Ymchwil newydd yn dangos gostyngiad yn llif y gwaed i'r ymennydd ymhlith chwaraewyr rygbi’r undeb

Research into concussion after playing rugby

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi canfod y gall chwaraewyr proffesiynol rygbi’r undeb brofi gostyngiad yn llif y gwaed i'r ymennydd a dirywiad mewn swyddogaeth wybyddol yn ystod un tymor o chwarae.

Daeth y canfyddiadau, sydd i’w cyhoeddi yn y Journal of Experimental Physiology yfory (dydd Mercher 1 Medi), o ddilyn tîm rygbi proffesiynol yn ystod un tymor.   

Edrychodd y tîm ymchwil o Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd PDC ar yr effeithiau ar swyddogaethau ymenyddol a gallu gwybyddol y chwaraewyr rygbi, gan gynnwys y gallu i resymu, cofio, cyflawni tasgau meddyliol a llunio syniadau. Dirywiodd swyddogaethau ymenyddol pob chwaraewr a gymerodd ran yn yr astudiaeth, pan gymharwyd y canlyniadau gafwyd cyn ac ar ôl y tymor. 

Canfuwyd bod gwybyddiaeth wedi dirywio yn ystod y tymor ymhlith blaenwyr ac olwyr, er bod mwy o nam ymhlith y blaenwyr na’r olwyr. Canfu'r astudiaeth hefyd fod nifer yr achosion o gyfergydion deirgwaith yn fwy cyffredin ymhlith blaenwyr nag olwyr.  

Mae ymchwil flaenorol o fewn rygbi'r undeb wedi canolbwyntio'n bennaf ar achosion o gyfergydion, ond nid ymchwiliwyd hyd yma i effaith gorfforol cyswllt uniongyrchol cyson ar y cae.   

Nod yr astudiaeth newydd hon yw llenwi’r bylchau mewn gwybodaeth drwy dynnu sylw at 'lofnodion' ffisiolegol chwaraewyr rygbi proffesiynol sy'n agored i gyswllt cyson wrth chwarae. Gall yr ymchwil hon arwain at well triniaeth i liniaru'r effeithiau a gwneud y gamp yn fwy diogel i ymenyddiau’r chwaraewyr hyn.  

Mae'r ymchwil hon yn awgrymu bod y dirywiad yn y swyddogaeth reoleiddio llif gwaed yn gysylltiedig â ffurfio gormod o’r moleciwlau anweledig a elwir yn radicalau rhydd sy'n cylchredeg yn y llif gwaed. Os oes gormod ohonyn nhw, maen nhw’n atal pibellau gwaed rhag agor i fyny fel y dylent i gael ocsigen a glwcos i'r ymennydd oherwydd prinder ocsid nitrig, sy’n fasoymledydd.  

Mae ymchwil flaenorol wedi cysylltu cyfergydion mewn rygbi â chlefydau niwroddirywiol yn ddiweddarach mewn bywyd.  

Yr astudiaeth newydd hon yw'r gyntaf i ddangos bod y cyswllt uniongyrchol ailadroddus sy’n digwydd drwy gymryd rhan mewn rygbi'r undeb yn achosi newidiadau cynnil, ond pwysig, yng ngallu chwaraewr i reoleiddio llif y gwaed i'r ymennydd, dros un tymor. Gallai hyn o bosibl arwain at glefydau niwroddirywiol yn nes ymlaen mewn bywyd.  

Casglodd yr ymchwilwyr ddata cyn, yn ystod ac ar ôl tymor oedd yn cynnwys 31 o gemau.  

Cyn i'r tymor ddechrau, crëwyd proffil ar gyfer pob chwaraewr yn seiliedig ar ddata’n cynnwys metrigau moleciwlaidd (cludo gan y gwaed), serebrofasgwlaidd (rheoleiddio llif gwaed i'r ymennydd) a gwybyddol (cof, talu sylw, canolbwyntio).  

Yn ystod y tymor, cyfrifwyd sawl gwaith y bu pob chwaraewr unigol mewn cyswllt uniongyrchol â rhywun arall yn ystod eu hamser ar y cae.  Mapiwyd hefyd nifer yr achosion o gyfergydion er mwyn gweld beth oedd fwyaf tebygol o’u hachosi. Ar ôl i'r tymor ddod i ben, ailaseswyd proffiliau ffisiolegol y chwaraewyr a’u mapio yn erbyn digwyddiadau cyswllt uniongyrchol yn ystod y tymor.   

Gwnaed yr ymchwil gyda 21 o chwaraewyr (13 o flaenwyr ac 8 o olwyr). Anogir mwy o ymchwil yn y dyfodol i gadarnhau'r canfyddiadau hyn ar raddfa fwy.  

Dywedodd yr Athro Damain Bailey, un o awduron yr astudiaeth: "Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn annog mwy o dimau rygbi i gymryd rhan mewn astudiaethau o'r math hwn ar raddfa fwy er mwyn canfod beth yw goblygiadau gydol oes cyswllt uniongyrchol cyson a chyfergydion mewn rygbi, gan gynnwys y cysylltiadau posibl â niwroddirywiad yn ddiweddarach mewn bywyd. Ein nod yn y pen draw yw gwneud y gamp yn fwy diogel i'r chwaraewyr, i wneud mwy o  'hyfforddi’r ymennydd' drwy ymarfer corff, a lleihau'r ‘dirywiad ymenyddol' yn sgil cyswllt uniongyrchol."   

Dywedodd Tom Owens, un o gyd-awduron yr astudiaeth: "Mae cyfergydion sy'n gysylltiedig â chwaraeon yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol a chynyddol, ond yn un o'r anafiadau sy'n wynebu'r gymuned chwaraeon sy’n cael ei ddeall leiaf. Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn ystyried yr effaith y gall cyswllt uniongyrchol ei chael ar chwaraewyr rygbi'r undeb ac yn gofyn a oes perthynas â’r safle mae chwaraewr yn ei chwarae a sawl cyfergyd y mae wedi ei gael yn ystod tymor. 

"Rydyn ni’n credu y gallai’r effeithiau hyn fod yn gronnol ac mae angen mwy o ymchwil i hynny."