Myfyrwyr PDC yn dathlu sioe hynod lwyddiannus gyda Theatr Hijinx

Hijinx Christmas party


Aeth myfyrwyr o Brifysgol De Cymru (PDC) i barti Nadolig yr wythnos diwethaf i ddathlu gyda grwpiau Odyssey a Telemachus Theatr Hijinx, y maen nhw wedi bod yn gweithio ar leoliad gyda nhw. Mae'r grwpiau'n cynnwys actorion niwroamrywiol a niwronodweddiadol ac mae ganddyn nhw bartneriaeth hirsefydlog â chwrs BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig PDC.

Ar gyfer eu sioe Nadolig 2022, llwyfannodd Odyssey gynhyrchiad o 'Dr Dolittle's Wild Adventure' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, y gwerthwyd pob tocyn ar ei gyfer.

Bu myfyrwyr blwyddyn gyntaf y cwrs Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn gweithio gydag Odyssey, yn cefnogi eu cyfranogwyr yn wythnosol. Gan fynychu eu hymarferion a'u gweithdai ym Mae Caerdydd, gwnaeth y myfyrwyr chwarae gemau, helpu actorion gyda’u llinellau, a thrafod eu cymeriadau yn y sioe. Buont hefyd yn gweithio gyda'r cyfranogwyr i greu pypedau adar a phryfed, oedd yn rhan amlwg o’r llwyfannu, wedi'u hysbrydoli gan ddarluniau cyfranogwyr Telemachus.

Dywedodd Eugenia Taylor, un o’r myfyrwyr: "Roedd gweithio gydag actorion Hijinx yn hwyl fawr. Ar ôl ychydig wythnosau, roedden ni wedi creu perthynas gryfach gyda nhw. Roedd defnyddio eu dyluniadau personol i greu propiau a phypedau ar gyfer eu perfformiad terfynol yn brofiad newydd sbon i fi, ond roedd gweld y dyluniadau yn cael eu defnyddio gan y perfformwyr yn foment arbennig iawn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weddill ein lleoliad yn y flwyddyn newydd."

Dywedodd Laura Welsman, Arweinydd y Cwrs Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig: "Llongyfarchiadau mawr i Hijinx ar gynhyrchiad bywiog a llwyddiannus arall. Mae'r bartneriaeth rhwng PDC a Theatr Hijinx yn parhau i ddatblygu mewn ffyrdd arloesol a chyffrous, ac mae myfyrwyr yn ei gwerthfawrogi'n fawr fel rhan o brofiad dysgu cyfoethog.

"Mae myfyrwyr yn elwa o'r profiadau uniongyrchol hyn yn hwyluso gweithdai mewn cyd-destun celf therapiwtig. Maen nhw’n dod i adnabod eu cyfranogwyr yn bersonol ac yn dod i ddeall arwyddocâd gwaith cymunedol ystyrlon y tu allan i'r brifysgol.

"Mae'r cyfranogwyr yn gwneud ffrindiau newydd o blith y myfyrwyr, yn ehangu eu profiadau, yn dysgu sgiliau celf newydd amrywiol, ac yn dathlu cyflawniadau cydweithredol.

"Roedd y parti Nadolig yn gyfle i fyfyrwyr a chyfranogwyr gwrdd yn gymdeithasol, i ddyfnhau’r berthynas rhyngddyn nhw, ac i ddathlu'r sioe anhygoel roedden ni’n ddigon ffodus i'w gweld a theimlo'n rhan ohoni. Fe chwaraeon nhw lawer o gemau, fe fwyton nhw lwyth o fins peis, fe ddawnsion nhw, ac roedd pawb wrth eu bodd."