Syr Clive Sinclair: roedd ei fethiannau hyd yn oed ar flaen y gad

Sir Clive Sinclair.jpg

Mike Reddy, Uwch Ddarlithydd, Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, Prifysgol De Cymru

Mae Syr Clive Sinclair, dyfeisiwr y cyfrifiadur cartref cyntaf i gyrraedd marchnad dorfol y DU, wedi marw yn 81 oed. Yn arloeswr o ran dyfeisiau cludadwy bach, cyfrifiaduron gwirioneddol fforddiadwy, a thrafnidiaeth drydan, mae'n gadael gwaddol y mae rhai'n ei ystyried yn gyfuniad o’r gwych a’r gwachul.

Ond mae cyfraniad Syr Clive at dechnoleg Prydain, a thrwy hynny at economi Prydain, yn sicr. Yn ffigur allweddol yn hanes cyfrifiaduron cartref, creodd ddyfeisiau a gafodd eu mwynhau gan filiynau, y byddai'r rhan fwyaf ohonynt wedi methu fforddio prynu’r modelau drud oedd ar y farchnad cyn iddo lansio’i gyfrifiaduron yntau yn y 1980au.

Mae hyd yn oed y dyfeisiau y mae rhai’n eu galw’n fethiannau yn dangos mai dyfeisiwr oedd Sinclair oedd am geisio datrys problemau bob dydd yn hytrach na chreu ffortiwn bersonol. Ac roedd llawer ohonyn nhw’n rhagweld y dyfodol yn effeithiol iawn. Rhagwelodd Sinclair y byddai angen cludiant personol trydan yn y dyfodol, ac felly fe ddatblygodd gar trydan, ac yna feic trydan – ymhell cyn iddyn nhw dyfu’n ffasiynol fel y maen nhw heddiw.

Efallai fod y dyfeisiadau diweddarach hyn wedi bod yn fethiant o ran busnes, ond roeddent yn fuddugoliaeth i'r ewyllys a'r dychymyg. Sicrhaodd Sinclair ei le mewn hanes fel "tad y cyfrifiadur cartref" erstalwm, ond dim nawr mae ei greadigaethau eraill yn cael eu gwerthfawrogi. Mae gennym gyfle nawr i wneud iawn am y diffyg sylw a gafodd gynt o ran y rhain.

Llwyddiannau cynnar

Cyfraniad cynharaf Sinclair at electroneg oedd y Sinclair Executive, cyfrifiannell boced gyntaf y byd, aeth ar werth ym 1972. Er ei bod dipyn yn llai datblygedig na chyfrifianellau heddiw, sicrhaodd y Sinclair Executive enw iddo fel arloeswr technolegol.

Wedi hynny, datblygodd gyfres o gyfrifiaduron cartref gwirioneddol fforddiadwy, gan ddechrau gyda lansiad y Spectrum ZX80  yn 1980. Ar adeg pan oedd cyfrifiaduron yn dal i gael eu hystyried yn dechnoleg fforddiadwy i fusnesau a'r cyfoethog yn unig, targedodd Sinclair y farchnad dorfol, gyda chost cyfrifiadur yn llai na £100 – £440 yn arian heddiw.

Arweiniodd y cyfnod arloesol hwn at y Spectrum ZX, y cyfrifiadur cartref eiconig y saethodd llawer o bobl o oedran penodol eu bodau arallfydol cyntaf arno. Mae'r ddyfais honno, gyda'i sash trawiadol o liwiau’r enfys, yn dal i gael ei chofio'n hiraethus gan filiynau o ddefnyddwyr cyfrifiaduron cynnar. Mae’n bosibl, wrth gwrs, y byddai rhieni’r genhedlaeth honno wedi gobeithio mai at ddibenion addysg y byddai eu plant yn defnyddio’r cyfrifiadur, yn hytrach na chwarae gemau gyda bodau arallfydol!

The iconic ZX spectrum.jpgMae’n debyg na fyddai Sinclair, ’chwaith, yn rhy hoff o’r ffaith mai fel peiriant gemau mae’r Spectrum yn cael ei gofio, gan mai ei uchelgais oedd cyflwyno’r cyfrifiadur i gynifer o bobl â phosibl gan y gwyddai mai dyma fyddai’r dyfodol.

Ond, wedi i’r cyhoedd gael eu bachau arno, fe ysbrydolodd y ZX Spectrum genhedlaeth o ddylunwyr meddalwedd, gan gynnwys rhai o brif ffigurau  diwydiannau gemau a thechnoleg y DU heddiw. Y peth rhyfeddol am y cyfrifiaduron hyn oedd eu gallu i gefnogi pob math o greadigrwydd – gan gynnwys creu gemau.

