n sicr y bydd y wybodaeth rwyf wedi'i hennill yn parhau i fod o gymorth ar daith a fydd, gobeithio, yn un wych a llwyddiannus."
Dywedodd Cheryl Gourlay, o Fwrdd NatWest Cymru: "Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant ysgubol y Rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru. Mae cyrraedd a grymuso cynifer o fenywod yn gam cadarnhaol iawn ymlaen. Fel banc, rydym wedi gosod nod i’n hunain i helpu i greu 50,000 o fusnesau newydd ychwanegol erbyn 2023 ac yn hollbwysig bydd 60% yn cael eu harwain gan fenywod. Mae ariannu prosiectau fel hyn yn bwysig i ni gyrraedd mwy o fenywod a sicrhau bod mwy o fusnesau yn cael eu harwain gan fenywod ledled Cymru."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

PDC yn dod yn llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon ar gyfer cynllun cynaliadwyedd
23-12-2021

Hanesion Graddio: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
22-12-2021

PDC yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd mewn partneriaeth gyda NatWest
22-12-2021

Myfyriwr ffoaduriaid yn creu podlediad arobryn i helpu pobl sy'n ceisio lloches
21-12-2021

Athro PDC yn cyhoeddi antholeg er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan
17-12-2021

Petruster chwilio am gariad: pam na fyddai pobl efallai yn rhuthro i mewn i berthynas newydd y gaeaf hwn
17-12-2021

PDC yn neidio 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet
17-12-2021

Hanesion Graddio: Pennaeth ysgol yn gwireddu uchelgais oes i ennill gradd Doethuriaeth
16-12-2021

Hanesion Graddio: Banc bwyd lleol wedi ysbrydoli Tracey i gasglu nwyddau babis
15-12-2021