Mis Balchder | Pam mae gweithio gyda phobl ifanc LGBT+ yn bwysig i mi

Miels Williams

Meils Williams


Meils Williams, myfyriwr Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol De Cymru, yn siarad am eu hastudiaethau, eu hymchwil a dod allan fel anneuaidd.

“Pan oeddwn i’n iau, roeddwn i’n sâl yn feddyliol. Cefais amser trawmatig a magu llawer o bwysau. Roeddwn yn hyderus o ran fy nghorff ac yn caru fy hun, ond cefais fy hun yn cwestiynu ffasiwn i’r rhai mwy o faint. Roedd y cyfan yn fenywaidd iawn ac nid oedd yn teimlo'n iawn i mi. Sylweddolais nad oedd yn rhaid i mi gydymffurfio â normau cymdeithasol o ran yr hyn y dylai person maint plws fod neu edrych fel - roeddwn i'n teimlo fy mod rhywle yn y canol.

Wrth i amser fynd yn ei flaen, collais lawer o bwysau ac fe wnes i nodi fy hun yn lesbiaidd neu cwiar ond roeddwn yn ei chael hi'n anodd labelu fy hun. Yn fy arddegau cynnar, newidiais fy enw i Jamie ond doedd hynny ddim yn teimlo 100% yn iawn, felly fe adawais i hynny basio[GA1] .

Rwy'n dod o Gernyw ac roeddwn yn perthyn i grŵp ieuenctid LBGT+ yn Plymouth. Pan wnes i droi’n 18 oed, fe wnes i wirfoddoli gyda’r grŵp a dyna a ysgogodd fy niddordeb mewn gwaith ieuenctid. Roedd yn grŵp mawr gyda 40-50 o aelodau, ac roeddwn bob amser yn teimlo’n rhan o gymuned.

Fodd bynnag, pan ddechreuais astudio yn PDC a dechrau gweithio yn y gymuned, sylweddolom nad oedd y cyfle hwnnw i bobl ifanc LGBT+ yng Nghasnewydd. Felly, sefydlodd fy ffrind Jacob a minnau’r grŵp ieuenctid LGBT+, ‘Shout Out’. Cymerodd amser hir i ddechrau arni, oherwydd y pandemig, ond rydym wedi cael adborth anhygoel ers hynny.

Rydym wedi cynnal rhai sesiynau ymwybyddiaeth mewn ysgolion gyda blynyddoedd 5 a 6. Bu heriau ond mae hefyd yn anhygoel gweld faint o gynnydd y gallwch ei wneud mewn sesiwn awr.

Rwyf bellach yn fy mlwyddyn olaf ac ar fin cyflwyno fy nhraethawd estynedig. Mae'r cyfleoedd lleoli myfyrwyr wedi bod yn anhygoel. Rwy'n gweithio i Brosiect Ieuenctid Cymunedol yng Nghasnewydd. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed. Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth o glwb ieuenctid, chwaraeon a chwarae, un i un, ac mae gennym ni hyd yn oed stiwdio gerddoriaeth.

Nid oeddwn erioed wedi gwneud gwaith ‘neilltuol’ o’r blaen. Dyma le byddai dau neu dri ohonom yn mynd allan i'r gymuned, i ble mae'r bobl ifanc, dim ond i siarad â nhw a gweld sut maen nhw'n dod ymlaen. Roedd hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y pandemig. Yr unig ryngweithiadau y byddai rhai pobl ifanc yn eu cael ag oedolion, oedd naill ai'r heddlu'n dweud wrthynt am symud ymlaen, neu athrawon yn dweud wrthynt am fwrw ymlaen â'u haddysg gartref. Felly, roedd yn hanfodol iddynt weld wyneb cyfeillgar yn cynnig cymorth trwy gyfnod heriol iawn.

Penderfynais seilio fy ymchwil traethawd estynedig ar chwaraeon a chwarae mewn gwaith ieuenctid. Doeddwn i erioed wedi bod â diddordeb mewn chwaraeon yn tyfu i fyny, ond mae hyn wedi datblygu i fod yn angerdd i mi oherwydd nid yw'n ymwneud â bod yn gystadleuol. Cawn ein harwain gan y bobl ifanc. Un wythnos gallem fod yn hyfforddi sgiliau pêl-fasged neu bêl-droed, yna wythnos arall gallai fod yn gêm ‘Cuddio’, osgoi’r bêl, ymladd dŵr, neu ffrisbi. Mae’n ymwneud â chael pawb i gymryd rhan, symud ein cyrff, a meithrin hyder.

Y llynedd, deuthum allan fel anneuaidd. Roeddwn i wedi bod yn meddwl am y peth ers tro ac roedd yn frawychus. Roedd pawb mor gefnogol; fy mam, cyd-ddisgyblion, darlithwyr ac ati. Cafodd dderbyniad da yn ‘Shout Out’ hefyd – fe wnaethom gynnal sesiwn ar ragenwau a phan ddywedais ‘fy rhagenwau yw hwy/nhw’, goleuodd wyneb un person i fyny. Fe ddywedon nhw, ‘fi hefyd’. Mae mor bwysig i bobl ifanc gael modelau rôl cadarnhaol.

Nid yw rhai o'r bobl ifanc yr wyf yn gweithio gyda nhw yn ymwybodol o sut yr wyf yn uniaethu, wedi'r cyfan, mae llawer mwy i mi na bod yn anneuaidd. Rwy'n meddwl y byddai'n wrthdyniad diangen wrth i ni weithio ar chwalu syniadau rhagdybiedig. Rwy'n cael fy ysgogi i helpu pobl ifanc yn gyffredinol. Hyd yn oed os ydyn nhw’n dweud pethau homoffobig, mae gen i barch diamod, positif tuag atyn nhw o hyd.”