Y methiannau honedig

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, credai llawer bod gyrfa Sinclair wedi colli’i phlwc.  Lansiodd gais aflwyddiannus i wneud y ZX81 yn gyfrifiadur swyddogol i’r BBC (nid y Spectrum, fel y mae llawer yn credu). Yn y pendraw daeth hwnnw’n fwy llwyddiannus na’r cyfrifiadur a ddewisodd y BBC, sef y  BBC Micro.

Dyfarnwyd contract y BBC i Acorn, a sefydlwyd gan Chris Curry a fu’n gweithio i Sinclair Research.  Cafodd y gystadleuaeth rhwng Sinclair a Curry ei phortreadu yn Micro Men BBC 4. Disgrifiwyd y sioe fel un "oedd yn wir gan mwyaf" gan gyfoedion, er i  Sinclair ei hun ddweud ei bod yn "barodi o'r gwirionedd. Doedd dim gwir ynddi. Roedd yn ofnadwy."

Mewn arddull "ffug-ddogfen" soniwyd am gar trydan C5 Sinclair, a lansiwyd ym 1985 gydag addewid i ddarparu "dyfais trafnidiaeth bersonol newydd a phwysig". Roedd gwerthiant y C5 yn drychinebus,  gyda defnyddwyr - yn ddealladwy ddigon – yn teimlo’n nerfus yn llywio drwy bob math o draffig ond ychydig fodfeddi uwchlaw’r ffordd fawr. Mae'r sioe hefyd yn cyfeirio at Quantum Leap, ymgais ofer Sinclair i fynd i gyfrifiadura busnes, gan gynnwys parodi o Syr Clive yn neidio’n ddramatig yn hysbyseb deledu'r cyfrifiadur QL.


Mae Micro Men yn adlewyrchu sut y trodd rhai yn y cyfryngau yn erbyn Sinclair ar ôl ei lwyddiannau cyfrifiadurol gynnar, a chanolbwyntio ar ei ddyfeisiadau hwyrach, yr oedden nhw’n eu hystyried yn fethiannau. Ond dyw hyn ddim yn adlewyrchu nac yn cydnabod y dylanwad cudd  y parhaodd gwaith Sinclair i'w gael.

Roedd y cwmni a enillodd gontract y BBC, Acorn Computers Ltd, ei hun yn rhan o weledigaeth ac arloesedd Sinclair. Aeth ymlaen, o dan yr enw newydd Advanced RISC Machines, neu ARM, i greu'r unedau prosesu canolog sy'n gyrru'r rhan fwyaf o'r dyfeisiau a ddefnyddiwn heddiw.

Roedd Sinclair yn sicr ar flaen y gad. Bydd cerbydau trydan yn llenwi ein ffyrdd yn ystod y degawd neu ddau nesaf, ond gallai’r Sinclair C5, a weithgynhyrchwyd ym Merthyr yng nghanol y 1980au, fod wedi dechrau'r symudiad tuag at geir trydan ddegawdau'n ôl. Nid felly y bu fodd bynnag.

Roedd Sinclair wrthi eto cyn bo hir, gyda’r Zike y tro hwn, a ryddhawyd gyntaf ym 1992. Beic trydan gyda chyflymder uchaf o 12mya oedd y Zike, ond methodd hwnnw hefyd gydio yn nychymyg defnyddwyr. Ond mae'n ymddangos bod y ddyfais hon hefyd wedi rhagweld tueddiadau yn y dyfodol mewn cludiant personol, o ystyried y llu o feiciau trydan a sgwteri sydd ar ein strydoedd heddiw.


Nid bod y gorau oedd yn gyrru Sinclair, ond bod y mwyaf fforddiadwy. Mae hwnnw'n fodel busnes y mae llawer o gwmnïau technoleg yn dal i'w efelychu. Cynnyrch oedd wedi eu creu i ddatrys problemau pob dydd oedd ei ddyfeisiau, ac ymgais i sicrhau y gallai pobl gyffredin gael mynediad at dechnoleg arloesol.

Yr awydd hwn i sicrhau budd i bobl gyffredin yw gwir gymynrodd Syr Clive, ac effaith barhaol hynny ar bobl. Mae miliynau o bobl yn cofio cyfrifiaduron cynnar Sinclair gyda mwy na hiraeth syml. Drwyddyn nhw y cafodd llawer o bobl y cyfle cyntaf i gael blas ar bŵer y cyfrifiadur, ac fe’u cyflwynwyd gan ddyfeisiwr oedd am i bobl gael mynediad at ei gynnyrch. Roedd hynny’n bwysicach iddo nag ennill enw da fel dyfeisiwr o fri.

Er gwaethaf beirniadaeth yn y cyfryngau, a chwerthin am ei ben hyd yn oed, chafodd Sinclair mo’i ddadrithio. Cadwodd yn driw i’w gyngor ei hun, sy'n cael ei ddyfynnu'n aml tan heddiw: "Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to. Dyfalbarhewch."

 

Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.