Adwaith yn creu hanes trwy ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig am yr eildro
27-10-2022
Mae Hollie Singer, un o raddedigion Prifysgol De Cymru, wedi
creu hanes gyda’i band roc indie Cymraeg, Adwaith, drwy ennill y Wobr
Gerddoriaeth Gymreig am yr eildro.
Wedi’i gyhoeddi neithiwr (dydd Mercher 26 Hydref) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dyfarnwyd y wobr o £10,000 i Adwaith ar gyfer Bato Mato, eu halbwm diweddaraf a ryddhawyd gan label annibynnol Libertino Records.
Bedair blynedd ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf, mae’r band o Gaerfyrddin wedi dychwelyd gyda’u record hir-ddisgwyliedig a gymerodd ei henw o’u tywysydd dibynadwy tra ar fwrdd y Trans-Siberian Express. Gwrandewch ar Bato Mato yma.
Ffurfiodd Hollie, a raddiodd o BA Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol yn 2020, Adwaith yn 2015 gyda Gwenllian Anthony a Heledd Owen. Enillodd y band y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am y tro cyntaf yn 2019, tra roedd Hollie yn ei hail flwyddyn o astudio. Meddai: “Rydyn ni’n hollol ecstatig. Nid oeddem yn ei ddisgwyl o gwbl! Mae ennill yr eildro – a’r bobl gyntaf i’w hennill ddwywaith, yn anhygoel ac rydym yn ddiolchgar iawn.”
Mae PDC wedi mwynhau partneriaeth ddiwydiannol gyda Libertino Records ers 2021, gan gynnig mynediad i fyfyrwyr Cerddoriaeth i ddosbarthiadau meistr, briffiau busnes pwrpasol a gwobr rhagoriaeth i raddedigion.
Dywedodd Gruff Owen, Prif Swyddog Gweithredol Libertino Records: “Rydym mor falch o Adwaith a’r hyn y maent wedi’i gyflawni gyda Bato Mato. Am daith greadigol wefreiddiol mae wedi bod o Siberia ac yn ôl i Gymru i'r band. Fe wnaethon nhw greu hanes neithiwr gydag albwm sydd wedi’i gofleidio’n rhyngwladol ac sydd wedi tanio dychymyg pobl.”
Ychwanegodd Dr Damon Minchella, Darlithydd Cerddoriaeth yn PDC a chyn fasydd Ocean Colour Scene: “Rydym wedi gwirioni tu hwnt i Hollie ac Adwaith am y gamp anhygoel hon, yn ail-ysgrifennu’r llyfrau hanes ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg. Mae’r wobr hon yn destament teilwng i’r band cyffrous, gweithgar hwn sydd wedi tyfu cymaint yn y blynyddoedd diwethaf. Llongyfarchiadau!”
Dywedodd Huw Stephens, cyflwynydd BBC Radio 1 a
chyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig: “Llongyfarchiadau a Da Iawn,
Adwaith! Maen nhw wedi ennill y WMP am yr eildro a nhw yw'r band cyntaf i wneud
hyn. Bu'r beirniaid yn dadlau a chawsant eu syfrdanu gan ansawdd pob un o'r 15
albwm. Roeddent yn teimlo bod Bato Mato gan Adwaith yn haeddu'r teitl
hwn. Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r band, sy’n parhau i wneud cerddoriaeth wych
ac yn dod o hyd i gefnogwyr newydd yn gyson.”
Ychwanegodd beirniad y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Matt Wilkinson, o Apple Music: “Gyda’u hymdeimlad diymwad o bwrpas, gweledigaeth a thwf, roedd Adwaith wedi gwneud i ni gyd gytuno bod Bato Mato yn albwm sy’n mynnu ac yn haeddu cydnabyddiaeth.”
Gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn wobr flynyddol sy’n dathlu’r gerddoriaeth newydd orau a grëwyd yng Nghymru, gan gerddorion o Gymru. Mae rhifynnau blaenorol wedi gweld albymau gan Gruff Rhys, Gwenno a Boy Azooga yn ennill, a dyfarnwyd gwobr y llynedd i Inner Song gan Kelly Lee Owens, o Sir y Fflint.
Wrth siarad am gefnogaeth Cymru Greadigol i’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, dywedodd Dawn Bowden MS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae Cymru Greadigol yn falch o gefnogi’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eto eleni. Mae’n gyfle gwych i arddangos yr amrywiaeth o genres ac artistiaid sy’n gwneud cerddoriaeth mor gyffrous yng Nghymru heddiw. Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ddathliad ac yn gydnabyddiaeth o ragoriaeth a chreadigrwydd Cerddoriaeth Cymru – a hoffwn longyfarch Adwaith ar gael ei enwi’n enillydd ac rwy’n hyderus y bydd y gronfa wobrau yn cyfrannu at eu llwyddiant yn y dyfodol.”
Cynhaliwyd y 12fed seremoni wobrwyo flynyddol am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa gyhoeddus fyw, fel rhan o Llais, gŵyl gelfyddydol ryngwladol flaenllaw Caerdydd. Yn ystod y noson cafwyd perfformiadau gan artistiaid ar y rhestr fer gan gynnwys Bwncath Bwncath – gyda chyn-fyfyriwr arall o PDC, Tom Rees o flaen llaw – a bu’n ddigwyddiad agoriadol i Llais, sy’n dychwelyd i Gaerdydd o 26-30 Hydref gyda rhestr eclectig o berfformwyr rhyngwladol.
Dysgwch fwy am gyrsiau Cerddoriaeth a Sain yn PDC
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022

Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx
20-12-2022

Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru
14-12-2022

Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022

Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022

Myfyriwr yn elwa o ddefnyddio mownt camera cadair olwyn pwrpasol
02-12-2022

Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd
01-12-2022

Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
01-12-2022

PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus
29-11-2022