Ysgol haf yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd prifysgol

Summer school FCI

Mae Ysgol Haf gyntaf Prifysgol De Cymru (PDC) wedi helpu myfyrwyr ysgol a choleg o bob rhan o'r DU i ddysgu am fywyd prifysgol.

Wedi’i chynnal dros ddau ddiwrnod, daeth yr ysgol haf â grwpiau myfyrwyr ysgol/coleg ôl-16 ynghyd sydd fel rheol yn cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch.  Wedi’i drefnu gan Dîm Ehangu Mynediad Recriwtio Myfyrwyr PDC, cyflwynodd y digwyddiadau ddisgyblion i astudio ar lefel prifysgol, gan roi cyfle iddynt ddysgu mwy am eu meysydd diddordeb pwnc a chynnig sgiliau astudio arbenigol a chymorth ymgeisio ar gyfer y brifysgol.

USW Summer SchoolRoedd myfyrwyr presennol wrth law trwy gydol y dydd i arwain mynychwyr ar deithiau campws a rhannu eu profiadau o fod yn fyfyriwr yn PDC.  Teithiodd y mynychwyr i gampysau PDC o bob rhan o dde-orllewin Lloegr, Rhydychen, Gorllewin Sussex, Newcastle a thu hwnt, yn ogystal ag ardal De Cymru.

Cynhaliwyd Ysgol Haf y Diwydiannau Creadigol ddydd Mercher 25 Awst ar Gampws Caerdydd PDC a gwelwyd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai Perfformio a Chelf a Dylunio a'r Cyfryngau dan arweiniad staff academaidd.  Arddangosodd myfyrwyr eu bwrdd stori terfynol a'u prosiectau cymeriad i'w cyfoedion yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a chawsant adborth arbenigol gwerthfawr.

USW Summer SchoolCynhaliwyd Ysgol Haf STEM a Seiber ddydd Iau 26 Awst ar Gampws Trefforest PDC, ac roedd yn cynnwys sesiynau blasu mewn Peirianneg, Gwyddorau Meddygol a Mathemateg, lle cynhwysodd un o'r gweithgareddau ddysgu mecanweithiau achub bywyd.

Bydd pob myfyriwr a fynychodd yr ysgol haf sy'n cofrestru ar gwrs gradd israddedig amser llawn 3 neu 4 blynedd yn PDC yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth Ysgol Haf PDC.  Mae'r fwrsariaeth yn werth £500 a gellir ei wario ar dechnoleg a deunyddiau sy'n gysylltiedig â chwrs.