Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022
(o'r chwith i'r dde) Ciera Johnson, Hilary Johnstone a Charlotte Moses
Cynhaliodd Cymdeithas Bydwreigiaeth Prifysgol De Cymru (PDC), sy'n cynnwys myfyrwyr ar y cwrs BSc (Anrh) Bydwreigiaeth, fore coffi i godi arian ar gyfer elusen leol a hanfodol.
Gan godi dros £115 mewn ychydig oriau, roedd aelodau'r gymdeithas yn gwerthu cacennau, diodydd poeth, a thocynnau raffl, ar gyfer Banc Babis Cwtch, sy'n helpu teuluoedd agored i niwed gael nwyddau sydd mawr eu hangen ar gyfer babanod.
Dywedodd Hilary Johnstone, Sylfaenydd Banc Babis Cwtch: "Rwy'n falch iawn bod y Gymdeithas Bydwreigiaeth wedi dewis codi arian ar ein cyfer ni. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar.
"Fe wnes i sefydlu Banc Babis Cwtch saith mlynedd yn ôl. Roeddwn i'n arfer maethu babanod, o’u geni tan iddyn nhw gael eu mabwysiadu. Pan wnes i ymddeol, roedd gen i'r holl nwyddau yma ar gyfer babis a dyma feddwl y gallen nhw fod o ddefnydd i rywun oedd yn methu fforddio prynu rhai newydd. Dyna sut cafodd Cwtch ei eni.
"Rydyn ni wedi helpu dros 4050 o deuluoedd. Fodd bynnag, ac mae pethau wedi newid yn fawr iawn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod nifer yr atgyfeiriadau, gan ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol ac ati, wedi dyblu o leiaf."
Dywedodd Rhiannon Kozaczynski, Cadeirydd Cymdeithas Bydwreigiaeth PDC: "Rydyn ni’n falch o gefnogi Banc Babis Cwtch a'r gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud.
"Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-aelodau a'r gymdeithas am wneud i hyn ddigwydd, yn enwedig Ciera Johnson a Charlotte Moses a drefnodd y digwyddiad, ac i bawb a ddaeth draw i brynu cacen a dweud helo.
"Fel cymdeithas, mae gyda ni gynlluniau mawr o ran codi mwy o arian a chodi ymwybyddiaeth. Ein cyflawniad mwyaf, hyd yn hyn, yw ein Coeden Goffa yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Cafodd rhai a oedd wedi colli babis yn eu teuluoedd gyfle i adael cerdyn coffa ar y goeden. O ganlyniad i'r gweithgaredd hwn, mae placiau coffa i fabanod yn cael eu cyflwyno yn ysbytai De Cymru.
"Rydyn ni hefyd yn gobeithio cefnogi elusen 'Kicks Count' a'u helpu nhw i gael y fenter bwndeli babis “enfys” yn ôl ar waith ar ôl Covid. Pecynnau ar gyfer pobl sydd wedi colli babis ac sy’n disgwyl babi 'enfys' arall yw’r rhain. Mae'n cynnwys band arddwrn y gallant ei ddefnyddio i gyfri ciciau babi.
"Ac mae mwy. Mae gyda ni ddau aelod sydd wedi rhedeg marathonau ar gyfer Cymorth i Fenywod ac rydyn ni’n gobeithio dechrau ymgyrch tlodi mislif yn PDC. Rydyn ni'n gymdeithas brysur ac eisiau gwneud gwahaniaeth."
I gael rhagor o wybodaeth am Fanc Babis Cwtch a sut i gyfrannu, ewch i'w gwefan. Mae ganddynt hefyd restr Amazon ddefnyddiol, lle gall cyfranwyr brynu eitem fydd yn cael ei chyflwyno'n uniongyrchol i Cwtch.
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

Mae Prifysgol De Cymru wedi'i gefeillio â phrifysgol Wcráin
22-12-2022

Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx
20-12-2022

Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru
14-12-2022

Myfyrwyr Bydwreigiaeth PDC yn codi arian ar gyfer teuluoedd mewn angen
12-12-2022

Prosiect rhyngwladol yn cyflwyno ymchwil i lifogydd yn Cop 27
05-12-2022

Myfyriwr yn elwa o ddefnyddio mownt camera cadair olwyn pwrpasol
02-12-2022

Tîm o’r Brifysgol yn datblygu dyfais i fonitro aer i dynnu sylw at heriau llygredd
01-12-2022

Ffilm yn amlygu mynediad i addysg i bobl ifanc ddigartref
01-12-2022

PDC yn noddi Gwobrau Busnes South Wales Argus
29-11-2022