16-05-2022
Joe Thomas (canol) wedi lansio casgliad o dillad addas i bob rhyw
Mae Joseph Thomas, myfyriwr Dylunio Ffasiwn ail flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi lansio casgliad o ddillad addas i bob rhyw a phob math o gorff, yn defnyddio printiau wedi'u hysbrydoli gan ddarluniau gan ei nai.
Sefydlodd y myfyriwr 22 oed, sy'n wreiddiol o Abertawe, ei frand ei hun, Haus Of Androgyny, gyda'r nod o greu dillad sydd mor gynhwysol â phosibl.
"Daeth yr
ysbrydoliaeth ar gyfer fy mrand o fy mhrofiad yn tyfu i fyny," meddai Joe.
"Roeddwn i’n ei chael hi'n anodd dod o hyd i ddillad oedd yn gweddu i fy
steil – cymysgedd o’r gwrywaidd a’r benywaidd – a doeddwn i ddim yn gweld
dillad yn siopau'r stryd fawr yn aml roeddwn i’n teimlo'n hyderus ynddyn nhw.
"Mae'n bwysig i fi bod fy nghasgliadau'n gynhwysol, a dyna pam maen nhw’n addas i bob rhyw a chynifer o wahanol fathau o gyrff."
Daeth y syniad y tu ôl i'w gasgliad diweddaraf, Maximus, o dreulio amser gyda'i nai 7 oed, Max, a ddywedodd wrth Joe mai ei freuddwyd oedd bod yn artist.
"Mae fy nheulu bob amser wedi bod mor gefnogol, felly roeddwn i eisiau gweld beth gallwn i ei wneud i helpu Max i deimlo fy mod i’n ei gefnogi yntau yn ei freuddwydion," meddai Joe.
"Treulion ni ddiwrnod
gyda'n gilydd ac fe greodd ddyluniadau anhygoel o greadigol, ac fe’u gwnes i
nhw’n brintiau. Mae pob un o ddarluniadau Max i'w gweld yn y casgliad, a dyna
pam mai Maximus yw enw’r casgliad, ar ôl Max."
Dewisodd Joe astudio Dylunio Ffasiwn yn PDC ar ôl i ffocws y maes pwnc ar foeseg a chynaliadwyedd greu argraff fawr arno, ac mae'n dweud ei fod yn rhan annatod o'i waith fel dylunydd.
"Mae'r Brifysgol yn fy helpu i baratoi ar gyfer y diwydiant ffasiwn drwy osod briffiau hynod greadigol a manwl sy'n fy helpu i wir ddarganfod pwy ydw i fel dylunydd," meddai.
"Rwy'n bwriadu adeiladu ar lwyddiant fy mrand, a chyflawni nodau eraill fel teithio gyda fy swydd neu fod yn ddylunydd neu'n gyfarwyddwr creadigol ar gyfer tŷ ffasiwn moethus.
"Mae’r dyfodol yn fy nghyffroi, achos rwy’n teimlo fy mod i wedi dod o hyd i’r union beth rwyf am ei wneud."
Dilynwch Haus Of Androgyny ar Facebook ac Instagram, neu ewch i'r wefan.
01-07-2022
30-06-2022
30-06-2022
29-06-2022
29-06-2022
28-06-2022
28-06-2022
28-06-2022
26-06-2022