Anerchiadau gan arbenigwyr o PDC yn yr Uwchgynhadledd Cartrefi CAMPUS
16-11-2022
Ymunodd arbenigwyr o Brifysgol De Cymru (PDC) ag arbenigwyr o bob cwr o'r byd yn Uwchgynhadledd Cartrefi CAMPUS gyntaf Cymru.
Wedi’i gynnal yn ICC Cymru yng Nghasnewydd a'i noddi gan Arloesedd Anadlol Cymru a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), y mae PDC yn bartner ynddo, roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gartrefi CAMPUS a thechnoleg ddigidol.
Ei nod oedd cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu seilwaith a galluoedd gweithgynhyrchu arloesol i wella iechyd, lles, a chyfoeth Cymru drwy Gartrefi CAMPUS, wedi’i gyflawni drwy gydweithio ar sail ranbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol a chan ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd peirianneg ffisegol a digidol datblygedig sy'n bodoli eisoes.
Gydag arbenigwyr o bob rhan o'r sector tai yn bresennol, bu nifer o siaradwyr o ddiwydiant a'r sector cyhoeddus yn trafod y cysyniad Cartrefi CAMPUS.
Yr Athro Andrew Ware, Athro mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol De Cymru a Chyfarwyddwr Ymchwil WIDI.
"Un agwedd hollbwysig ar gartrefi clyfar yw’r gwaith o gasglu data o gartrefi mewn modd dienw a diogel.
"Mae gan y data hwn, a gynhyrchir o amryw ffynonellau, gan gynnwys dyfeisiau clyfar a darlleniadau defnydd ynni, y potensial i gael ei ffederaleiddio a'i ddefnyddio er budd unigolion a'r gymuned ehangach.
"Er bod y cysyniad o ddata wedi’i ffederaleiddio’n gymharol newydd yng nghyd-destun tai clyfar, dangoswyd eisoes ei fod yn cynnig manteision mewn agweddau eraill ar fywyd bob dydd.
"Un enghraifft o'r fath yw Google Maps, sy'n gallu darparu gwybodaeth amser real am bethau fel tagfeydd traffig. Mae Google Maps yn gwneud hyn drwy ddefnyddio data dienw, a dderbynnir yn barhaus o ffonau sydd ag ap Google yn rhedeg arnynt, am leoliad, cyflymder, a chyfeiriad traffig. Yna mae Google yn ffederaleiddio'r data hwnnw i gyfrifo cyflymder llif traffig. Mae ffedereiddio data fel hyn o fudd i holl ddefnyddwyr Google Maps.
"Yn yr un modd, y gobaith yw y bydd data sydd wedi ei ffederaleiddio ar ôl cael ei gasglu o gartrefi yn helpu unigolion a chymunedau."
Yr Athro Sandra Esteves, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig yn PDC
"Mae fy nghyflwyniad - 'Troi Gwastraff yn Adnoddau' - yn tynnu sylw at rôl bosibl biobrosesau wrth droi gwastraff yn fathau gwahanol o adnoddau, sef ynni, cemegion, gwrtaith, proteinau, a pholymerau.
"Mae ystod eang o fathau o wastraff, ac mae’n cynnwys deunyddiau a nwyon fel allyriadau CO2, carthion, gwastraff bwyd, dur galfanedig, deunyddiau inswleiddio thermol, brwshys dannedd ac esgidiau orthopedig.
"Mae prosesau biolegol yn digwydd ar dymheredd a phwysedd isel, ac mae catalyddion microbaidd amrywiol yn creu trosiadau’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio deunyddiau neu gynhyrchion o'r biobrosesau i helpu’r trosi.
"Gall y rhain wedyn greu economïau cylchol cynaliadwy, gan gysylltu'r sector tai â'r sectorau trin dŵr a gwastraff, ynni, cemegol, a diwydiannol."
Leshan
Uggalla, Uwch Ddarlithydd yn Nghyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a
Gwyddoniaeth PDC
"Mae cysylltedd digidol yn chwarae rhan hanfodol yn y chwyldro technolegol modern a'r ffordd rydyn ni'n byw.
"Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd o ran gwneud y cysylltiadau hynny drwy dechnolegau amrywiol ac mae’r gwaith yn ehangu wrth gyrraedd mannau ledled y byd.
"Mae cysyniadau newydd fel Rhyngrwyd y Pethau (RhYP) yn rhoi gwedd newydd i ni ar y byd, drwy gyfrwng data mawr, cyfrifiadura cwmwl, a deallusrwydd artiffisial.
"Bydd y cysyniadau/technolegau hyn yn cefnogi sectorau hanfodol fel gofal iechyd, tai, gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth, a chludiant, drwy gynyddu eu heffeithlonrwydd cyffredinol a chreu gwell profiad i ddefnyddwyr yn ein cymunedau."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022

Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx
20-12-2022

Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru
14-12-2022

Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022

Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022

Myfyriwr yn elwa o ddefnyddio mownt camera cadair olwyn pwrpasol
02-12-2022

Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd
01-12-2022

Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
01-12-2022

PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus
29-11-2022