Diwrnod y Cofio | Cyn filwr yn troi at astudio wedi iddo gael ei ysbrydoli i helpu eraill
11-11-2022
Mae Dominic Maddox, 26 oed, yn gyn-filwr yn y Fyddin ac yn fyfyriwr ail flwyddyn BSc (Anrh) Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru. Wedi'i leoli yn Tidworth am bum mlynedd, roedd yn cefnogi rhai o griw’r tanciau, a dyna sbardunodd ei ddiddordeb mewn astudio seicoleg a helpu eraill.
Ac yntau bellach yn byw yn Ystrad Mynach, doedd hi ddim yn hawdd ar Dominic ar ôl gadael y Fyddin. Dywedodd: "Rwy'n dod o deulu milwrol - mae fy nhad, fy ewythr, a fy nghefndryd wedi gwasanaethu.
"Doeddwn i ddim wedi bwriadu ymuno â'r Fyddin ond roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n difaru pe na bawn i'n gwneud hynny.
"Roeddwn i'n gyfrifol am ddisgyblu a hyfforddi'r bechgyn, ond roeddwn i hefyd yn cynnig clust i wrando. Rhan o fy ngwaith oedd sylwi ar newidiadau yn eu lles neu eu hymddygiad a'u cyfeirio at gymorth pellach. Yn y pendraw, roedd llawer o’r bechgyn yn dod ata i am gyngor."
Pan adawodd Dominic y Fyddin, dioddefodd ei iechyd meddwl:
"Be sy'n gwneud y Fyddin yw'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw. Rydych chi'n ffurfio bond teuluol bron, yn datblygu meddylfryd a synnwyr digrifwch cyffredin," meddai.
"Ges i drafferth wrth ailymuno â chymdeithas, trio addasu a ffitio i mewn. Mae cyn-filwyr yn deall ei gilydd, er enghraifft rydyn ni'n deall straen emosiynol a chorfforol y swydd. Mae bob amser yn braf siarad â rhywun sydd wedi bod drwy'r un peth.
"Roeddwn i’n teimlo’n isel am dros flwyddyn. Roedd fy nheulu a ffrindiau yno i fi ac fe helpon nhw fi i wella.
"Wedyn dechreuais i ddechrau ymddiddori mewn astudio seicoleg er mwyn i fi allu helpu pobl mewn ffordd debyg. Rwy'n gobeithio symud ymlaen i wneud doethuriaeth mewn seicoleg glinigol. Ar ôl bod i’r gwaelodion fy hun, rwy’n deall sut gall pobl ddioddef."
Yn wreiddiol, ymgeisiodd Dominic am le ar y Flwyddyn Sylfaen mewn Seicoleg ond, yn ystod y broses ymgeisio, rhoddwyd ystyriaeth i’w brofiad gyda’r lluoedd arfog. Dywedodd: "Ges i gynnig lle ar y flwyddyn gyntaf yn syth, oherwydd hanes fy ngyrfa. Roeddwn i’n nerfus ynghylch elfen academaidd y gwaith astudio ond cefais fy nghyflwyno i sgiliau llyfrgell, ac rwy'n mwynhau'n fawr nawr."
Mae gan PDC draddodiad hir o gefnogi cymuned ehangach y Lluoedd Arfog ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a’u partneriaid a'u plant, a chyn-filwyr. Mae staff o’r brifysgol yn aelodau o nifer o Fyrddau a Phwyllgorau Cymru Gyfan ac maent wedi datblygu Hyb Cymru yr SCiP, sef Canolfan Dilyniant Plant y Lluoedd Arfog, gyda SSCE Cymru, sy’n cefnogi addysg plant y lluoedd arfog.
Mae PDC yn rhoi cymorth derbyn ar gyrsiau drwy Gynllun Cydnabod Dysgu Blaenorol Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio, ewch i'n gwefan neu anfonwch e-bost at Dr Ross Hall, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog PDC, sydd hefyd yn gyn-filwr, [email protected] i gael cymorth neu gyngor pellach.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022

Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx
20-12-2022

Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru
14-12-2022

Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022

Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022

Myfyriwr yn elwa o ddefnyddio mownt camera cadair olwyn pwrpasol
02-12-2022

Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd
01-12-2022

Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
01-12-2022

PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus
29-11-2022